Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cynhyrchydd

cynhyrchydd

Roedd - - yn gweld sefyllfa o'r fath yn berygl o ran tegwch i'r cynhyrchydd.

Roedd - - yn teimlo y dylai'r cynhyrchydd yn y fath amgylchiadau hawlio unrhyw gostau banc a llog yn ôl.

O'n i byth wedi gofyn i neb am waith o'r blaen, ond fe hales i lun a CV a llythyr mewn ta beth." Ar y pryd roedd cynhyrchydd y gyfres, Glenda Jones, yn chwilio am 'Olwen', ac wedi gweld llun Toni Caroll ac yn credu ei bod yn addas.

Y mae'r Cynhyrchydd yn gwarantu yn ymrwymo ac yn cytuno y:

Mewn achosion o'r fath bydd y Cynhyrchydd yn hysbysu Equity cyn terfynu'r Cytundeb.

Mewn achosion o'r fath bydd y Cynhyrchydd yn hysbysu Equity cyn dileu neu ohorio.

"Y bobl ifainc sy'n gwneud y penderfyniadau i gyd," meddai cynhyrchydd y gyfres, Bethan Eames.

A gallai Deilwen Puw fod o dan ei gyfaredd, ac edrych arno ef yn hytrach nag ar Enoc fel cynhyrchydd.

Os ydi cynhyrchydd yn dweud 'Dwi isio cadair yn fama', rydach chi'n deud 'Pam?' Mae o neu hi'n deud wrthoch chi; iawn, dyma'r fath o gadair wnawn ni'i rhoi - oherwydd mae hi o fewn yr iaith weledol o'n i'n sôn amdani gynnau...

"Mae ganddi ffordd wahanol o edrych ar bethau a hiwmor eitha gwahanol," meddai Ann Fôn, cynhyrchydd Mêts yn y Stêts.

Oherwydd nad oes angen unrhyw ddatblygu cemegol ac argraffu i wneud y lluniau terfynol fe all y cynhyrchydd chwarae'r deunydd newydd ei recordio yn ôl yn y man a'r lle i sicrhau fod yr ansawdd o safon dda.

"Mi fyddwn ni'n defnyddio adeiladau fferm Y Faenol fel stad o weithdai diwydiannol," meddai Alun Ffred Jones, cynhyrchydd y gyfres.

Roedd y cynhyrchydd am ddefnyddio dyn camera adnabyddus, fe wrthododd un o reolwyr cyllid y Sianel gydnabod ei ffi drwy honni fod y ffi yn uwch na'r hyn yr arferai dalu am y math o raglen dan sylw.

Ofn iddo gymryd ei ffordd ei hun mae o, a'i anwybyddu o, fel cynhyrchydd." "Wyt ti'n meddwl mai un felly ydi o?" "'Dwn i ddim; mae'n bosib.

Addaswyd ymhellach wedi trafod a'r cynhyrchydd - Tony Jones.

"Mae yna lot o fratiaith," meddai'r cynhyrchydd, Laurel Davies.

Caiff y Cynhyrchydd wneud Rhaglen Gyfansawdd o Raglen neu Raglenni a ddarlledwyd eisoes a phe defnyddir pwt o berfformiad yr Artist mewn Rhaglen Gyfansawdd o'r fath bydd gan yr Artist hawl i daliad ychwanegol nid llai na'r isafswm tal (gweler Atodlen A) a negydiad rhwng y Cynhyrchydd a'r Artist fydd yn cymryd i ystyriaeth hyd y Rhaglen Gyfansawdd a nifer a hyd y pytiau.

Wrth reswm mae pawb bron yn unfrydol ynglyn â chydnabod y cyfraniad Meic Stevens i'r byd roc dros y blynyddoedd ac yr oedd yn hen bryd i Les Morrisson dderbyn gwobr am ei waith fel cynhyrchydd gorau ac i ddangos fod Les yn dal i fod mor weithgar - ef sydd wedi cynhyrchu albym newydd Maharishi - Merry Go Round fydd allan ddiwedd y mis ‘ma.

Mae Pobol y Cwm yn parhau yn flaenllaw ymysg y deg rhaglen sy'n cael eu gwylio fwyaf ar S4C, ac mae'r ffaith bod cynhyrchydd operâu sebon rhwydwaith profiadol wedi'i recriwtio i'r gyfres yn awgrymu y bydd yn parhau yn ei safle cadarn.

Roedd - - yn awyddus i weld y cyfrifoldeb o gynhyrchu yn nwylo'r cynhyrchydd a'r materion golygyddol yn gyfrifoldeb ar y cyd rhwng y cynhyrchydd a'r comisiynydd.

Mae Pobol y Cwm yn parhau yn flaenllaw ymysg y deg rhaglen syn cael eu gwylio fwyaf ar S4C, ac mae'r ffaith bod cynhyrchydd operâu sebon rhwydwaith profiadol wedii recriwtio i'r gyfres yn awgrymu y bydd yn parhau yn ei safle cadarn.

FODD BYNNAG nad yw'r drwydded hon ddim yn mennu ar berchnogaeth unrhyw hawlfreintiau na hawliau eraill o eiddo trydydd partion yn y Gwaith a chydnebydd a chytuna'r Cynhyrchydd nad yw'r drwydded a roddir yn unol â'r cytundeb hwn ddim yn rhoddi na chynnwys nac yn honni rhoddi na chynnwys unrhyw drwydded na chaniatâd ar ran unrhyw berchennog hawlfraint nac unrhyw berchen hawliau eraill yn y Gwaith i ddefnyddio atgynhyrchu neu gorffori y Gwaith yn y Rhaglen na hawl na thrwydded na chaniatâd i ddosbarthu nac arddangos y Rhaglen.

Bydd talu Tal Ail-ddarlledu yn rhoi'r hawl i'r Cynhyrchydd ganiatau dau ddarllediad arall cyhyd a bod y pedwerydd darllediad o fewn pedair wythnos i'r trydydd a bydd talu ail Dal Ail-ddarlledu yn rhoi'r hawl i'r Cynhyrchydd ganiatau dau ddarllediad arall cyhyd a bod y chweched darllediad o fewn pedair wythnos i'r pumed.

Nid yw'r Archif yn derbyn dim cyfrifoldeb tuag at y Cynhyrchydd nac unrhyw berson sydd yn hawlio trwyddo ef yn sgil unrhyw ddefnydd a wneir o'r Gwaith /Deunydd.

Dim ond y cynhyrchydd sydd mewn sefyllfa i wneud y math yma o benderfyniad a dyna'n union yw sywddogaeth cynhyrchydd.

(Fe wnaeth - - y pwynt mai Angharad Garlick yw cynhyrchydd y slotiau mewnol).

Hon hefyd oedd y flwyddyn y daeth BBC Cymru yn wirioneddol unigryw fel cynhyrchydd dramâu, gan gynhyrchu dim llai na thair cyfres ddrama ddyddiol - Pobol y Cwm ar gyfer S4C, Eileen ar gyfer BBC Radio Cymru a Station Road ar gyfer BBC Radio Wales.

Ni welaf fod rhestr gweithgareddau'r Uned Rhaglenni Cyffredinol heddiw yn cyffwrdd ag unrhyw faes nad oedd yn cael sylw llawn chwarter canrif yn ôl Y mae yna un neu ddau o ddatblygiadau sy'n gwneud bywyd yn haws i'r cynhyrchydd efallai.

Hefyd, yr oedd yn brofiad a gwefr cael gweithio hefo cynhyrchydd profiadol fel Tony a sylwi ar actorion da yn datblygu ac yn tyfu o fewn ei waith yn y sgript.

Dafydd Gruffydd oedd y cynhyrchydd, fy nhad yn y ddrama oedd Haydn Davies, Magdalen Morgan oedd fy mam.

Yn achos Rhaglen neu Raglenni a wneir ar gyfer ysgolion neu addysg oedolion bydd talu'r Tal Gwaith a'r Tal Atodol yn rhoi'r hawl i'r Cynhyrchydd ganiatau darlledu'r Rhaglen ddwywaith cyhyd a bod yr ail ddarllediad o fewn pedair wythnos i'r cyntaf.

Yn ôl be' ma' rhywun yn 'i ddallt mae cynhyrchydd y rhaglen, er bod hwnnw'n dad i ddau o blant, yn rhwbio ynddi.

Ymgymera a chytuna'r Cynhyrchydd i dalu'r canlynol i'r Archif:-

Gan y cynhyrchydd y mae'r gair olaf ynglŷn â chynnwys a pholisi, ond y golygydd sy'n didoli a dethol, yn trefnu rhediad y rhaglen ac yn dewis i ble i anfon y camerau.

Wedyn tro o gwmpas y BBC - stiwdio newyddion, BBC Cymru'r Byd, adran is-deitlo gyda Terry Dyddgen-Jones, y cynhyrchydd ei hun yn eu harwain o gwmpas Cwm Deri.

mae'r penderfyniad i benodi cynhyrchydd newydd gyda phrofiad helaeth o operâu sebon teledu rhwydwaith yn dwyn ffrwyth, ac mae'r Cyngor yn edrych ymlaen at welliannau pellach i straeon, cymeriadau a thechnegau cynhyrchu dros y flwyddyn nesaf.

Os, drwy'r cyfryw salwch neu anallu, nad yw'r Artist yn gallu cwblhau ei waith gall y Cynhyrchydd derfynu Cytundeb Gwaith yr Artist drwy dalu i'r Artist yr holl daliadau sy'n ddyledus hyd at ddyddiad y salwch neu anallu.

Y mae'r un broblem o driciau llwyfan yn wynebu cynhyrchydd teledu Y Tŵr.

Mewn byd masnachol ni fyddai'r cynhyrchydd yn cael gwaith ar ôl torri cytundeb, ond nid felly yn ganiataol yng Nghymru gan fod y berthynas yn un fwy clos.

Y Parchedig Harri Parri ysgrifennodd y sgript ac ef oedd y Cynhyrchydd.

Bydd enw da BBC Cymru fel cynhyrchydd gwasanaethau a rhaglenni o ansawdd yn cael effaith arwyddocaol ar ei allu cystadleuol, ond efallai na fydd yn ddigon ynddo'i hun i gynnal lefelau cynulleidfaoedd ar droad mileniwm newydd.

Sole Mates oedd un ohonynt - yn edrych ar berthynas bersonol pobl â'u hesgidiau a The wRap in Cannes - dyddiadur fideo pum rhan o wythnos ym mywyd yr wyl ffilm trwy lygaid amrywiaeth o bobl gan gynnwys cynhyrchydd BBC Radio 1 a dynion sbwriel y dref.

"Tâl Danfon" Holl gostau postio cludo llwytho yswiriant a ddaw i ran yr Archif wrth ddanfon/ddarparu y Deunydd i'r Cynhyrchydd.

mae unrhyw arian y cynhyrchydd yn mynd ar fuddsoddiad o'r fath - mae'r cyfnod paratoi yn ddrud a'r ysgrifennu yn cymryd amser hir.

Bydd gan yr Artist hawl i doriad pryd bwyd awr o hyd ar ol pum awr o waith ac eithrio amser colur a bydd y Cynhyrchydd, yn ogystal, yn sicrhau fod yr Artist yn cael toriad te neu goffi chwarter awr ar ol tair awr o waith.

O fewn y swm hwnnw bydd rhyddid a hyblygrwydd gan y cynhyrchydd i gyflogi yn ôl ei ddewis ei hun.

Daeth newyddion y bydd Gogz yn cwblhau eu halbym cyn hir o dan oruchwyliaeth Richard Jackson sef cynhyrchydd Big Leaves ac mae disgwyl y bydd yr Ep yn cael ei rhyddhau yn y dyfodol agos - edrychwn ymlaen at hynny.