Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cynhysgaeth

cynhysgaeth

Ni fynnaf drafod yma odid ddim ar yr Oesau Canol a pharhad y math (neu'r mathau) o genedlaetholdeb a geid yno, am y rheswm syml fy mod o'r farn inni gael yn rhan o'n cynhysgaeth o'r unfed ganrif ar bymtheg i lawr lun ar genedlaetholdeb diwylliadol 'newydd', cenedlaetholdeb ag iddo nodweddion anfediefal, cenedlaetholdeb yn y meddwl a'r dychymyg a oedd yn ymgais i wrthsefyll nerth y dylanwad allanol a oedd arnom.

Rhan o'n cynhysgaeth ni yw mawrygu'r iaith ac yr ydym yn dra dyledus i'r ysgolheigion hynny, fel Syr John Morris Jones, a'n dysgodd ni i geisio anelu at y safonau uchaf posibl wrth drafod yr iaith.

Hwyrach eu bod yn gyn-filwyr a bod cynllunio cyfrwys yn rhan o'u cynhysgaeth.