Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyni

cyni

Ar fferm yng Ngogledd Ffrainc y bu Mrs Evans yn aros, a chofia fod yno ôl cyni a dioddef gan ei bod mor fuan wedi'r rhyfel.

Yr oedd tlodi'r wlad yn ei gwneud yn amhosibl i filoedd hepgor yr amser i'w plant gael addysg am flynyddoedd; yr oedd pob ceiniog a enillai'r plant wrth weithio ar y ffermydd ac yn y gweithfeydd yn help i ysgafnhau cyni'r teulu.

Os oedd brwdfrydedd y dysgwyr yn dod â hyder newydd i Gymru, 'roedd y cyni economaidd ar ddechrau'r wythdegau yn gweithio'n groes i'r hyder hwnnw.

Ac y mae Habacuc yn dyffeio cyni â'i ffydd - "eto mi a lawenychaf yn Nuw fy iachawdwriaeth".

Mae'n cofio am aberth y merched a fu'n gefn i holl ymdrechion eu g^wyr a'u meibion, y merched a fu'n dioddef y cyni yn dawel.

Digwyddai hyn fel arfer pan geid cyfuniad o dair ffactor: cyni economaidd siom y dosbarth swyddogol yn eu disgwyliad am ffafrau o law eu harglwyddi, a rhyw ddrysu neu lacio ar y cwlwm gwrogaeth rhwng yr arglwydd a'i wŷr.

Iddi hi, mae hanfod y ddrama'n dal yn wir heddiw - yn ei hymdriniaeth ag effaith cyni a chaledi ar eneidiau a chymdeithas.

Er bod Mathew Tomos y Plant a'i deulu yn wynebu cyni a dioddefaint, pobl sy'n plygu dan yr iau'n ddirwgnach ydynt hwy, gan addoli teulu Pen y Bryn yn ddigwestiwn.

Yn yr ardal lle'r wyf yn byw yn awr clywaf y genhedlaeth hynaf yn cyfeirio yn aml at y dioddef a'r cyni a brofasant y dwthwn hwnnw.

Yn wyneb cyni o'r fath, dichon mai unig gysur llawer un oedd gweinidogaeth yr Eglwys.