Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cynnes

cynnes

Ymlwybrodd yn araf ac yn ofalus tuag at ei gwely cynnes yr ochr draw i'r tū.

Mae gwahoddiad cynnes i ddisgyblion Cymraeg Ail Iaith Cyfnod Allweddol gwrdd â Rapscaliwns - dwy garfan o ffrindiau, y naill yn byw yn y De a'r llall yn y Gogledd.

Dan olau canhwyllau cynnes cyflwynwyd carolau mewn Almaeneg a Ffrangeg.

Yn y diwedd yr oedd ymlyniad Bedwyr wrth fethod ac wrth y gwir yn drech na'i awydd i blesio: ar y weiarles, dysgodd foddi pobl mewn dŵr cynnes, chwedl Tom Jones Llanuwchllyn.

Diwrnod cynnes a gyda'r nos braf.

Ta waeth, roedd y profiad o ymdrochi mewn dwr cynnes iawn a gorchuddio pob modfedd o'm corff mewn mwd folcanig, meddal, du, tua throedfedd o drwch yn brofiad bythgofiadwy.

Theatr Gwynedd Estynnodd Ellen ap Gwynn groeso cynnes i bawb.

Rwy'n siwr y cawn ni groeso cynnes yng Nghymru.' A'r geiriau hyn ffarwelia'r milwr â ni i gychwyn ar ei fordaith o Harfleur am Gymru.

Cafodd groeso cynnes ond tawel rhag i'r Coraniaid glywed.

Estynnwyd croeso cynnes i bawb gan y Llywydd, Mrs Mair Roberts, a dymunodd Flwyddyn Newydd Dda i holl aelodau'r Rhanbarth.

Llongyfarchiadau cynnes a diolch i Tony Jones am ei lafur a'i ymroddiad.

Buom yn cerdded am tua milltir yn eu dilyn ar hyd y Broadway - yn gofyn ambell gwestiwn i un a'r llall, ac yn gweled y derbyniad cynnes a roddid iddynt gan y New Yorkiaid ar eu taith drwy eu dinas tua'u cartref.

Ebrill cynnes a Mai glawog - bydd y rhyg yn tyfu fel coed.

Tegeiriannau'r trofannau a welwn yn ein siopau blodau ac yn tyfu mewn tai gwydr cynnes.

Cafwyd tywydd braf a bob dydd buont yn cerdded ychydig filltiroedd allan i'r wlad gan alw mewn tafarndai gwledig am luniaeth a chael croeso cynnes gan y Gwyddelod ar ôl pwysleisio nad Saeson mohonynt.

Er fod tlodi eithafol ymysg y bobl hyn, cafwyd croeso cynnes, ac o ddiddordeb arbennig i'r Cymry oedd gweld y prosiect dwyieithog ar waith mewn ysgolion.

Yn ystod y dyddia' hynny 'roedd hi'n beryg' bywyd, onid oeddech wedi cael swydd yn rhywle, i chi gael eich galw i wasanaethu'ch 'gwlad a'ch cyntri', ys dywedai Jac Llainsibols ac erbyn i mi gyrraedd adre' yr oedd llythyr oddi wrth y Frenhines yn fy aros yn estyn croeso cynnes i mi ymddangos o'u blaena' nhw yn Wrecsam 'na!

Wrth i derfynau yr iâ encilio fwy-fwy i'r gogledd bob blwyddyn, roedd yr adar hefyd yn ymestyn eu man bridio ac yn dychwelyd i rannau cynnes Affrica yn y Gaeaf.

'Roedd o fodfedd i fodfedd a hanner o egin arnynt eisoes, hwy nag arfer oherwydd y gaeaf cynnes, yna gorchuddio'r cyfan nes bod yr egin deiliog hefyd o dan bridd, a'u gadael yn y tū gwydr.

Erys gwledd i'r synhwyrau o'n blaenau wrth gerdded tua phen pella'r trwyn, ffresni tyfiant ifanc y gwanwyn, aeddfedrwydd cynnes y rhedyn a'r eithin ar bnawn o haf, lliwiau machlud tanbaid yr hydref ac awyrgylch gysglyd y gaeaf yn aros y deffro cyfarwydd, gyfareddol.

Hwyliodd Edward am ei brynhawn i'r parlwr cynnes a'i dân braf a'i lyfr cowboi gan edrych ymlaen at ymgolli'n llwyr yn swynion a champau'r bechgyn a'r gwartheg gwyllt - credaf ei fod wedi dymuno llawer am fod yn un ohonynt ar y paith pell a gwyllt.

Hydref cynnes, gaeaf oer.

Croeso cynnes i blant ymuno a'r gangen.

Sôn am feddwl gwirion, - ond roedd fy nghylla druan yn gwingo o eisiau rhywbeth cynnes a blasus i'w lenwi.

Estynnwn groeso cynnes i Mrs Evans ein Prifathrawes newydd ac i Mrs Joan Griffith yn yr Ysgol Gynradd.

Parhaodd ei feddwl a'i gof yn iraidd hyd y diwedd, a daliodd i daro'i deipiadur bach â'i fysedd diwyd, gan lunio ambell englyn a chân, neu bwt o lythyr cynnes i'w ffrindiau.

Croeso cynnes i Gymry Maesteg.

Rwyn teimlo bod dod a chwaraewyr mewn o wledydd cynnes i wlad lle maen oer ofnadwy yn y gaeaf ddim yn beth da, meddai.

Pawb wedi gwirioni pan ddiolchais mewn Chinese i bawb am y croeso cynnes.

Roedd hi'n noson olau leuad dawel, dyner a dywedodd fy mam os lapiwn fy hun yn ddigon cynnes y gwnâi'r cerdded les i mi.

Cawsom ychydig o gyfle felly i fwynhau golygfeydd hardd, o dan heulwen cynnes Bohemia.

Un o nodweddion amlycaf y rhagymadroddion yw'r ymdeimlad o wladgarwch cynnes, a thanbaid yn wir, sy'n rhedeg drwyddynt.

Roedd ubiadau'r ci fel pyllau ymdrochi cynnes iddo ymgolli ynddynt.

Cofion cynnes,

LLONGYFARCHIADAU cynnes iawn i Mrs Josie Pickering sydd yn aelod o Sefydliad Y Merched, Llanedwen ar ennill y "Gwen Brock cup" y hi gafodd fwyaf o bwyntiau mewn cystadleuthau unigol yn yr "Anglesey Federation Annual Comp" a gynhaliwyd yn ddiweddar yn Llangefni.

Croeso cynnes a chyfeillgar mewn ty nodweddiadol yn dyddio o'r ganrif ddiwethaf wedi'i leoli yn y stryd fwyaf traddodiadol yn Y Gaiman, Patagonia.

Eithr am yr hen Seren yma...Gwir bod ei hanadl mor bêr â gwair, a'i blew fel sidan coch cynnes; ond yr oedd ei llygaid mor eiddgar â'i thafod.

Bydd y dolennau heyrn yn seimlyd a thwym gan wres yr anifail, a byddwch yn ymdeimlo â meddalwch cynnes pêr ei gnawd wrth i chwi ymestyn i fachu'r aerwy ar yr hoelen yn y buddel.

Ar ran Pwyllgor Dosbarth Maldwyn o'r Urdd, estynnaf wahoddiad cynnes iawn i bawb sydd a diddordeb mewn trafod a chynorthwyo mewn unrhyw ffordd i fod yn bresennol.

Mae na doreth o emosiynau yn y straeon bach cynnes yma hefyd gyda nifer o'r cymeriadau yn ennyn hoffter.

Diwrnod cynnes iawn; felly eistedd ar y balconi drwy'r prynhawn yn darllen nofel Saesneg.

Mae'r rhaglen ar y gweill a bydd croeso cynnes i aelodau newydd ymuno â ni.

Balch oedd o gael y defaid yn ddiogel a throi i mewn gyda'r nos at y tân a golau cynnes nwy calor a lampau olew.

"Mi rydw i wedi cael strôc," sibrydodd yn wan yng nghlust Rex, "ac os na allaf fynd adref i le cynnes, a chael meddyg, mi fyddaf yn farw'n fuan.

Hawddamor a chroeso cynnes i NENE, misolyn newydd y Rhos a'r cylch!

Wannwl dad, rwyt ti'n wlyb soc, fachgen, cer i'r cefn i dynnu'r hen garpiau gwlybion yna oddi amdanat mewn dau funud, mi gei di ddigon o dyweli yn y cwpwr cynnes, dyna chdi.

Gan wylio'r ychydig deithwyr yn dringo i mewn i bum cerbyd y trên meddyliodd David pa mor falch y buasai i orffen y trip hwn a chael eistedd o flaen tân cynnes braf gartref.

Croeso cynnes i safle Ysgol Gymuned Pentraeth ar y we fyd eang.

'Rydan ni'n dueddol o feddwl am chwerthin fel peth pleserus, cynnes, afieithus; cyfrwng i ddangos a rhannu llawenydd.

Ac y mae llond llwy neu ddwy ohono, meddai, mewn ychydig ddwr cynnes, yn ardderchog at wendid y nerfau.

Y mae ef yn dal fod yr Hen Ymneilltuaeth syber, ddeallusol, oeraidd wedi marw ac Ymneilltuaeth newydd wedi codi o'i llwch, a'i brwdfrydedd yn cael ei fegino gan awelon cynnes y Diwygiad Efengylaidd.

Ym Maesteg derbyniwyd croeso cynnes a the Cymreig ganddynt yng nghartref rhieni'r Athro roedd Mrs Joseph wedi paratoi dros gant o "bicau ar y mân" iddynt ymhlith danteithion eraill.

Mae o eisiau gorffwys mewn lle cynnes a braf.

Cawsom groeso cynnes iawn am ddim ond sefyll ar y llwyfan.