Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cynnull

cynnull

Mae'r tŷ hwn yn agos i'r capel a'r tri ohonom yn mynychu'r cynnull.

Yng nghwmni%oedd y New Model Army lle ymdroai Hadwyr a Phalwyr a Phleidwyr y Bumed Frenhiniaeth, fel yn yr eglwysi cynnull a wrandawai ar bregethwyr a raddiodd gan mwyaf ym Mhrifysgol Llyfr Daniel a Phrifysgol Llyfr y Datguddiad, fel yng nghelloedd myfyrdod Arise Evans a John Archer a Peter Sherry a Gerald Winstanley a channoedd ar gannoedd o chwyldroadwyr duwiol ac annuwiol eraill, gan gynnwys Morgan Llwyd o Wynedd, ffynnai syniadau fel mwyar duon Medi.

Polisi tra gwahanol oedd ar dafod arweinydd glowyr Aberdâr, Charles Stanton: rhaid cynnull 'brigâd ymladdgar o lowyr' i herio trais yr heddlu a thrais y dosbarth llywodraethol, taranai.

Hyd yn oed mwy bygythiol yng ngolwg yr awdurdodau oedd cynnull miloedd o bobl mewn cymanfaoedd.

Mor dyner oedd ein horiau olaf gyda hi - ti'n dal ei llaw wan a minnau'n gwlychu ei gwefusau a'th dad yn cadw cynnull yn y Neuadd Fawr.