Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cynnwrf

cynnwrf

Gweld 'pur', fel petai, heb fod cynnwrf unrhyw synnwyr arall yn amodi'r profiad.

mae fy meddwl bach yn llawn cynnwrf disgwylgar.))

Yr oedd trigolion Eifionydd hwythau'n gobeithio y byddai'r cynnwrf yn eu cyrraedd cyn bo hir.

Berlin oedd canolbwynt y cynnwrf hwnnw yn yr Almaen, yn rhannol o ganlyniad i'w statws gwleidyddol a'i safle daearyddol rhwng dau brif bțer y dydd.

Cynyddai'r cynnwrf a'r siom ynddi a chododd yn sydyn a gwisgo'i gwn werdd gynnes, anrheg pen blwydd ei thad iddi, a mynd allan i'r berllan gan gerdded yn gyffrous rhwng y coed, 'nôl a mlaen ar hyd ac o gwmpas y llyn pysgod am hanner awr gyfan gan fwmian iddi ei hun: 'Hannah ddim yn deall .

Lawrence yn creu cynnwrf drwy ddisgrifio dau ddyn yn ymladd yn noeth yn ei nofel Women in Love.

'Fawr o obaith am hynny!' 'Ond mae o'n ôl,' meddai Myrddin yn llawn cynnwrf.

Tybiai fod cynnwrf ydiwrnod wedi bod yn ormod iddi.

Y rheswm dros y cynnwrf oedd y cysgodion duon oedd i'w gweld yn llinyn tywyll ar lawr y dyffryn.

'Gwyliwch.' 'Mae o am aros,' meddai Gareth a'i lais yn llawn cynnwrf.

Yn nyddiau'r Gwlff unwaith eto, fel y gwelodd y gohebydd Cymraeg Guto Harri, roedd adroddiadau'n aml yn ymwneud â hynt a helynt y newyddiadurwyr ac yn codi o'u cynnwrf nhw ynglŷn â'u rhan yn y digwyddiadau.

Cynnwrf wrth i'r tanciau 'Panzer' Almaenig cyntaf gyrraedd Castell Martin, Sir Benfro.

Mae'r cynnwrf yn cychwyn hyd at ddwyawr cyn y gystadleuaeth ei hun a'r teirw yn cyrraedd fesul un a dau - rhai ar gefn pick-ups bach, eraill yn cael eu cerdded ond pob un yn cael ei dywys i'w le bach ei hun lle mae'n cael ei glymu rhwng dwy goeden.

Mae'n amlwg mai diwedd y cynnwrf a'r gobaith a oedd yn rhan o wleidydda'r myfyrwyr ar ddiwedd y chwedegau a barodd y loes fwyaf iddo.

Hanes y myfyriwr, Lenz, sydd yma, dyn ifanc a oedd wedi bod yn weithgar ynghanol cynnwrf y chwedegau ond sydd, ar ôl cael ei siomi pan ddaeth y cyfan i ben, yn teimlo'n gynyddol ynysig.

Enw newydd arall syn creu cynnwrf ydyr grwp Evans o Gaernarfon.

Ac a fu'r cynnwrf a ddilynodd y cyhoeddi yn arwyddocaol o ran datblygiadau'r blynyddoedd nesaf?

Teimlodd y cynnwrf yn saethu trwyddo.

Ond pan nad oes cynnwrf o'r fath, y mae hyd yn oed y selogion yn tueddu i laesu dwylo.

A'r un ymadrodd ddefnyddiwyd mewn rhifyn arall wrth adrodd am y cynnwrf a ddigwyddodd ym Mhwllheli wedyn.

Roedd y tawelwch yn y gwasanaeth yn dawelwch ysbrydol, hyd yn oed yn y cynnwrf a'r annifyrrwch o fod mewn gwlad a dinas fel Beirut.

"Mae o'n tynnu pobol, beth bynnag," meddwn "Gobeithio y dôn nhw i weld y perfformiad." "O, mi fydd 'na rai yn bodloni ar ei weld o'n mynd a dwad, 'run fath a'r tywysog yng Ngholeg Aberystwyth." Mae 'ma gar yn troi i mewn i lôn yr ysgol; ia, fo ydi o, mae'r gofalwr yn agor y giât." Yr oedd y cynnwrf yn dechrau cydio ynof finnau.