Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cynorthwyo

cynorthwyo

Diben yr ymchwil oedd cynorthwyo'r Bwrdd i ddatblygu strategaeth farchnata ar gyfer yr iaith Gymraeg a allai gynnwys strategaethau cyffredinol i feithrin agweddau cadarnhaol tuag at yr iaith, ac i annog pobl i'w defnyddio.

Mae wedi'i gynllunio i'ch cynorthwyo chi, a'ch ysgol neu eich coleg, i gael y budd mwyaf o'r cynllun.

"Mae'r ffaith bod First Knight yn dod i Feirionnydd yn golygu bod pobol leol yn cael gwaith, ac arian yn cael ei wario yn lleol," meddai Geraint Parry sy'n cynorthwyo Hugh Edwin, Swyddog Datblygu'r Cyfryngau yng Ngwynedd.

Ac er ei chasineb at waith papur, yn union fel y disgrifiasai Watcyn Lloyd hi, 'roedd wedi bod wrthi am dridiau cyfan bythefnos ynghynt yn gwneud dim ond cynorthwyo Sioned i ymgynefino â'r busnes a chael trefn ar y cyfrifon.

Beth mae goleuni'r haul yn ei wneud, ar wahan i'n cynorthwyo ni i weld ac i deimlo'n gynnes?

Argymhellir ymgymryd ag ymchwil mewn rhai agweddau allweddol o'r maes hwn a fyddai'n cynorthwyo llunwyr polisiau ac addysgwyr gweithredol i hyrwyddo agweddiadau positif a chefnogol wrth gynllunio rhaglen datblygu addysg Gymraeg.

* feithrin, cynnal a chadarnhau gwell perthynas gymdeithasol gydag unigolion o fewn y grwpiau yn ystod y cyfnodau plentyn-ganolog gan eu bod: -yn cael cyfle i'w cynorthwyo'n unigol pan fo angen y cymorth ar y disgybl, -yn dod i'w hadnabod mewn sefyllfa lai ffurfiol ac yn gallu arfer gwahanol fath o ddisgyblaeth ar wahanol gyfnodau yn ystod gwers;

Yn cynorthwyo'r golygydd, felly, ac yn rhannu'r baich ag ef, mae dau neu dri is-olygydd, neu ymchwilwyr fel yr arferid eu galw.

* llunio cynllun gweithredu a fydd yn eich cynorthwyo i gyflawni canlyniadau o ansawdd da.

Pan oedd yn hogyn, byddai'n cynorthwyo yn y stablau a'r tafarndai yn y dref, yn rhedeg ar neges i hwn a'r llall ac yn glanhau esgidiau yn yr Eagles, oedd yn dafarn ar lwybr y goets fawr rhwng Llundain a Chaergybi bryd hynny.

Yn ôl Gadaffi, un o'r dyletswyddau a amlinellir yn y Koran yw cynorthwyo pobl i ennill eu rhyddid.

Heblaw am y trysorydd, dylent ffurfio gweithgorau i'w cynorthwyo yn eu gwaith.

Cysylltwch a Ben Gregory drwy brif swyddfa'r Gymdeithas er mwyn cynorthwyo yn yr ymgyrch.

Yr un yw'r croeso i Mrs Joy Glyn sy'n cynorthwyo plant dosbarth Tryfan.

Mae'n debyg ei fod wedi penderfynu gorfodi'r ddau lanc sy'n cynorthwyo gyda gwaith y cantîn i dalu am eu bwyd.

tri Bydd eich trefnydd lleoliadau athrawon yn eich cynorthwyo drwy bob cam o'ch lleoliad gan ddarparu amrediad o ddeunyddiau ychwanegol.

Ac yntau heb y syniad lleiaf am beth i ysgrifennu, plannwyd yr hedyn yn ei ddychymyg pan soniodd ei wraig am ei phrofiad yn cynorthwyo i chwalu ei gartref yn Llanberis bedair blynedd ynghynt, wedi marw ei fam.

Ond fel y gwelodd Ifor Williams, prif gymwynas Glyn Davied ydoedd galw sylw at ddyled Dafydd ap Gwilym i'r Gogynfeirdd a'n cynorthwyo i'w mesur.

Gyda chymorth cyfryngwyr (mediums) megis Y Prifardd Elwyn Roberts a Winni Marshall, treuliodd ef flynyddoedd lawer yn ymweld â thai ac yn cynorthwyo pobl a boenid gan bresenoldeb ysbrydion.

Mae'r carbohydradau ynddynt yn symbylu cynhyrchu ensymau treulio; y selwlos yn hybu symudiadau cyhyrau'r cylla; a'r alcalinedd yn cynorthwyo gwaredu deunydd gwastraff.

Gwerthfawrogiad o un o ysgolheigion mwyaf y Gymraeg a fu'n cynorthwyo William Morgan, cyfieithydd y Beibl.

Adnabyddiaeth ac ymdeimlad o'r elfennau cyffredin hyn sy'n cynorthwyo dyn i ffurfio barn.

Dafydd a Branwen a phob ddi-smygwr arall sydd wedi bod yn agos at swyddfa'r Gymdeithas am ddioddef fy mwg; Owain am y sylwadau hollol diwerth; Grant am deutha fi sut i gyhoeddi blincin' peth i ddechrau; pawb sy 'di cyfrannu a chefnogi; pawb sy 'di rhoi cysylltiadau i'r Tafod Trydanaidd ar eu tudalennau Gwe nhw; pawb sy 'di ymweld â'r Wefan hon; pawb sy 'di cynorthwyo a chefnogi Cymdeithas yr Iaith rhywsut rhywbryd -- diolch am eich ysbrydoliaeth a'ch gwaith. Cas-berson y Mis

Tra bu+m yn fyfyriwr ym Mangor bum am gyfnod yn cynorthwyo JE a Phwyllgor Sir Gaernarfon i drefnu cyfarfodydd cyhoeddus yma a thraw yn y sir.

Mae'r awgrymiadau canlynol yn rhoi syniadau ymarferol i chi er mwyn eich cynorthwyo i golli pwysau ac i fabwysiadu ffordd iachach o baratoi a choginio bwyd.

A dywed wrth wylwyr y glannau yn Acapulco i drefnu i awyren neu ddwy ddod i'n cynorthwyo.

Gwþr caredig oedd gwþr Sir Gaerfyrddin; gwþr cymwynasgar, tylwythgar, teulugar, cymdogion da, boneddigion y tir; gwragedd diwyd, doeth a ffrwythlon; pobl heb ddail ar eu tafod, yn lletygar i grwydriaid, yn talu dyledioon, yn rhoi arian ar fenthyg heb wystl ond ymddiriedaeth, yn cynorthwyo'i gilydd; y bobl a fu'n dioddef gorthrwm a thrais y meistri tir a'r stiwardiaid, yn ymladdd yn erbyn anghyfiawnder, yn aberthu pob dim er mwyn egwyddor ac yn dal at eu hargyhoeddiadau hyd y carchar a'r bedd.

Mae hyn yn golygu creu amgylchedd sy'n cynorthwyo datblygu'r cwricwlwm tu mewn a thu allan i'r dosbarth ac yn gofyn am gryn allu ar ran yr athrawon a'u cynorthwyr wrth drefnu a rheoli'r ystafell dosbarth, wrth drefnu amser gofod adnoddau a deunyddiau ei gilydd!

Yr amcan yw y bydd y cytundebau hyn yn cynorthwyo grwpiau o gam i gam drwy'r broses ddatblygu, ac y bydd yn fframwaith i sicrhau perthynas waith gydweithredol a chydradd rhwng y ddau barti.

Aeth hwn i ffwrdd i'r De am dipyn, a hefyd cyn dychwelyd yn ôl i'w hen ardal bu am gyfnod yng ngwasanaeth Cyngor tref Aberystwyth yn cynorthwyo fel adeiladydd.

* Cynorthwyo

Hyfrydwch oedd cael croesawi'n ôl Mr Roger Jacob i'n cynorthwyo'n fedrus dros ben ar yr organ.

Winciodd Salim arnaf gan ddweud bod Mwslemiaid yn credu mewn cynorthwyo'i gilydd.

Yr oedd yn diolch i Dduw am gyfle i droi ato ar orsedd gras ymhlith ei gyd-weithwyr, ac yn gofyn am i Dduw trwy ei Ysbryd ein cynorthwyo i wneud y gorau o'r cyfle hwn, rhag ofn y byddai'n gyfle olaf i rai ohonom oedd yno.

Dyma ddadl gryf dros leihau y gwario ar arfau a defnyddio'r arian i ddibenion gwell megis cynorthwyo gwledydd y Trydydd Byd.

Noder ymhellach nad oedd y dyn yn helpu i wneud bwyd nac yn helpu i lanhau'r tŷ: cerdded y mynydd y mae Morgan yn 'Buddugoliaeth Alaw Jim' nid cynorthwyo'i wraig er bod Tomi'r crwt wedi bod yn beryglus o dost; mynd 'i ben y drws i synfyfyrio' y mae Wat Watcyn yn 'Diwrnod i'r Brenin,' a mynd yno i 'ddisgwyl am ei frecwast' er bod y dyddiau i gyd yn wag iddo; a beth a wna Idris yn rhan agoriadol 'Gorymdaith' ond gorwedd ar ei wely?

Cynlluniwyd y daenlen hon i'ch cynorthwyo chi a'r ysgol i gytuno ar nodau cyffredin ar gyfer y lleoliad.