Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cynrychiolwyr

cynrychiolwyr

Mae aelodaeth y paneli a'r gweithgorau hyn yn adlewyrchu amryfal agweddau ar addysg Gymraeg, gan gynnwys cynrychiolwyr o'r gwahanol sectorau addysg a rhanbarthau Cymru.

Tuedda'r cynrychiolwyr busnes honedig mewn ardaloedd gwledig i fod yn anwybodus am anghenion yr economi neu'r anghenion sgiliau heblaw am bersbectif cul anghenion eu cwmni neu sector eu hunain.

Mi fydd swyddogion y Cynulliad yn cyfarfod cynrychiolwyr y cwmni yng Nghaerdydd ddydd Iau er mwyn trafod y cais.

Roedd cynrychiolwyr TAC yn awyddus i bwyntio allan fod taliadau yn araf a rhandaliadau o anfonebau yn cael eu gwneud heb eglurhad.

Ond gan ei bod hi'n dasg anodd iawn eu cael nhw i Cwrdistan yn saff, maent yn awr yn canolbwyntio ar anfon cynrychiolwyr i Iran i brynu moddion ar gyfer y Cwrdiaid.

Codai pryder pellach, petai'r broses adnabod anghenion o fewn y cynghorau newydd yn arwain at anwybyddu anghenion neilltuol y disgyblion a'r myfyrwyr sydd yn mynd trwy'r ddarpariaeth gyfrwng Cymraeg, trwy fod cynrychiolwyr y system honno yn y lleiafrif bob amser wrth ystyried anghenion a blaenoriaethau a'r anghenion cyfrwng Cymraeg yn cael eu gosod yn ddarostyngedig i anghenion y disgyblion a'r myfyrwyr sy'n mynd trwy'r ddarpariaeth cyfrwng Saesneg yn bennaf.

Cynrychiolwyr par excellence yr hen drefn yw Gwydion ac Efnysien.

A phwy fydd yn dewis y cynrychiolwyr hyn?

Wedi chwarter canrif o brofiad gwelwn mai gwaith cyson y Swyddfa Gymreig - ar wahan i'w chyfrifoldeb am y Gymraeg - yw (a) gweinyddu gyda help y cyrff annemocrataidd sydd dan ei rheolaeth, bolisiau craidd Adrannau nerthol Whitehall, boed y polisiau yn gyson â'n dyheadau yng Nghymru a'i peidio, a (b) cymryd cyfrifoldebau iddi ei hun a ddylai fod yn nwylo cynrychiolwyr etholedig y bobl.

Yr hyn oedd yn clymu'r cynrychiolwyr oedd eu diddordeb a'u profiad o faes addysg yn y blynyddoedd cynnar, sef addysg i'r plant ifancaf.

Ef a'i gyd-weinidogion oedd 'cyfarwyddwyr y bobl, chwedl yntau, a'u dyletswydd, fel cynrychiolwyr y grefydd honno a oedd, yn eu golwg hwy, wedi achub y Cymry rhag tywyllwch yr oes o'r blaen, oedd goleuo'u cydwladwyr.

roedd cynrychiolwyr o sefydliadau addysgol masnachol a diwylliannol mewn cyswllt â'i gilydd ym mangor aberystwyth a chaerdydd.

Yn y prynhawn, bu trafodaethau mewn grwpiau a chafwyd adroddiadau ac argymhellion gwerthfawr iawn oddi wrth y cynrychiolwyr trwy arweinyddion y grwpiau.

Cangen Llanllechid: Mynegodd cynrychiolwyr Cangen Llanllechid eu tristwch wrth hysbysu'r pwyllgor rhanbarth fod y gangen am gau.

Yr oedd y cynrychiolwyr wedi trefnu cinio a dawns tuag at elw cronfa cynrychiolwyr

Yn yr Almaen, mae cynrychiolwyr BMW yn trafod gydag aelodau consortiwm Phoenix sydd am brynu Rover.

Trefnwyd cyfarfod ar frys rhwng yr ynadon, Capten Burrows, cynrychiolwyr y Pwyllgor Streic, a swyddogion Cwmni'r Great Western.

Bydd cynrychiolwyr Clwb Pêl-droed Cwmbran yn cyfarfod swyddogion y Cwpan Cenedlaethol prynhawn yma i esbonio cyflwr y llif-oleuadau.

Dydyn nhw ddim wedi penderfynu pwy fydd ar y bwrdd rheoli - fe fydd cynrychiolwyr o'r Undeb a'r Clybiau.

Rhaid wrth fwy nag ewyllys da i'r iaith Gymraeg, ac efallai bod tynged yr iaith yn dibynnu yn llawer iawn fwy nac a ymddangosodd hyd yn hyn ar ein cynrychiolwyr ar y cynghorau.

Aethpwyd ati i wahodd yr awdurdodau lleol, y cymdeithasau a'r cyrff crefyddol a'r eglwysi, y pleidiau gwleidyddol a mudiadau, i anfon cynrychiolwyr yno.

I ffwrdd â ni wedyn i westy Bryn Cregyn yn Neganwy i gyfarfod cynrychiolwyr y wasg.

Yn sgîl y drafodaeth ynglŷn â Changen Llanllechid, mynegodd cynrychiolwyr o Gangen Bontnewydd eu bod hwythau wedi methu ag ethol swyddogion yn eu cyfarfod cyffredinol.

Un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o hybu cadwraeth yw dweud eich barn yn glir wrth eich cynrychiolwyr etholedig - helpwch ni os gwelwch yn dda.

Roedd y cyfieithydd yn gwybod, ond roedd e'n gwrthod dweud wrtha'i!' Yn y diwedd, daeth cynrychiolwyr o lywodraeth Iran ac o fudiad y Red Crescent.

Ond gan fod y gwesty hefyd yn fan cynhadledd Foslemaidd bwysig am gyfran o'r wythnos, trefnwyd i'r cyflenwad gael ei droi 'mlaen er cysur y mullahs a'u gwragedd a'u cynrychiolwyr.

Tystiolaeth ynglŷn â'r Ddraffl Gynnig fyddai gerbron y cynrychiolwyr ym Maastricht oedd y testun, yn naturiol.

Cysylltwch â ni ar 029 2032 2238 i drefnu ymweliad gan un o'n cynrychiolwyr.

Ond yr ydan ni'n lwcus o gael ein cynrychiolwyr etholedig efo ni o hyd yn dal yma ar waetha pawb a phopeth 'dan ni yma o hyd, o hyd, pa hyd, o Dduw, pa hyd y mae'n rhaid i ni eistedd yn llywaeth a sbio arnyn nhw fel hyn yn mynd dros y geiria, yn sbio ar y geiria caled du ar y gwyn llyfn, ac yn llyfnhau'r ffordd fel hyn i wneud lle i'r dim byd fydd i fod i'n gwarchod am y chwarter canrif nesa'/tan bydd yr iaith wedi marw.

Mae'r grwpiau diddordeb arbennig yn gyfrifol am ethol cynrychiolwyr i fod yn aelodau o bwyllgorau'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

Diben y digwyddiad yw rhoi cyfle i'r cynrychiolwyr drafod eu dyheadau a'u problemau gydag ardaloedd eraill sydd a sefyllfaoedd tebyg.

Yn ychwanegol at hynny fe ddaeth cynrychiolwyr at ei gilydd o nifer o ganghennau ym mis Hydref i gyd- drafod y ffordd ymlaen ym mhob ardal ac ystyried yr angen am Swyddog Cyswllt cyn gwneud cais am grant i'r Swyddfa Gymreig.

Gwahoddwyd cynrychiolwyr o gyrff sydd, ym marn y Bwrdd, â rhan allweddol i'w chwarae mewn datblygu sefyllfa a statws y Gymraeg.

ARGYMHELLWYD y dylai cynrychiolwyr y Cyngor ar y pwyllgor anelu at y canllawiau canlynol:-

Fel rhywbeth arbennig a gwahanol i'r cynrychiolwyr fe drefnais fod ryw bedwar ar ddeg ohonom i gael 'reception' mewn ystafell arbennig a ddaeth Margaret Thatcher atom i sgwrsio gyda phob un a'i bartner.

Dylid cynnal cyfarfodydd rheolaidd rhwng cynrychiolwyr y cwmniau a chynrychiolwyr y canolfannau perfformio i gyfnewid gwybodaeth, â, lle bo'r angen, i addasu cynlluniau i gydfynd ac unrhyw anghenion arbennig.

Yn y gwledydd eraill mae yna seneddau rhanbarthol fydd yn dewis cynrychiolwyr - mi fydd hi'n rai blynyddoedd cyn y bydd hi'n fater mor syml â hynny yng Nghymru.