Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyntedd

cyntedd

Ffuretwr ydw i." "Ffu..ffu..." Taflodd ei phen yn ôl yn flin, a disgleiriai lliw cyfoethog ei gwallt yng ngolau pŵl braidd y cyntedd mawr.

Yma, mewn man gwag yn cynnwys fflagiau siâp hecsagon, taenwyd hen ryg Twrcaidd coch ar lawr ac ar y ryg roedd cadair olwyn, ac yn y gadair olwyn roedd gŵr oedrannus, yn amlwg yn darfod, yn ein gwylio ni'n dod gyda llygaid du y diffoddwyd yr holl dân ynddynt ers amser maith, ond a gynhwysai o hyd uniongyrchedd glo-ddu y llygaid yn y darlun a grogai uwchben y silff ben tân yn y cyntedd.

Caeodd y drws a sylwi ar dri llythyr a darn o bapur ar lawr y cyntedd.

Canodd y ffôn yn y cyntedd a rhedodd Ifor yn noeth i'w ateb.

Gadawyd yr arch yn y cyntedd tan ei blodau.

Pan gyrhaeddodd y dyn camera a minnau'r Laleh mewn tacsi, roedd e'n disgwyl amdanom yn y cyntedd.

Clywais leisiau yn y cyntedd oddi tanaf, ond ni ddaeth neb i fyny'r grisiau.

Mi wyddost i mi ei chau i mewn." "Trwy'r ffenest?" "Na, mi gaeais pob ffenest cyn mynd." Agorodd Cadi'r drws, a sefyll yn y cyntedd.

Prynodd ūd a gwenith yn un o siopau'r dre i'w rhoi yn y cyntedd, a thalu drwy'i thrwyn amdanynt.

Mae'n debyg fod Twm Dafis wedi mynd yn ol tra oeddwn i mewn rhan arall o'r ynys, ac mae'n bosib mai'r adeg honno y gadawyd y cŷn yn y cyntedd.

Ar ol ymweliad y Saeson yuppiaidd sydd a mwy o ddiddordeb yn y planhigion yn y cyntedd a'r darnau o art deco, daw'n fwyfwy amlwg na fydd y Rex yn ailagor.

Diflannodd Aled i rywle, ond arhosodd Snowt yn y cyntedd, gan adael y drws yn gil-agored o'i ol.

"Gwell i chi aros yma am funud," meddai Huw yn y cyntedd, "i mi fynd i chwilio am y nyrs, ond mi fydd popeth yn iawn i chi weld eich tad rwy'n siwr." Fe ddaeth Huw yn ôl cyn bo hir gyda'r nyrs.

Camodd i'r cyntedd a'i chychwyn hi allan drwy'r drws.

Fe groeswch y cyntedd i'r ystafelloedd yn gyflym a dirwystr.

Roedd y llenni ar gau a'r ystafell yn wag a'r un mor ddigroeso â'r cyntedd.

'Prydydd a'i geilw paradwys'; 'Cyntedd gwin a medd ym yw' 'Lle seinia lliaws annerch'.

"Tyrd, Sam!" Dilynodd y ddau Aled drwy ddrws y cyntedd, ac mi gefais innau fy hun yn mynd gyda nhw.

Safodd ar ganol y cyntedd yn gwrando.

Erbyn iddo ymladd ei ffordd trwy'r pla o ferched ac allan i'r cyntedd roedd wedi diflannu.

Oedodd Jabas yn y cyntedd a stagio trwy'r dorau gwydr.

"Fe arhosodd ar ol y pnawn 'ma i orffen y darlun." Agorodd y drws a arweiniai i'r cyntedd, a galw drwyddo.

Ar ochr ddwyreiniol y cyntedd, arweiniai grisiau wedi eu haddurno â theils i fyny i oriel â rheiliau haearn a thamaid arall o ramant gwydr lliw.

fel tasa rhywun newydd ei golli." "A'r cŷn yn y cyntedd," torrodd Olwen ar draws.