Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyrchu

cyrchu

Dywedodd un tyst wrtho fod y Cymry o'r bryniau a aeth i ymuno gyda Siartwyr Frost yn credu mai cyrchu Llundain oedd eu nod, ymladd yno un frwydr fawr ac ennill teyrnas.

Dal grym rhythmig golygfa fel y gwelai'r arlunydd ef yw'r nod y mae'n cyrchu ati trwy'r adeg ac nid cyfleu manylion penodol.

Ni phoenodd i holi, fel y gwnai sawl un yn bryderus, ond cyrchu'n sicr i'r llwyfan iawn.

Cyrhaeddwyd Dun Laoghaire yn gynnar a chafwyd trên ar unwaith i'w cyrchu ar draws yr ynys i Galway yn y gorllewin.

Dywedodd wrthyf un tro, fod ei fywyd bore oes i'w gael yn Y Pentre Gwyn - cyfnod y chwaraeon, y potsio, yr hel priciau yn y goedwig, y cyrchu dwfr o Ffynnon Dolafon, ac mai darlun ohono ef sydd yn 'John Ty Pell', ac yn Y Golud Gwell fel 'Arthur Puw,' sef y bachgen y byddai pobl yn gofyn i Betsi Puw - 'Ai eich bachgen chwi ydyw,' pryd yr atebai yn swta - 'Y fi sy'n ei fagu o'.

Ar ôl bwyta dyma'r dynion yn dechrau casglu at y brake yn araf, ac eraill yn gwylio i edrych pa faint oedd yn cyrchu at fan y cyfarfod, a phwy oeddynt, rhai yn ymddiddan â'i gilydd, eraill yn edrych yn syn, ac eraill â'u golwg ar y brodyr yr oeddynt wedi clywed eu bod ymhlith y rhai fu'n gweddio yn Nant.

Mae'r nod a amlinellir yn y dyfyniad uchod yn parhau i fod yn nod y dylid cyrchu tuag ato.

Ond yn yr achos arbennig yma fe welwyd yn dda i ychwanegu pwt o hanes trwy ddweud fel y byddai Laura Richards lawer gwaith yn cyrchu gyda'i chymdogesau ar Ddydd yr Arglwydd i chwarae gyda'r delyn; yr oedd yn cofio cadw ffeiriau llestri pridd ym mhorthladd Nefyn a chwarae y Bowl Haf'.' Trwy holi'r Amgueddfa Werin yn Sain Ffagan cefais wybod mai ar y cyntaf o Fai y chwareuid y `Bowl Haf'.

Cafwyd lloches yn y pentref ond bu'n rhaid disgwyl yn hir yn eu dillad gwlyb am y llong i'w cyrchu'n ôl i Galway; roedd honno wedi mynd ymlaen i Inis Meain.

Neu eu hanfon ar hyd a lled y ddaear ar ryw dasg megis cyrchu llond rhidyll o Wynt y Dwyrain, neu ddrych sy'n dweud celwydd.

Os gwelsoch eog ryw dro yn plygu'i ben at ei losgwrn, ac yna yn ymsythu'n sydyn a hedfan fel saeth tros y gored, fe wyddoch sut y byddai Seren yn cyrchu rhyddid y clos.

Mae'r Bwrdd yn cyrchu at weld y dydd pan fo'r rheiny yng Nghymru sydd â'r Gymraeg yn ddewis iaith iddynt yn meddu ar yr un hawliau â'r rheiny sydd â'r Saesneg yn ddewis iaith iddynt.

Er mwyn cyrchu at ein nodau gorgyffwrdd yn y modd mwyaf effeithiol posib, ymroddwn i weithio'n egniol tuag at greu rhwydwaith effeithiol o ddarparwyr, er lles y defnyddwyr a darpar-ddefnyddwyn.