Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cysgodion

cysgodion

Roedd yr hogiau wedi rhoi digon o goed ar y tân, y fflamau yn saethu i'r awyr ac yn taflu cysgodion digri o gwmpas.

Mewn telyneg megis 'Cysgodion yr Hwyr' y mae yntau, yng nghanol erchyllterau rhyfel, yn mynegi ei hiraeth dwfn am heddwch a thangnefedd, a gwynfyd natur ardal ei faboed.

Dim byd ond cysgodion, rhai ohonynt ar y pared.

Y rheswm dros y cynnwrf oedd y cysgodion duon oedd i'w gweld yn llinyn tywyll ar lawr y dyffryn.

Cododd ffigur o'r sedd dderw yn y cysgodion ger y ffenestr.

Rwyt yn codi ar dy eistedd ac yn gweld cysgodion ar y llwybr.

Codasai'r lleuad mewn awyr serog, glir, a helpai'r gwynt ei llewyrch gwan i symud y cysgodion rhyfedd yng ngodre'r winllan ac ar y weirglodd las.

Yna caeodd hi'n frysiog wrth weld robot yn sefyll i'w gwylio yn y cysgodion.

Erbyn bod Penri'n gorffen ei goleg, yr oedd y to cyntaf o esgobion a benododd Elisabeth yn prysur gilio i'r cysgodion.

Diflannodd y plant i'r gwyll ac wedi i sŵn eu traed yn printio'r eira ddistewi, daeth Henri o'r cysgodion yn hamddenol, ei wn sten yn ei law.

Nid oedd bywyd hyd yn oed yn yr harbwr heno, dim ond hen lwydni tesog yn erlid pob argoelo lesni ac yn corlannu cysgodion o ddu%wch ar y gorwel., Gobeithio'r annwyl nad darogan ystorm a wnaent.

Ie, y niwl coch oedd yn ei amddiffyn rhag y cysgodion a'r ysbrydion y tu draw, rhag yr ymladd a'r gwaed.

Gwelai Geraint ben ac ysgwyddau tywyll yn ymddangos o'r cysgodion, ac aeth chwys oer drosto.

Unrhyw un cofia; hen neu ifanc, dyn neu ddynes, ac mi fyddwn ni eisiau praw dy fod ti wedi gneud hynny.' Ciliodd Jaco yn ôl i'r cysgodion a daeth Mop i sefyll o'i flaen gan ysgwyd ei holl gorff yn synhwyrus.

Tyfai blewiach brith o dan ei drwyn a edrychai fel mwstash heb ei wrteithio'n iawn, ac ar waelod ei ddwy foch roedd cysgodion pinc a roddai ffurf anghynnes i'w wyneb.

Gan inni fod gyhyd yn nisgleirdeb yr haul ni allem weld yn glir iawn i'r cysgodion, ond wedi cynefino tipyn gallem weld merch yn plygu allan o un o ffenestri'r adeilad gyferbyn.