Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cysgu

cysgu

'Roedd o'n cysgu bob nos, "efo'r cyrtens am ei wddw%, medda fo.

Mae gennych chi le i ddiolch nad ydw i ddim yn cysgu mor esmwyth ag y bu+m i, neu fyddech chi ddim yma'n mwynhau brecwast yn yr haul ond yn yr ysbyty yn ymladd yn erbyn niwmonia.

Erbyn hyn 'roedd y ddau arall yn cysgu.

Pam na fasech chi wedi gofyn i mi ddod gyda chi?" "Roeddwn i'n amau eich bod chi'n cysgu..." "O, siŵr, fe fydda i'n syrthio i drymgwsg cyn gynted ag y bydd 'y 'mhen i ar gobennydd.

Ond doedd dim digon o le iddyn nhw i gyd mewn un gwely, ac mi fydden nhw'n gweiddi, "Rydw i bron _ syrthio o'r gwely!" "O, rydw innau bron _ syrthio!" "Does gen i ddim digon o le!" "Does gen innau ddim digon o le chwaith!" "A rydw i'n cael fy ngwasgu yn y canol!" Felly doedd yr un o'r dynion bach od yn gallu cysgu'n gysurus, ac roedden nhw wedi blino'n l_n.

Roedd gweddill y criw yn cysgu tra gofalai Douglas a hwythau am y llong.

'Roedd EJ eisoes yn y gwely yn chwyrnu'n dawel, a Debora yn ei llofft yn cysgu, ei bawd yn ei cheg fel arfer, a bysedd y llaw arall yn cydio'n dynn mewn darn o siol dreuliedig.

Ar ôl cyhoeddi'r llyfr, mi fydd yna lot mwy o Gymry'n methu cysgu'r nos heb Valium neu ddau.

O ganlyniad, fe fyddai'r awdurdodau yn medru gwahardd y Gymdeithas, a gwneud yr holl aelodau yn derfysgwyr dros nos, tra eich bod yn cysgu'n braf yn eich gwely.

Ynteu a fu+m i'n cysgu tra bod miloedd o gopi%au o'r cytundeb yn mynd o law i law ar hyd a lled Cymru?

Ond paid ag aros yn hir heno!" Arferwn yfed gwydraid bach o wisgi bob nos cyn cysgu.

Dim ond ar ôl y briodas y daeth Reg i wbod fod Diane wedi cysgu gyda'i chyn-wr Graham y noson cyn y briodas.

Dyna oedd yn egluro pam yr oedd o wedi bod yn cysgu yn ei ddillad ers wsos ag un goes allan o'r gwely!

Manteisiai hi ar y cyfle gyda'r hwyr i wneud bara tra oedd Jonathan yn cysgu'n dawel.

Dydi trafod pam y mae eich tad wedi cysgu efo cariad eich chwaer neu eich mam wedi rhedeg i ffwrdd efo cariad gwraig y dyn drws nesaf yn cyfrannu yr un iod at ansawdd bywyd neb nac yn help o gwbwl i leddfu arteithiau gwirioneddol ymwneud personol rhai pobl ai gilydd.

Cofia Tom Jones eu bod yn cysgu mewn gwlâu ar lawr Festri Capel heb fod ymhell o'r 'York Minster' enwog.

Cysgu'r noson mewn pabell, a hithau'n noson stormus ofnadwy a niwl a gwynt a glaw.

Mwynhaodd y sylw a llithro'n ôl i'w blynyddoedd melyn - cysgu yn yr un ystafell fechan lle y gwelsai wyneb Duw yn y lleuad a chlywed Evan Moses yn mwmian am Ei gartre i fyny rywle yn yr awyr.

Mae dy dad yn cysgu.

Doedd o ddim wedi cysgu fawr ddim y noson cynt ac roedd o'n crynu a chwysu er ei bod yn fore braf o Fehefin.

Ar fy llaw dde, mae bwlch i bobl gerdded hyd-ddo, yna mae'r meinciau cysgu, er bod pobl yn eistedd hefyd ar y lefel isaf o feinciau.

Mi ddaru Defi John a Jim ddechra' chwara'n wirion ymhen dipyn, ar ôl blino bod yn llonydd - a thaflu cregyn bach aton ni a ninna wedi cau'n llygaid, smalio cysgu.

Dywed fel y byddai'n cysgu wrth yr olwyn pan oedd y Mêt neu'r Capten yn llywio, er mwyn iddo fod wrth law i alw ar y llall os oedd angen.

Roedd Modryb yn ei gwely yn darllen Woman's Weekly fel brenhines, Gwenan a'r hogiau'n cysgu a Dad yn edrych ar y newyddion hwyr ar y teledu.

Rwyt ti wedi cysgu digon!" Stan McNally oedd yn gweiddi y tu allan i ddrws caban Douglas ar y llong.

Trwy ddeffro cyd-ymdeimlad, cyd-ymdeimlad sy'n cysgu yn nyfnder yr ymwybod, ond sy'n ei fradychu ei hun hyd yn oed yn acen eu Saesneg, yn unig y medrir.

Bendith nid bychan oedd medru cysgu'n dawel trwy un noson, ac yr oeddwn i yn ffodus yn hyn, er nad oedd dim sicrwydd byth wrth noswylio pa fath o noson a gawn.

Hyd yn oed yma, mae treulio noson yn yr awyr agored, mewn dillad gwlyb, yn gofyn am drwbwl." "Fyddwn i ddim wedi aros allan drwy'r nos." "Roeddech chi'n cysgu pan gefais i hyd ichi..." Tawodd pan ddaeth y gwas â'r coffi a'r ffrwyth iddi.

Fe fydda i'n ddigon cysurus yn cysgu ar y soffa.

Tua chanol nos, a'r gelyn yn cysgu'n drwm yn y dyffryn isod, rhoes Gideon arwydd a thorrodd pob gŵr ei biser a dechrau chwifio'r ffagl dân a bloeddio pob un ei utgorn nes i'r dyffryn grynu.

Cysgu dros nos yno.

'Ond Dil...' 'Dos di - rwyt ti'n cysgu wrth ben dy draed.

Roedd yr hen wraig yn pendympian cysgu, a'i sbectol wedi llithro i lawr ei thrwyn.

Cysgu'n y llofft stabal oedd y gweision un noson ychydig wedyn, pan ddeffrowyd pawb ohonynt gan sūn ceffylau'n carlamu i'r iard, ac yna sūn ratchet brêc yn cael ei dynnu.

Y bora arbennig hwn, a'r tywydd yn oer, mam yn ei gwely efo 'asthma' a ninnau'r plant yn ein gwelyau, neu'n chwara'n y llofft, dyma lais nhad fel angel o waelod y grisiau (parch i mam am ei bod hi'n sâl) "Lle ma' nghrys i Jini?" mam yn ateb â gwich yn ei llais, "Yn yr 'airing cupboard' Charles." Nhad yn rhuthro i fyny'r grisiau, 'roedd yr 'airing cupboard' ar y landing, dros ffordd i lle'r oedd Mam yn cysgu.

Yr oedd hyd yn oed y cychod yn cysgu, heb brin blycio wrth yr angor.

Byddent yn cysgu tan fod y siopau yn agor am ddeg, ac wedyn bant a nhw am hwyl a sbri.

Roedd o am wybod faint o oriau y byddai'r ci'n cysgu ac a oedd yn well ganddo gysgu mewn cenel neu fasged neu ar fat o flaen y tân.

Mi wna'i ngorau i gysgu heno,' meddyliodd, hwyrach y medraf ddianc oddi yma fory i chwilio am blisman yn rhywle.' O fewn dim 'roedd yn y gwely ac er ei holl bryder 'roedd Glyn Owen yn cysgu'n drwm.

Y tu ol ac o gwmpas y sbwriel, a'r bobl sy'n cysgu ar y palmant, yn y stesion, ar y gerddi ar ochr y ffordd, mae rhai adeiladau hardd yn Delhi.

Yn y cyfamser, fodd bynnag, mynnai Arabrab fod Ynot yn cysgu gyda hi bob nos, a rhaid oedd iddo yntau ufuddhau er bod ei hystafell wely a phob peth ynddi, a phawb ond Ynot ei hun yn drewi o wynwyn.

Gofalodd Del fod Fflwffen yn cysgu i mewn yn y tŷ y noson honno.

Roedd ei merch yn cysgu mewn ystafell arall.

Byddai'r gryduras yn cysgu'n braf cyn deg a go brin y deffrai wedyn tan y bore.

gyda'r anifeiliaid, yn cysgu dan balfau cath uffern, yn chwennych y rhosyn, heb fynnu dyfod i'r ardd i'w gyrchu'.

Bu'n cysgu yn y gwely llaith yma am yn agos i dair wythnos, gyda'r canlyniad, pan aeth adref, iddo fod yn wael gydag erysipelas am fis.

Mae hwnnw'n cysgu yn rhywle, (neb yn siwr yn lle), a cheisient ei ddeffro.

Syrthiodd Gwgon i gwsg trwm o'r diwedd ym mreichiau'r cawr gan chwyrnu cysgu fel ci bach boddhaus.

Dwi wedi dathlu sawl Nadolig ym Methlehem ar hyd y blynyddoedd - cysgu allan ar Sgwâr y Preseb ac yn y blaen - heb wybod ei bod hi yno.'

Diau fod aml denant yn methu cysgu gan y llawenydd sydd yn deillio iddo o'r ymwybyddiaeth hon o rinwedd ar ei ran.

penderfynodd Peter geisio cysgu'n syth, ond aeth Larry a finnau am dro.

'Doedd 'na ddim son yr oes honno am rai'n cysgu trwy'r dydd a ddim yn deffro nes ei bod yn amser mynd adra, a doedd 'na neb i roi help i rai na wnai neb arall eu helpu.

Ni ddychmygodd fod rhai wedi bod ar eu traed drwy'r nos yn Nhraethcoch yn dyfalu ble 'roedd e, ac yntau'n cysgu'n braf yn Llydaw.

Edrychodd arni'n cysgu, ei bochau'n pantio a'i cheg yn sugno am ei hanadl.

Ym mhlith y rhain hefyd y mae cyfraniad dieithr y dyn du a fu'n aros yn ein tŷ ni unwaith - mewn dyddiau pan oedd gweld dyn du yn dipyn o gyffro, heb sôn am ei fod yn cysgu'n yr ystafell nesaf.

Ond dim ond un gwely bach oedd yn tŷ, ac felly mi fydden nhw i gyd yn cysgu yn yr un gwely.

Roeddwn yn hanner cysgu ac yn cysidro i ble yr oeddwn yn mynd; teimlad od iawn.

Hyd yn oed ar ddiwrnod cyffredin gartref yn Surrey e fyddai Guto'n cysgu'n ddi-ffael am ryw ddwyawr cyn cinio, ac ar ben hynny fe fyddai'n siŵr o hepian cysgu bob tro yr âi i rywle yn y car.

Tystiai Capten Napier, Goruchwyliwr yr Heddlu ym Morgannwg, y gwyddai am weision a morwynion yn cysgu yn yr un ystafell.

Mae dros ddwy fil o ddisgyblion yn yr ysgol a nifer ohonyn nhw yn cysgu'r nos yno.

Ar ôl treulio tua hanner awr yn rwdlan a chanu aeth i chwyrnu cysgu.

"Ma' Dai ni wedi cysgu mas yn amlach na'r un blydi buwch yn Sir Aberteifi."

Mi fydd o'n falch o'ch gweld." A dyna lle'r oedd Dad mewn gwely, gwyn, gwyn, mewn ward olau fawr, a rhesi o welyau bob ochr, a rhywun ymhob un, rhai yn cysgu, eraill yn darllen, eraill yn gwenu ar y plant.

"A dim ond un gwely sydd yn y tŷ," meddai'r dynion bach od, "a does dim digon o le i bump mewn un gwely, a dydyn ni ddim yn gallu cysgu."

Er pan rydw i yma, mi dwi'n methu cysgu ar ôl i mi fynd i 'ngwely, achos mae 'na dŷ tafarn mawr dri drws i lawr, ac mae sŵn dychrynllyd yn dod o' 'na, bob awr o'r nos bron iawn.

Am ugain mlynedd olaf ei bywyd yr oeddwn i'n un o'i chyfeillion: âi fy ngwraig a minnau i'w gweld yn aml, bu'n cysgu yn ein tŷ ni, ysgrifennai lythyron atom; yn ddi-feth bob Nadolig anfonai bunt i'n merch ni, ac os byddai Elin yn hwy nag arfer yn ysgrifennu ati i ddiolch iddi am y bunt honno, cyrhaeddai llythyr oddi wrth Kate Roberts i holi a oedd y bunt wedi cyrraedd.

Cysgu roedd ef mewn ogof rywle yn Nyfed, ac fe ddeuai'n ôl ryw ddiwrnod i achub ei bobl pan fyddai ei angen, ac i hawlio ei etifeddiaeth fel gwir Dywysog Cymru.

Roedd e'n sefyll hytrach ar dro, fel pe bai e am neud yn siŵr nad odd neb yn cysgu yn ystod y bregeth.

Gallai rhywbeth fel Y Byw Syn Cysgu lethu ysbryd unrhyw un.

A Dr Zota yn cysgu yn Bod Eglur y noson honno wedi blino yn bwt ar ol y daith.

Ymhen ychydig funudau, a thithau wedi dechrau cysgu.

Roedd Merêd wedi cysgu erbyn i Dilys gyrraedd y gwely.

"Evans, mae gen i camp bed ichi ­ mi fydd dipyn yn well na chysgu ar y llawr." Diolchais iddo'n wresog, a theimlwn fy mod yn cael braint fawr o gael cysgu mewn gwely iawn amheuthun o beth mewn lle fel Shamshuipo.

"Yn deffro'r byw sy'n cysgu yn yr ardal gyfan, ac yn tynnu sylw'r holl bentref busneslyd yma ata'i ganol nos?

(Llif cwynion HEULWEN yn tawelu i fwmian cwynfanllyd wrth i LIWSI ei gadael a symud at WALI sy'n cysgu o flaen y teledu.

Syrth calon Bronwen 'fel pendil cloc pan dorro ei lein' ('Gorymdaith'); mae Lora'n teimlo ias 'tebyg i'r un a gafodd pan oedd yn blentyn, pan dorrodd lein y cloc mawr yn y gegin, gefn trymedd nos' (Y Byw Sy'n Cysgu); cwyd y pwysau oddi ar fynwes Bet 'yn araf, fel pendil doc yn codi wrth ei ddirwyn' (Tyroyll Heno).

"Er 'mod i eisiau cysgu, mae'n well i mi fynd i edrych ar y cloc yn rhan ôl y llong, gan nad yw'n gweithio'n iawn," meddai Douglas wrtho'i hun.

Tra'r oeddwn yno gryn deirawr un pnawn yr oedd cwsmer arall yn cysgu'n sownd yn ei gadair gydol yr amser.

Y mae'r dynion a'r gwragedd, yn briod ac yn sengl, yn byw yn yr un tŷ, ac yn cysgu yn yr un ystafell.

Cofiai amdani'n dwyn cyffuriau cysgu i Stuart pan oeddan nhw'n dechrau canlyn.