Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cysur

cysur

Un cysur sydd gan y gamblwr anlwcus yw'r gred fod y sawl sy'n cael anlwc efo'r cardiau yn cael lwc mewn cariad!

Un cysur sydd yna, nad oes unrhyw fwriad i ddathlu cychwyn go iawn y mileniwm gyda sbloet fel un y llynedd! A fydd yna ddim ail-agor y Dôm a thrio eto.

Yr un Bet sy'n teimlo cysur y gegin 'fel bwa blewog' am ei gwddw.

O fynd i oed mae tuedd mewn dyn i edrych yn ôl a byw ar atgofion sydd yn foddion cysur a mwynhad.

Aberthai rhieni lawer cysur er mwyn cymhwyso eu plant gogyfer â'r gystadleuaeth lem am ddyrchafiad, ac aberthent y genedl Gymreig a'i hiaith er mwyn chwyddo nerth a gogoniant yr Ymerodraeth fawr yr oedd Cymru'n rhan ddinod ohoni.

Edrychodd ar fy wyneb, a chymerodd beth cysur nad oedd rhagolygon am storm i'w gweld arno.

Dyro i ni bopeth sy'n angenrheidiol er mwyn cyfeillgarwch, cysur a mwyniant.

yr oedd un cysur ganddynt y cawn chwarae teg gan fod athrawes y babanod yn Gymraes o Sir Feirionnydd.

A'n cysur ni yw gwybod na phalla dy dosturi di.

Ond gan fod y gwesty hefyd yn fan cynhadledd Foslemaidd bwysig am gyfran o'r wythnos, trefnwyd i'r cyflenwad gael ei droi 'mlaen er cysur y mullahs a'u gwragedd a'u cynrychiolwyr.

Un cysur sy'n aros þ fydd Nedw ddim yn newid, ac fe geidw beth o hynawsedd ei awdur i genedlaethau i ddod.

Ond gellir godro peth cysur o eiria'r Gwyddel George Moore a ddywedodd bod angen tipyn o ddawn i lunio hyd yn oed opera neu epig neu ddrama neu nofel sâl!

Un cysur, o leiaf, oedd nad oedd o fewn Cymru yr un sefyllfa gynddrwg â'r 'baganiaeth' a gafwyd gan Henry Moseley yn ne swydd Stafford, na chwaith y '...'