Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cyswllt

cyswllt

Y parthau hynny a roes Daniel Owen i ni wedi'r cyfan ac ni raid amau ar ôl darllen eu gwaith fod yr Ifansiaid, ganrif wedi ei farw, yn dal mewn cyswllt â'r Gymraeg a glywsai ef yn feunyddiol.

Fel y dywedodd Golygydd Y Cymro mewn cyswllt arall, "Yr eliffant a'r morfil yn unig o holl greaduriaid Duw sydd i'w cadw, fe ymddengys." Yr oedd y dwr llwyd yn fy mhiser yn dechrau gloywi tipyn erbyn hyn; dechreuwn sylweddoli nad diben coleg diwinyddol oedd wynebu problemau trydanol yr oes, ond rowndio'r traddodiad fel llechgi, "heb ofal am y defaid"; un o ddyfeisiadau'r Ffydd i ffoi rhag ffaith, mewn gair.

'Roedd cyswllt a'r mor yn y capel hefyd.

Os yw'ch canolfan yng Nghymru, a rydych yn rhedeg eich busnes eich hun, neu eich bod yn ystyried cychwyn ar ben eich hun, mae Cyswllt Busnes yno i roi cymorth.

Yr ail hylif mwyaf cyffredin yn y cyswllt hwn yw hadlif.

* arenwi person cyswllt a ddylai allu darparu dealltwriaeth gyffredinol ynghylch y sefydliad croesawu.

Yn ôl Murry (a theg ychwanegu yn y fan hon nad yw bob amser yn glir ai aralleirio Keats ynteu datgan ei fam ei hun y mae) yr oedd cyswllt cyfrin rhwng y meddwl barddonol a'r ymwybod crefyddol.

yfed llai o alcohol,' ebe Rhiannon Bevan, Swyddog Cyswllt Cymru Sefydliad y Merched.

Yn y cyswllt hwn, carwn ddiolch am yr holl anrhydeddau a ddaeth i'm rhan i yn bersonol.

Yn y cyswllt yma y mae gan ein cynghorau cymuned swyddogaeth allweddol.

Person Cyswllt: Rhif ffôn:

Cyn mynd ati i chwilio am atebion i'r ddau gwestiwn, efallai y byddai'n well i ni edrych ar y cyswllt, y cyd-destun, y cefndir, y math o lefydd lle mae plant o dair i bump oed yn derbyn eu haddysg feithrin.

Mae'n holl bwysig fod cyswllt rhwng yr ochrau hyn gan mai nhw sy'n pwysleisio fod Datblygu a Rheolaeth yn rhan annatod o Tai Eryri.

* trefnwch gyfarfod adolygu gyda'ch person cyswllt ar ddiwedd y lleoliad.

Tybed a ddylid cynnwys cyfeiriad at y cyswllt rhwng Arise Evans a British Israel a'u daliadau?

Hoffwn gydnabod ein dyled i weledigaeth a medrusrwydd ein Cyfarwyddwr, Siôn Meredith ac i'r Swyddog Cyswllt deinamig, Andrea Jones, am eu hymroddiad cadarn i'r mudiad.

Fel eraill a weithiai yn y maes hwn, sylweddolai fod cyswllt amlwg rhwng troseddu a bod yn ddigartref.

(ii) Gofyn i'r Rheilffyrdd Prydeinig sicrhau i'r dyfodol bod materion cyffelyb yn cael eu trafod gan y Pwyllgor Cyswllt.

Cydsyniodd Olwen Rees a Jean Williams i gynrychioli'r gangen ar bwyllgor Cyswllt y pentref.

O ganlyniad i sefydlu Canolfan Gwybodaeth newydd i wylwyr a gwrandawyr, wedii lleoli yng nghanolfan y BBC ym Mangor, cafwyd cyswllt uniongyrchol gyda BBC Cymru a ddefnyddir gan tua 150 o bobl y dydd ar gyfartaledd.

Roedd i lenyddiaeth hefyd rôl bwysig yn y cyswllt hwn.

Cadarnhawyd yr argraff anffodus hon gan angen dyn am antur a'i gywreinrwydd; byddai hyn yn beth clodwiw mewn cyswllt arall ond mewn cymdeithas a reolir gan y teledu cyflwynwyd archaeoleg môr fel cangen o ffuglen ramantaidd.

Na, doedd dim hunanoldeb yn perthyn iddi yn y ffordd arferol - ond yr oedd yn y cyswllt hwn.

Fedrwch chi ffurfio cyswllt ag ysgol yn yr Eidal?

yn hytrach, y bwriad yw sefydlu cyswllt agos gyda gyda, busnesau bach a cholegau ledled cymru ar ffurf rhwydwaith, " meddai.

Mae system meiciau cyswllt newydd a chamerâu sgrîn lydan wedi eu gosod yn stiwdio C1.

roedd cynrychiolwyr o sefydliadau addysgol masnachol a diwylliannol mewn cyswllt â'i gilydd ym mangor aberystwyth a chaerdydd.

* Person cyswllt yn y sefydliad

(i) Gofyn i bencadlys y Rheilffyrdd Prydeinig a oedd y Rheolwr Rhanbarthol yn ymwybodol o'r bwriadau i gau rhai o'r gorsafoedd ar Reilffordd Arfordir y Cambrian a phaham na chyflwynwyd y mater i ystyriaeth y Pwyllgor Cyswllt.

Hawdd yw cymhwyso geiriau R.Williams Parry, un arall o gymwynaswyr mawr y Blaid yn ei dyddiau cynnar, am Saunders Lewis at y glewion hyn - "bod eu cariad at eu gwlad yn fwy nac at eu safle a'u llesâd." Yn y cyswllt hwn carwn wneud un neu ddau o gyfeiriadau personol at H. R. Jones.

Yn aml, ar ben bwrdd y safai yntau cyn awr ei dynged, a'i esgidiau oedd y cyswllt mwyaf pendant rhyngddo â'r ddaear - rhwng bywyd a marwolaeth.

Term technegol yw `demon' yn y cyswllt hwn ac ni ddylid ei gymryd fel yn gyfystyr â `diawl' neu `gythraul'.

Swyddog Cyswllt De-Orllewin Cymru

* cofnodwch brif bwyntiau eich profiad a nodwch unrhyw faterion sydd angen trafodaeth neu eglurhad pellach arnynt yn ystod unrhyw sesiwn adolygu gyda'ch person cyswllt.

Y tiwtoriaid oedd Chris Reynolds a Gwynfa Adam, a gofalwyd am weithgareddau'r trydydd grwp a threfniadau gweinyddol y cwrs gan y Swyddog Cyswllt.

Mae'r RSPB wedi cynhyrchu llawer iawn o ddeunydd rhagorol ar y pwnc hwn mewn cyswllt â'r Cwricwlwm Cenedlaethol, ac mae cyfran ohono wedi ei gyfieithu i'r Gymraeg.

Gobeithiaf a chredaf, serch hynny, bod safon moesau yn y cyswllt hwn yn gwella.

Mwy trist na thristwch yn fy marn i yw colli cyswllt a iaith y gwyddoch mai hi yw eich priod iaith.

Er cystal y cymeriadau, nid oes lawer o linyn cyswllt rhwng y penodau -- ond y berthynas ddigon anniddorol erbyn hyn rhwng Tom y Capten, ei wraig newydd, Wend., a'i gyn wraig, a'i ferch.

Dymuniadau da i Mr Berwyn Davies, Rhos Awelon, Bryn Eithinog, sydd yn dechrau ar swydd newydd fel Swyddog Cyswllt yn Adran Addysg a Chymuned Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru ym mis Medi.

Yr enwocaf o'r criw llafar hwn, yn y cyswllt presennol, oedd y Parchedig Evan Jones (Ieuan Gwynedd), Tredegar, prif ladmerydd y Cymry yn ystod 'argyfwng' y Llyfrau Gleision.

Bydd yr astudiaethau hyn yn codi o'r gwaith a gyflwynir yn ystod yr oriau cyswllt, wedi'u seilio ar ddamcaniaethau a sylfaen academaidd, ac yn cynnig cyfle i asio'r syniadaeth a gyflwynir gydag ymchwil dosbarth ar raddfa fechan.

Mae xénos yn bartneriaeth rhwng y partneriaid Cyswllt Busnes, Awdurdod Datblygu Cymru, y Swyddfa Gymreig a CBI Cymru gyda chefnogaeth gan y Gronfa Ddatblygu Ewropeaidd.

Cyrhaeddodd ei fywyd o ufudd-dod ei uchafbwynt yn yr hunanymroddiad llwyr a wnaed ar bren er mwyn diddymu anufudd-dod Adda mewn cyswllt â phren.

Hefyd, mae eisiau gwella'r broses o ledaenu canlyniadau'r arolygu hwn i'r sector anstatudol, mynd ati'n drefnus i adeiladu ar y cyswllt â'r sector anstatudol, a hynny'n arbennig drwy Fforwm Amgylchedd Gwynedd - fforwm lle gall y cyrff statudol ac anstatudol sydd â diddordeb yn yr amgylchedd gyfnewid syniadau a gwybodaeth.

Yr enw Sam oedd y cyswllt un tro, ac ar ôl bod trwyr rhai amlwg i gyd, dyma Rhys y basydd yn cynnig y berl Sam Barama, hynny yw snam bara yma, am ei fod yn llwgu - www, cymhleth.

Yn y cyswllt hwn o edrych ar hanes plwyf, gellir olrhain y mudiadau ac adwaith y bobl tuag atynt gan ystyried eu lles i godi safonau byw.

Yn y cyswllt Cymreig, mae rhywun yn cael ei demtio i ddyfynnur geiriau, Its brains you want, ar adegau fel hyn.

Geiriau arwyddocaol dros ben yn y cyswllt hwn yw galwad Duw i Abraham pan drodd ei gefn ar ei deulu yn Haran:

Yn y cyswllt hwn roedd tair tuedd: * ystyried y gair llafar yn fodel ar gyfer y gair ysgrifenedig ac felly, mabwysiadu cywair safonol a oedd yn gallu ymddangos yn anystwyth a phell,

Penllanw dadl gyfatebol i eiddo Murry ac Eliot rhwng Gruffydd a Saunders Lewis oedd y 'Llythyr' ar y cyswllt rhwng llenyddiaeth a chrefydd.

Gel y rhoddid pwyslais arwyddocaol ar gysylltiadau teuluol tebyg fu ymateb y beirdd i gyd-briodas rhwng y cyfryw uchelwyr a'r dolennau cyswllt a ffurfid ar dir cymdeithasol.

Bellach prin yw'r sôn am sgubell ym myd coelion ac arferion gwerin, ac eithrio'r cyswllt annatod rhyngddi â gwrachod ar Nos Galangaeaf.

"Mae'n holl bwysig bod swyddfa Gogledd-Gorllewinol yr Awdurdod yn aros yn agored i gadw mewn cyswllt a diwydiant, AS a'r awdurdodau lleol er mwyn adfywio economi'r ardal," meddai Mr Jones yr wythnos hon.

Yn y cyswllt hwn nid yw'n amherthnasol nodi mai'r afon hon, ar un adeg, a nodai'r ffin rhwng cymydau Dindaethwy a Menai.

Enw person cyswllt:

Ni allai CYD ddarparu rhaglen mor gyflawn o weithgareddau yn yr ardal hon heb weithgarwch y Swyddog Cyswllt.

Yn ychwanegol at hynny fe ddaeth cynrychiolwyr at ei gilydd o nifer o ganghennau ym mis Hydref i gyd- drafod y ffordd ymlaen ym mhob ardal ac ystyried yr angen am Swyddog Cyswllt cyn gwneud cais am grant i'r Swyddfa Gymreig.

Diffyg arbennig y mae'n gofidio amdano yn y cyswllt hwn yw fod yr ychydig sylw a roddwyd i lowyr yn unochrog ac yn anghyflawn ac yn neis-neis at ei gilydd.

'Roedd y meddyg wedi bod sawl tro o'r blaen, ac ef oedd ein cyswllt.

Yn y cyswllt hwn gellid codi posibilrwydd diddorol ynglŷn ê iaith y Mabinogi.