Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cytbwys

cytbwys

Y mae ôl bysedd ei ffydd ar waith y bardd fel ar waith y gwyddonydd a'r ysgolhaig mwyaf cytbwys.

Yn ôl y cyngor a roddir i'r merched, dylid - ymarfer yn gyson - bwyta diet cytbwys wedi ei reoli'n ofalus - byw bywydau iach - cael cyrff heini

Mae'n bwysig bwyta cymysgedd cytbwys o fwyd sy'n rhoi'r holl faethynnau angenrheidiol i chi yn ogystal a chwrdd a'r gofynion calori-isel er mwyn colli pwysau.

Blaenoriaeth arall i'r Cynulliad ddylai fod i sicrhau datblygu Cwricwlwm Cymreig sy'n gwricwlwm eang, cytbwys a pherthnasol gan roi lle arbennig i ddealltwriaeth gymunedol a fyddai'n cynnwys addysg wleidyddol, addysg amgylcheddol, addysg datblygiad byd ac astudiaethau heddwch.

model ydyw sy'n ymwneud yn unig â phennu lefelau cytbwys yr amrywebau mewndardd, ac yn diystyru llwybr twf yr amrywebau hyn dros gyfnod o amser.

Mantais arall iddo fel golygydd oedd bod ganddo ddiddordeb byw ym materion a phroblemau'r dydd, ac ni phetrusai cyn cynnig ei sylwadau cytbwys arnynt, naill ai'n feirniadol neu'n adeiladol.

Byddai model cydbwysedd cyffredinol sy'n cynnwys yr holl farchnadoedd hyn yn pennu lefelau cytbwys prisiau, y gyfradd llog, a buddsoddiant, yn ogystal â'r incwm gwladol.

Credwn fod angen cydnabod fod cyfrifoldeb ar bob darparwr i gyfrannu at greu hinsawdd ieithyddol fwy cytbwys yng Nghymru.

Roedd y sampl hefyd yn cynnwys croesdoriad cytbwys o bobl o wahanol gefndiroedd cymdeithasol.

O fod wedi disgwyl adroddiad cytbwys, a chynrychiolaeth deg i'r Ymneilltuwyr, roedd sylweddoli mai tri Sais uniaith a apwyntiwyd a'u bod, ynghyd â'r mwyafrif o'u cynorthwywyr, yn Eglwyswyr, yn siom fawr i'r addysgwyr Ymneilltuol yn lleol.