Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cytuno

cytuno

Chamberlain yn cyfarfod â Hitler ac yn cytuno i'r Almaen feddiannu Sudeten, rhan o Tsiecoslofacia.

Glowyr De Cymru yn cytuno i ffurfio'r NUM a dod â dyddiau'r 'Fed' i ben.

Yr wyf innau'n cytuno fod yn iawn i'r blaid gynnig ymgeiswyr mewn etholiadau seneddol; ond ar amodau.

Gwastraff amser ydi'u hanner nhw, ond mi fyddaf i'n ateb bob un, ond byth yn cytuno i fynd i unlle heb gael sgwrs ar y ffôn â'r dyn y pen arall yn gyntaf.

Ydi dadleuon Zola yn cytuno a diffiniad y Mudiad Anabledd o fyw'n annibynnol?

Y mae'r Cynhyrchydd yn gwarantu yn ymrwymo ac yn cytuno y:

Roedd hi wedi cytuno i gynorthwyo un o'r grwpiau sy'n addoli yn Glenwood.

Mae rheolwr Abertawe, John Hollins, wedi cytuno ar delerau gyda'r clwb ac wedi arwyddo cytundeb tair blynedd.

Rhaid oedd cytuno a'r ficer pan ddwedodd e ma rhodd o'r galon oedd hon ac y gellid codi eglwys newydd, bron, gyda'r arian - codi wal newydd sbon o gwmpas y fynwent, a thalu i ddyn am ofalu ar ol y bedde.

Er bod y clybiau wedi cytuno i wneud hynny maen nhw'n anfodlon o hyd gyda'r strwythur sy'n golygu bod naw clwb o Gymru yn y cynghrair yn hytrach na'r wyth y cytunwyd arnyn nhw yn wreiddiol.

Yma ac acw yn ei waith, fodd bynnag, mae nifer o sylwadau sy'n awgrymu'n gryf y byddai'n cytuno'n gyffredinol a safbwynt JR Jones ar y mater hwn.

Pwy oedd yn gyfrifol am y taliadau diswyddo oedd un o'r amodau ariannol nad oedd Alchemy a BMW yn gallu cytuno arno.

Nid yw'r arbenigwyr yn cytuno ar y resa/ it gorau am hylif sebon.

Y Senedd yn cytuno i dalu pensiwn i'r henoed.

Erbyn hyn mae WPD wedi cytuno i werthu Dwr Cymru i Glas Cymru.

Mae Caerdydd a Lincoln wedi cytuno ar swm o £550,000 am yr ymosodwr 21 oed, Gavin Gordon.

Rhaid cytuno ag Eigra Lewis Roberts wrth ddweud mai "drama i'r glust ydi hon, gan awdur sy'n ymwybodol iawn o arwyddocâd geiriau%.

* a ydyw eich ysgol wedi cytuno i'ch rhyddhau yn ystod y tymor ac a gadarnhawyd trefniadau llanw?

Rhaid iddi gael ei llwyfannu fel 'roedd o a minnau wedi cytuno.

Yn gyffredinol y mae angen cytuno ar rôl cyfarwyddwr canolfan vis-a-vis rôl swyddogion PDAG a rôl swyddogion yr Adran.

Tybed a fyddech chwi'n cytuno mai gywyddoniaeth a'i llawforwyn weithredol, technoleg, fu'r cyfrwng pennaf i newid, yn wir, drawsnewid, ein byd a'n cymdeithas, byth oddi ar Chwyldro Wyddonol yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg?

Ar ôl twrn o waith hynod o galed gydag archeb drom, barn John Williams - un o'r gweithwyr tun mwyaf profiadol oedd mai Phil, yn ddiamheuol, oedd y dyn cryfaf yn y gwaith, ac yr oedd yn hawdd cytuno gydag ef.

Nid oeddwn yn cytuno â'i ragfarnau ac yr oeddwn yn aml yn mynd yn groes i'w gyfarwyddiadau ac yn erlyn yn ôl fy ngoleuni fy hun ac fel y gwelwn degwch y mater mewn llaw.

Aelodau Seneddol yn cytuno i ostwng oed caniatáu cyfathrach wrywgydiol o 21 i 18.

Yn ystod arweinyddiaeth Alun Michael yn y Cynulliad, gofynnodd Dafydd Wigley iddo a oedd yn cytuno gyda'r angen i roi statws swyddogol i'r Gymraeg.

Thomas yn cytuno â Rowlands ac yn gweld 'Cafnan' yn ffurf ar 'Cafn y Nant', sy'n enw digon priodol, yn enwedig o ystyried natur rhan isaf y dyffryn hwn.

Mae pawb, yn ddieithriad, yn ffilm byffs y dyddiau yma ac wrth gwrs does neb yn cytuno ar beth oedd/yw/ fydd y ffilmiau gorau/ gwaethaf.

Mae'n siwr na fyddai pob un ohonoch yn cytuno â'm dewis.

Roedd - - yn cytuno gyda'r ddamcaniaeth.

'Smo i'n cytuno bod hyn yn rhoi negeseuon anghywir.

Eglurodd Cyng Helen Gwyn, cyn-Faer Caernarfon, ei bod wedi gwrthod y gwahoddiad am nad yw'n cytuno â dathlu'r Arwisgo.

Cyrff sydd wedi cytuno cynlluniau iaith statudol â'r Bwrdd.

Sef o ryw fan deallusol lle nad oes odid neb yn colli cwsg ynghylch iawn amseriad y Farn Fawr nac yn debyg o lindagu ei gystedlydd os nad yw'n cytuno gant y cant ag ef ynglŷn â natur y Drindod ac arwyddocâd symbolaidd y planedau; ond man, serch hynny, lle cydymdeimlir ag amcanion yr ysgrifennwr crefyddol fel ag amcanion pob llenor.

Rhaid i mi gyfaddef rwyn cytuno â Javed.

Ymrestrodd amryw o wŷr amlwg yn y Brifysgol tu ôl i Newman, fel William Palmer, a fu'n llugoer ei deimladau tuag ato er pan gyhoeddwyd Remains Hurrell Froude, a Dr Pusey, a apeliodd am amser a chyfle i Newman gael ei amddiffyn ei hun, er nad oedd yn cytuno â rhai adrannau o'r Traethawd.

Arwydd o rym y cwmni%au hysbysebu yw eu bod yn gallu rhoi pwysau ariannol ar y sianeli teledu drwy dynnu hysbysebion yn ôl os nad ydynt yn cytuno efo cynnwys rhaglen.

Efallai na fydd neb yn cytuno, ond mae'n rhaid i ni gyfaddef fod Just Tonight yn ein hatgoffa o Catatonia i ryw raddau.

ac y maent yn hyderus y bydd y mwyafrif llethol yn cytuno i hyn.

'Roedd Awdurdod Datblygu Cymru, Bwrdd Croeso Cymru, y Cyngor hwn ac Antur Llŷn (y partneriaid) wedi cytuno i gydweithio i sefydlu a rhedeg cynllun cymhorthdal i berchenogion a/ neu ddeiliaid eiddo masnachol yng nghanol y dref.

Yn aml, byddai Mengistu yn dienyddio ei swyddogion ei hun os nad oedden nhw'n cytuno â strategaeth y rhyfel.

(a) i'r cais am ystafelloedd ychwanegol yn y Bala a Thywyn gael ei dderbyn, cyn belled ag y byddai cyfleusterau mynediad hwylus yn cael eu cytuno.

Fe fyddwn ni'n cytuno â'r casgliadau a wnaeth yn yr erthygl i raddau pell iawn ond fe hoffwn ychwanegu rhai pwyntiau.

Mewn egwyddor mae WPD wedi cytuno i werthu Dwr Cymru i Glas Cymru am £1.8bn.

Y mae'r Athro Glanmor Williams yn cytuno â'r farn a fynegodd y diweddar R. T. Jenkins yn y Bywgraffiadur am de Gower, "Ei haelioni a'i ysblander fel adeiladydd yw ei glod pennaf", ond y mae am ychwanegu fod Gower, yn ogystal â bod yn wr dysgedig, yn esgob cydwybodol.

Ni fuasai pawb yn cytuno â'm dewis gan fod detholiad dirifedi o blu sewin ar gael, rhai wedi eu dyfeisio at wasanaeth pysgotwyr lleol.

Nid yn unig y mae senedd y wlad honno wedi penderfynu yn ddemocrataidd nad yw hi eisiau i Tyson ddod yno i ymladd ond y mae gweinyddiad y wlad yn cytuno a'r papurau newydd yno yn groch yn erbyn yr ymweliad oherwydd mai barn trwch y boblogaeth, hyd y gallwn gasglu, yw na ddylai gael dod yno.

96% o'r Cymry Cymraeg a 94% o'r di-Gymraeg yn cytuno y dylid cynyddu niferoedd y siaradwyr Cymraeg.

Cydweithio a CBAC i dddarparu deunydd camera barod pe byddai CBAC yn cytuno.

Carchariadau eto. Buddugoliaeth Llywodraeth Lafur yn cytuno i roi gychwyn ar Sianel Gymraeg a'r Torïaid yn cydsynio.

Mae cyn-hyfforddwr Cymru, Terry Yorath, wedi cytuno i adael Bradford wedi i'r clwb beidio ai ystyried ar gyfer swydd rheolwr nac is-reolwr y clwb.

Y tebyg yw y byddai'r ddau wedi cytuno a Pierre Teilhard de Chardin : "Resonance to the all is the keynote of pure religion and of pure poetry." Yn achos Waldo daw hyn i'r golwg ar wastad ei ymateb i amgylchiadau, e.e.

Hoffem gael cadarnhad hefyd y bydd yr arolwg ar yr iaith Gymraeg yr oedd y Pwyllgor Addysg dros 16 wedi cytuno arno rai wythnosau yn ôl yn mynd rhagddo yn mis Ebrill.

Rheithgor Caernarfon yn methu cytuno ar ddedfryd ond rheithgor yr Old Bailey yn eu cael yn euog ac yn eu dedfrydu i naw mis o garchar.

Dywedodd Emlyn Williams, Llywydd Glowyr De Cymru, nad oedd yn cytuno â thactegau Scargill, ac fe'i rhybuddiodd i gadw draw.

Gwir nad oedd pawb yn cytuno.

Mae Chelsea wedi cytuno i dalu £11 miliwn i West Ham am y chwaraewr canol-cae rhyngwladol.

Awdurdodwyd Swyddog Diogelwch y Cyngor sef y Prif Swyddog Iechyd Amgylchedd mewn ymgynghoriad â'r Trysorydd, a'r Prif Swyddog Technegol mewn perthynas ag adeiladau'r Cyngor ac mewn achosion eraill unrhyw Brif Swyddog perthnasol i gytuno ar wariant ar unrhyw waith a fydd yn angenrheidiol yn eu barn hwy ar ôl gwneud arolwg dan y cyfryw reoliadau, - ond yn amodol ar gyflwyno adroddiad i'r Pwyllgor Gwaith priodol cyn cytuno ar unrhyw wariant neu waith sylweddol.

Ymateb cyffredinol oedd eu bod o fudd mawr ac wedi hwyluso gwaith trwy'r adran i gyd, sef ar gyfer: - cytuno ar bolisi ysgol: help gyda'r Prifathro ac eraill!

Weithiau fel yn Reykjavik fe ddaw si o'r cyfarfodydd fod bargen anhygoel ar fin ei tharo, sef y byddai'r ddwy wlad yn cytuno i gael gwared ar arfau niwclear o bob lliw a llun o fewn deng mlynedd.

Fel hyn y bu: Roedd dau ohonom wedi cytuno â'n gilydd ein bod yn chwibannu yn yr Ysgol Sul.

'Tasa fo wedi gofyn imi fabwysiadu enw'r Gŵr Drwg ei hun mi faswn wedi cytuno er mwyn cael cyhoeddiad i'r Capel Mawr.

Rhaid fod ei frawd Dafydd o oedd yn hŷn nag ef o ryw ddeng mlynedd, yntau, wedi chwarae rhan bwysig yn ei addysg, yn enwedig gan fod pob tystiolaeth yn cytuno fod Dafydd yn naturiol dalentog, fod ganddo gof gafaelgar a dawn ymadrodd, a'i fod wedi darllen 'llawer yn Gymraeg a Saesneg ar hanesyddiaeth, barddoniaeth a ffug-chwedlau'.

Rai misoedd yn ddiweddarach derbyniais lythyr oddi wrth famgu'r ferch yn dweud bod y meddygon wedi ei harchwilio'n ofalus a'u bod yn cytuno bod y salwch o'r diwedd wedi ymadael yn llwyr â'r corff.

Fe'u cyfrifant eu hunain yn Gymry i'r carn, er na fyddai ffermwr o Ogledd Cymru sy'n ddisgynnydd uniongyrchol i genedlaethau di-dor o Gymry yn cytuno.

Bydd S4C yn darlledu uchafbwyntiau gêmau rygbi Cymru o Gwpan Rygbi'r Byd yn Gymraeg, ar ôocirc;l cytuno ar delerau darlledu gydag ITV Sport.

mae'r cefnwr Steve Watson wedi cytuno i adael Aston Villa ac ymuno ag Everton.

Rydw i'n cytuno gant y cant â hynny ...

92% o'r Cymry Cymraeg a 77% o'r di-Gymraeg yn cytuno y dylid atgyfnerthu'r Gymraeg fel iaith gymunedol.

Y mae Pennaeth Adran yr Eisteddfod, Elvey Macdonald, yn cytuno.

Fe gawn glywed nad yw bob amser yn cytuno â'r beirniaid swyddogol.

Nid rhyfedd felly mai un o'i nodweddion oedd diddordeb diwylliannol eang yn ogystal â goddefgarwch deallus at olygiadau o bob math, pa un bynnag a oedd ef yn cytuno â hwy ai peidio.

Dylech nodi fod y Pwyllgor wedi cytuno ar yr ymateb hwn yn sgîl darllen tair dogfen arall yn ogystal, sef

'Wyt ti'n cytuno?' gofynnodd Morris.

Fel mae'n digwydd yr wyf yn cytuno â hwy yn eu gofid am 'safon' iaith, ond ofnaf fy mod yn gweld eu dehongliad o'r hyn sy'n digwydd yn annigonol.

pwysleisiodd ynddi nad oedd yn cytuno â'r farn mai ei hamddiffyn ei hun a wna gwlad sy'n ymosod ar wlad arall.

O ran democratiaeth, mae'r mudiad yn dal i ystyried athroniaeth Jefferson yn ddilys, ac mae'n cytuno'n llwyr â fformwla Lincoln o lywodraeth y bobl, gan y bobl, ar gyfer y bobl'.

Pan ddaeth y trydydd darlleniad, fodd bynnag, cafwyd bod yr ASau Cymreig wedi cytuno a Mrs Bessie Braddock ac ASau Lerpwl nad oedd angen dadl.

Yr Ymerodraeth Brydeinig yn ymestyn dros bumed rhan o diroedd y byd: 'Yr ymerodraeth nad yw'r haul yn machlud arni byth' (yn ôl cellwair y cyfnod: 'am na allai Duw ymddiried mewn Sais yn y tywyllwch'). Y Senedd yn cytuno i dalu pensiwn i'r henoed.

Gan mai natur yr unigolyn a benodir i gyflawni project yw'r prif ffactor mewn llwyddiant y math yma o broject, y mae angen cytuno ar ganllawiau ar gyfer penodi'r personau mwyaf cymwys er sicrhau cysondeb a disgwyliadau cyffredinol ymysg y canolfannau.

Syniad ardderchog - dwi'n cytuno yn hollol, meddai un o aelodau Capel y Graig.

Ni wyddom ar hyn o bryd os bu'r ymgyrch gyntaf, sef targedu'r arwyddion Give Way, yn llwyddiant; hynny yw a fydd y Swyddfa Gymreig yn cytuno i'w gwneud yn ddwyieithog.

94% o'r Cymry Cymraeg a 80% o'r di-Gymraeg yn cytuno y dylid darparu mwy o gyfleoedd i ddefnyddio'r iaith.

Roedd yr unigolion hyn (dros 250 o enwau i gyd, wedi eu casglu dros gyfnod o ryw dair wythnos), yn cytuno â'r datganiad hwn: GALWN AR Y CYNULLIAD CENEDLAETHOL I LUNIO STRATEGAETH GADARNHAOL I DDATBLYGU YSGOLON GWLEDIG.

Mae'n siŵr y gellid rhoi llawer ateb, ond byddai nifer ohonom yn cytuno i weld arwyddocad arbennig mewn cerdd eisteddfodol arall, na chollodd ddim o'i hapel na'i grym gyda threigl y blynyddoedd.

Mewn geiriau eraill, yr oedd yn cytuno â datganiad diweddarach Morgan Llwyd, "Y sawl sydd yng Nghrist, y mae yn y wir eglwys hefyd".

Aelodau Seneddol yn cytuno y dylid cael gweinidogaeth arbennig i Gymru.

Fodd bynnag, y mae'r rhan fwyaf o bobl yn cytuno yn awr mai methiant fu'r blociau o fflatiau.