Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cytunodd

cytunodd

Dim ond wrth inni ddechrau cerdded tuag at dacsi arall y cytunodd ar bris teg.

Ac os na fydd rhywun yn dod mi awn ni adre.' 'Ie,' cytunodd Gareth.

Cytunodd y ferch yn ddiolchgar.

'Iawn, iawn,' cytunodd Rhys gan ddechrau gwthio'r bygi i ben y stryd.

Gan mai cwta oedd fy ngwyliau yn y chwarel, cytunodd Dafydd William imi fynd i lawr i Gaerfyrddin i fwrw'r Sulgwyn un flwyddyn.

Un noswaith cytunodd y merched i ganu a dawnsio i ddiddanu dynion y ddwy garfan, ac El Hadad yn eu plith, er mwyn dathlu cytundeb ynglŷn â thâl am ddŵr y ffynnon ac am waith y gobeithient ei gael o ddwylo'r gof.

Cytunodd yntau, gan ei fod ar fin gadael i hedfan o amgylch y byd.

Er mawr syndod i mi, a mawr ddigofaint, cytunodd Modryb Lisi.

Cytunodd cadeirydd y tribiwnlys y dylai gwrandawiad llawn gael ei gynnal i honiadau bod y fyddin yn gwahaniaethu'n annheg ar sail hil.

Roedd hefyd wedi cynnig mwy o arian iddi ac, wedi pwyso a mesur, cytunodd Vera i roi cynnig o fis arni.

Cytunodd Pengwern i fynd am chwe mis o seibiant ar yr amod fod trefniadau'n cael eu gwneud i dalu'r ddyled oedd ar y capel lleol a hefyd i ofalu am y plant amddifaid.

Cytunodd hithau, a daeth yn ôl i Dyddyn Bach ddiwedd y mis.

Cytunodd hithau.

mewn canlyniad i'r arbrawf lwyddiannus, cytunodd llywodraeth ffrainc i roddi blwyddyn o brawf i'r ddyfais, ac ar ddiwedd y cyfnod prawf, fe'i derbyniwyd yn ddiamheuaeth.

`Fi hefyd,' cytunodd ei gydymaith, John Watt.

Cytunodd y Pwyllgor Polisi (drwy'r Is bwyllgor Twristiaeth) i argymmell fod swydd newydd yn cael ei greu i fy nghynorthwyo.

Mae gen ti'r boddhad o weld dy ddyfodol yn canghennu 'mlaen yn dy ddisgynyddion." "Ydi, mae hynny'n beth braf," cytunodd Gruff.

Cytunodd T.

'Do,' cytunodd ei fam, 'ond efallai y gwelwn ni un arall os daliwn ni ati i edrych.'

Cytunodd yr ysgrifennydd Mrs Meirwen Jones a'r trysorydd Mr Oswyn Evans aros yn eu swyddi am dymor arall.

'Iawn,' cytunodd Huw.

Mi fyddai'n well i ni ei roi yn ôl a mynd i ddweud wrth Sarjant Evans ar unwaith.' 'Ie, ti sy'n iawn fel arfer,' cytunodd Bleddyn.

Cytunodd Ali, a bodlonodd Mary aros gydag ef tan hynny.

'Brwnt uffernol,' cytunodd y chwilen yn llawen, 'a hynod o glyfar hefyd.

'Rhaid yn siŵr,' cytunodd Dr Morgan.

Cytunodd yr aelodau y byddai syniad o'r fath yn un ardderchog ac y dylid gwneud ymchwil pellach i'r ochr gyllidol.

Rhwng bodd ac anofdd y cytunodd Dilys i fynd.

Tua diwedd mis Gorffennaf, cytunodd y prif gwmnfau llongau i gydnabod Undeb y Morwyr a rhoi cyflogau uwch i w aelodau.

Cytunodd pawb y dylai'r llofrudd gael ei glymu wrth goeden a'i saethu.

"Siwr o fod," cytunodd yr arolygydd.

Gan nad oedd ganddo ef na Mary drwydded yrru, cytunodd Fred i yrru'r cerbyd drostynt a phrynodd Ali fen Bedford at y gwaith.

Er iddi ddechrau'r erthygl yn ddigon petrus gan ddweud mai ar funud gwan y cytunodd i'w hysgrifennu, yr un yw'r nodweddion.

'O ie, fi'n gwbod.' cytunodd y Ddynas yn ddoeth gan ddal ei phen ar sgiw bwysig.

Er gwaethaf ei blinder a'i phrofiadau erchyll, cytunodd Siwsan i gymryd rhan mewn cynhadledd i'r wasg y bore canlynol, wrth i Adam a Natalie gael hwyl eithriadol yn chwarae yn yr eira.

'Naddo.' cytunodd Ifor.

Wedi i bethau dawelu rhywfaint rhyngddynt, cytunodd y ddau fod popeth drosodd yn eu priodas ac aeth ef i olchi dillad y plant tra bu hi'n golchi'r gwaed o'i cheg a'i gwefusau.

Cytunodd y Pwyllgor Celf a Chrefft ddarparu bwyd.

Yn wyneb dioddefaint rhai o'r teithwyr a oedd mewn cerbydau trên o hyd, cytunodd y Pwyllgor Streic i annerch y dyrfa.

Wyt ti'n cofio?' 'Rwyt ti'n hollol iawn,' cytunodd Meic.

Cytunodd a mi.

Mae yna gymaint o bethau i'w gwneud." "Rydw i'n mynd i bysgota go iawn y tro yma, does arna innau ddim eisiau mynd oddi yma rhyw lawer chwaith," cytunodd Huw.

"Fe fyddan nhw'n ein disgwyl ni am hanner dydd." "Popeth yn iawn," cytunodd hi.

"Mae'n debyg fod y gweddill ohonoch chi'r criw yn credu fod y dasg yn amhosibl, ond mae'n ddyletswydd arnon ni droi'n ôl a cheisio dod o hyd iddo." Cytunodd pawb.

Cytunodd Alwen Jones i holi aelodau'r gangen.

Cytunodd Awdurdod S4C y bydd cyllid rhaglenni S4C am y flwyddyn 2000 4.4% yn uwch nag yn 1999, sydd eisoes 10% yn uwch na'r gwariant yn 1998.