Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cywaith

cywaith

Cywaith tymor hir fyddai casglu baw adar a rhoi'r samplau mewn potiau i weld pa blanhigion sy'n tyfu ohonyn nhw.

Cywaith rhwng dau fardd oedd y cerddi buddugol, ac ni chaniateir cywaith yn y gystadleuaeth.

Keith Jones ydw i, a fy chwaer Vera Brown a'i mab Christopher oedd fy nghydweithwyr yn y cywaith ysgrifenedig.

Anfonwyd cywaith gan Dic Jones a'i ddosbarth, dan y ffugenw Lleng, i'r gystadleuaeth.

Dywedodd Huw Jones, Prif Weithredwr S4C,: "Rwy'n hapus dros ben o feddwl fod ffilm o safon mor eithriadol - cywaith rhwng animeiddwyr tair gwlad, gan gynnwys Cymru - wedi ei chydnabod gan yr Academi Americanaidd.

Bu 35 o bobl ifainc o Wynedd yng ngogledd Cymru yn cyfansoddi ar gyfer ensemble siambr gan Gerddorfa'r BBC mewn cywaith dan arweiniad y cyfansoddwr John Metcalf dros gyfnod o chwe mis.