Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cywilydd

cywilydd

Fyddai ganddi ddim cywilydd ohono yn yr Hengwrt heno.

Fe gawsom ni ein magu i gredu fod dagrau'n arddangos gwendid ac i deimlo cywilydd o ymollwng yng ngþydd eraill.

Mae rhai o gwmpas sy'n ddigon pethma i godi cywilydd ar y diafol, ac maent yn dda ar eu gliniau yn y capel, er bod eu gweddiau cyn wanned a dwr'.

Gall dadlau fel hyn am bris siwt neu soffa godi cywilydd arnoch chi weithiau, os yr ydych yn digwydd bod efo fo, ond dros y blynyddoedd arbedodd bunnoedd i mi wrth fargeinio drosof.

Tybed ai fi oedd yr unig un i weld eisiau yr hen bwll nofio wrth gerdded hebio Parc yr Arfau cym Stadiwm y Mileniwm wedir cywilydd ddydd Sadwrn diwethaf.

Ond mynnai cymaint o lenorion fynegi eu casineb a'u ffieidd-dod at gyflwr y byd trwy ei gystwyo'n finiog, arabus a chyrhaeddgar er mwyn codi cywilydd ar ddynion a chymdeithas trwy chwerthin am eu pennau a disgwyl y newidient eu buchedd a'u harferion, nes o'r diwedd gydnabod y modd.

A rhag eich cywilydd os na ddaethoch chi.

Un peth roedd rhaid i mi ofyn, oedd, a oedd unrhyw wobr ariannol - 'Nagoes wir!' ebychodd Christine Beer, cyd-drefnydd rhanbarth Fflint, gan godi cywilydd mawr arna i am feddwl y fath beth.

Pwy ond Jacob a allai droi sefyllfa o'r fath yn gyfrwng gwên a gofid, gan gloi ei ddameg gyda her o gwestiwn: 'Pwy dynn ei gôt?' Aeth blwyddyn gron heibio cyn i neb weld Yr Ymofynnydd yn ymddangos drachefn â chlawr melyn braf amdano, gyda'r golygydd yn cyfaddef i'r cywilydd a donnodd drosto oherwydd iddo 'orfod tynnu côt oddi ar gefn yr hen ŵr' a'i anfon allan 'fel sgerbwd noethlym, gwyn'.

Fe'i daliodd o flaen y gynulleidfa rhwng bys a bawd, a chyhoeddi, 'Ma' 'na ddigon yn y potal bach yma i lladd chi i gyd!' Er cywilydd imi, ni allaf ddwyn i gof beth oedd y meddyg yn ceisio'i brofi yn y bregeth honno, dim ond i'r ffiol fygythiol gadw pawb yn bur effro o hynny ymlaen.

Cododd cywilydd ar Idris a gofynnodd yn isel i'r llew sut y gwyddai ef fod yr Afal Aur yn ei feddiant.

Dechreuodd fel prentis crydd, ac y mae ef a Daniel Owen yn enghreifftiau da o'r dosbarth o grefftwyr yn y ganrif ddiwethaf sydd yn eu hymdrechion i ddod o hyd i lyfrau da, i'w darllen, ac i ymddiwyllio arnynt yn gyfryw ag y dylent godi cywilydd wyneb arnom ni yn y ganrif hon gyda'n haddysg rad, ein horiau gwaith cwtogedig a'n horiau hamdden helaeth.

(Wir yr rwan mae siarad fel hyn yn codi cywilydd arnaf, yn codi pwys arnaf.