Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

cywir

cywir

Rhoi mynegiant cywir o brofiad oedd y peth pwysig.

Mae'n mynnu taw ganddo ef y ceir y dehongliad cywir, yn wahanol i'r un a gafodd ei lygru gan wledydd Arabaidd eraill.

Fe'u cadarnhawyd ac fe'u harwyddwyd fel cofnod cywir.

Ac os yw ysgrifennu a siarad Saesneg cywir yn bwysig yn Lloegr, onid yw ysgrifennu a siarad Cymraeg cywir yn bwysig yng Nghymru?

Bu ffigurau cynulleidfaoedd teledu yn dda yn gyffredinol, gan adlewyrchu gallu cystadleuol cynnyrch BBC Cymru, a thra bo rhywfaint o bryder ynglyn â safle presennol BBC Radio Wales, mae arwyddion bod y penderfyniadau strategol, golygyddol a phroffesiynol cywir yn cael eu gwneud i adfywio'r orsaf.

trwy anfon ergyd o gerrynt ar yr adeg cywir, gellid argraffu unrhyw lythyren ddewisiedig heb orfod atal symudiad cyson yr olwyn.

Yn wir, pan awgrymwyd bod y fasnach yn rhy beryglus ac y dylid ei hatal, dywedodd Thomas Grey, ysgrifennydd cynorthwyol i'r Bwrdd Masnach, "Credaf nad 'peryglus' yw'r gair cywir.

Dros yr wythnosau diwethaf bul fy ffrind CySill yn hen gyfaill digon cywir.

Ni ddylid codi cyfarpar ac eithrio dan arolygaeth i sicrhau eich bod yn defnyddio'r dull cywir ac nad yw'r unigolyn yn gwneud mwy na'i allu.@

Gwelwn sut y gallai cymeriad ansicr Catrin flodeuo wrth iddi gael sylw am y rhesymau cywir ond mae'r tro yng nghynffon y stori yn pwysleisio'r ffaith bod y gymdeithas yn gwneud iddi deimlo'n alltud.

Ni wn i beth yw'r ateb cywir i'r holl gwestiynau hyn (er bod gennyf syniad go lew) am nad oes neb yn eu gofyn; ond cwestiynau fel hyn sy'n rhaid eu gofyn os am sicrhau dyfodol i'n hiaith.

Nid mater o gael y dull cywir ydyw, ond mater o gael y dull sydd yn fwyaf addas a phroffidiol i'n sefyllfa a'n hysgolion ni ein hunain.

Yr oedd gan genedligrwydd ei nodweddion arbennig; neu'n fwy cywir efallai, yr oedd am ei fynegi ei hunan mewn sefydliadau.

Rhaid i'r Cynulliad ddileu'r cysyniad o ddarparu gwasanaeth 'Cymraeg wrth ofyn' a dim ond 'pan fo'n rhesymol ymarferol.'. Y seiliau egwyddorol cywir i unrhyw Fesur laith effeithiol ydyw dwyieithrwydd naturiol cymunedol a hyrwyddo'r Gymraeg fel norm ac fel priod iaith Cymru.

Diolch yn fawr am un ateb cywir yn y gystadleuaeth olaf.

Cofiwn yn annwyl iawn am Megan fel un yn caru gwneud cymwynas, un yn caru rhoi o'i gofal a'i hamser a'i chwmni, un oedd yn caru rhoi o'i hamser ar daith bywyd i ysgafnhau beichiau pobol eraill, yn gristion cywir a ffrind ffyddlon i lawer.

Mae tatws, ymysg eraill o'r carbohydradau cymhleth, yn fwyd priodol i'w gymryd yn gymedrol ar gyfer cynnal pwysau cywir.

Ac efallai mai'r atgof yna sy'n rhoi'r pwyslais cywir, wedi'r cwbl, oherwydd ffigur llenyddol oedd Anthropos yn hytrach na llenor o bwys.

ar derfyn y cyfarfod cefnogodd y gynulleidfa'r datganiad hwn : gan gredu bod rhyfel yn anghyson ag ysbryd cristnogaeth ac yn dinistrio lles gorau dynoliaeth mae'r cyfarfod hwn yn awyddus i ddatgan ei gefnogaeth i'r ymdrechion a wneir ar hyn o bryd gan y gymdeithas heddwch i ledaenu syniadau cywir am y drwg a wneir gan ryfel...

Fodd bynnag, er bod yr NCT yn cymryd cam i'r cyfeiriad cywir, ofna'r Gymdeithas nad ydyw'r Swyddfa Gymreig wedi achub y cyfle i lunio canllawiau grymus a fyddai'n fodd i warchod yr iaith yn ei chadarnleoedd traddodiadol a hyrwyddo ei hadferiad mewn ardaloedd a'i collodd yn ystod y ganrif a hanner diwethaf.

Ond, mae'n bwysig iddo gael y dos cywir o cortison; os rhoddir gormod, mae'r claf yn debyg o fynd i gyflwr o orfoledd lle y mae'n oroptimistaidd, yn orhyderus, yn rhwyfus ac yn orsiaradus.

Dysgai i'r bonheddwr bopeth y dylai ei feithrin - rheolaeth ar ei ymddygiad, a'r rheidrwydd i weithredu a datblygu'r dull cywir o wneud hynny.

Roedd agwedd y plant ysgol hyn yn yn wahanol iawn i'r siniciaeth a geir gan ambell golofnydd yng Nghymru, megis Gwilym Owen a Hafina Clwyd, sy'n credu y byddai'n rheitiach i ni ymgyrchu dros Gymraeg cywir na thros le'r Gymraeg ym maes technoleg.

Yn awr gellir gosod pryder Enid am ddiogelwch Geraint yn yr ymladdfa yn y cyd-destun cywir.

Ond nid yw'r ffaith ei fod yn actio rhan yr unben beirniadol yn gwneud ei ddehongliadau yn rhai cywir o bell ffordd.

Yng ngeiriau un o asiantau'r Cenhedloedd Unedig, 'Mae arbenigwyr o'r farn mai'r system hon yw'r un fwyaf cywir o'i bath yn y Trydydd Byd.' Y broblem, dro ar ôl tro, oedd bod gweddill y byd yn gwrthod cymryd sylw digonol o'r rhybuddion.

Mae nifer y Cristionogion cywir yng Nghymru ar gynnydd.

Dengys y siart isod bod menywod yn ffurfio mwyafrif bach ymhlith y rhai a ddychwelodd yr holiadur, ond mae'r rhaniad yma yn adlewyrchiad eithaf cywir o'r Cymry Cymraeg.

Yn amlach na pheidio rhoddai Powell fwy o groeso i ateb anghywir a oedd yn ffrwyth meddwl neu ddychymyg nag i ateb cywir confensiynol a di-fflach.

Gallai rag-weld ac amseru pethau; byddai ei lens bob amser yn edrych i'r cyfeiriad cywir.

Enw'r tŷ oedd Tangerine House - y perchennog yn ddigon craff i wybod beth allai ddigwydd petai'n rhoi enw cywir lliw y tŷ - oren!

Glyna'r plat ar amrantiad yn nhafod y gloyn, ac yna gwyra ymlaen er mwyn cyrraedd y man cywir i beillio blodyn arall.

Felly dyma ofyn i'r Arglwydd ddangos i mi beth oedd y llwybr cywir ymlaen.

'Dyw'r adeiladwaith, falle, ddim yn berffaith ond mae'n gam cywir a rwyn gobeithio nawr y bydd safon y gêm yng Nghymru yn codi.

Byddai'r gweithwyr yn helpu o bryd i'w gilydd, yn cywiro neu'n dod i'r adwy pan fyddai hi'n oedi, yn ceisio meddwl am y term technegol cywir.

Yn y Tyddyn Du, Maentwrog, y trigai, ac nid cywir mo'r honiad iddo fyw yn y Gerddi Bluog.

Ni ellir felly sicrhau dyfodol y Gymraeg mewn gwagle: rhaid wrth ymdriniaeth fydd yn creu'r amodau cymdeithasol ac economaidd cywir, a hynny yng nghyd-destun cymunedau cryf. 02.

Os nad ydych yn siwr sut i ddewis y cymeriant o galoriau cywir i chi, yna gallai'r canllaw isod eich helpu.

(Rhyfedd, gyda llaw, mor hawdd yw pentyrru ansoddeiriau amrywiol - gwrthgyferbyniol yn wir - wrth geisio cyfleu naws y gwaith; dramatig, telynegol, &c.) Gwiriondeb, wrth gwrs, fuasai haeru mai'r nofel hon sy'n rhoi'r darlun 'cywir'; dehongliad unigolyddol iawn a geir.

Er mai safonau Duw yw y rhai cywir, eto mae'n amlwg ein bod yn byw mewn byd lle ni chydnabyddir y safonau hyn.

'Yr Eryrod' yn fwy cywir wrth gwrs, neu 'Yr Eryr' fel y dywed pobl y Gogledd.

Gellir taenu chwynladdwr detholus yn ôl y mesuriad cywir ar wyneb y lawnt gan ddefnyddio peiriant.

Os cywir hyn o ddadansoddiad, mae'n dilyn nad oes y fath beth â safbwynt cwbl ddi-duedd, cwbl niwtral.

Penderfynwyd fod y cofnodion y Cyfarfod Cyffredinol olaf, wedi eu cywiro, yn gofnod cywir.

A phan gafodd yr athro achlysur i longyfarch Hector ar ateb i ryw bwnc bach nid oedd terfynau i lawenydd y disgybl newydd, a phan ofynnodd un o'r merched yn y dosbarth i Hector, wedi'r wers, am help a chyfarwydd ar bwynt a barai anhawster iddi, teimlodd yntau, am y tro cyntaf, efallai, ias o'r pleser a ddaw o awdurdod o oleuni cywir ar y broblem.

Yn ail ddegau'r ganrif hon ymffrost ardal uchel Pentrellyncymer oedd fod ganddi gymaint â dwsin o feirdd a fedrai lunio englyn cywir yn gwbl ddifyfyr...

Ond nid oes dim o ddylanwad gwaith manwl, cywir ei fesuriadau bwrdd darlunio'r pensaer yn gadael ei argraff yn y gwaith sydd yn cael ei arddangos.

Yn sicr, fe ymddengys fod y bwci'n gwybod ei ffordd gan ei fod yn torri drwy'r goedwig yn hyderus iawn gan droi o'r naill lwybr i'r llall heb oedi eiliad i ystyried a yw e'n dilyn yr un cywir.

Roedd y disgrifiad a roddwyd ohono yn un cywir iawn, er mai disgrifiad plant oedd o.

Gwaetha'r modd, nid yw cymanfa ganu yn rhoi darlun cywir o fywyd crefyddol ein cenedl.

Os felly, yr oedd yn wahanol iawn yn hynny o beth i Mari Lewis, y cymeriad y dywedir ei fod wedi ei batrymu arni, fel yr oedd yn wahanol iawn i honno yn ei dewis o briod, oblegid priododd hi ŵr a oedd yn 'gymydog da, yn ddyn gonest ac yn Gristion cywir'.