Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

daclus

daclus

Synnwyr cyffredin yw llawer o'r sylwadau wrth gwrs ond y mae'n ddefnyddiol cael yr holl orchwylion ynglyn â threfnu digwyddiad o'r fath yn rhestr daclus.

Byddai'n ddigon hawdd llunio beriniadaeth weddol arwynebol ar y ffilm hon a'i gadael hi ar hynny: miwsig nostalgaidd Michael Storey; actio gafaelgar Iola Gregory a Dafydd Hywel; adeiledd carcus-dynn y ffilm a delweddau canolog y madarch a'r rhosod; y garreg fedd glyfar ar ddiwedd y ffilm ar ddelw sgrin sinema a'r geiriau THE END yn cloi'r llun yn daclus thematig...

Gwelais ef unwaith yn ~ynnu ceffyl haearn bob darn oddi wrth ei gilydd ac yn ei osod yn ~i ôl yn daclus a di-drafferth.

(Y miwsig yn ergydio drwy'r pared.) Mewn gwirionedd, y rheswm rw'i'n cadw'r lle'n daclus ydi am fod fy ffrind gore fi, Sara, hefyd yn hoffi pethe'n daclus.

Arhosodd yn daclus ger drws yr ysgol ac ohono daeth boneddiges yn ffwr o'i phen i'w thraed.

Beth bynnag oedd y broses ar lawr y felin, gan y dalwr yr oedd y gair olaf, oblegid ar y part olaf, wedi i'r rowlwr dynnu'r wythau i'r hyd gofynnol, gafaelai'r dalwr yn y llafn a'i daro ar lawr y cefn i ennill momentwm, a'i roi'n daclus mewn pentwr o'r neilltu.

O'r diwedd, yr oedd y car yn wag a'r bwthyn yn edrych fel petaent yn byw ynddo - yn wahanol iawn i'r olwg oer, rhy daclus a oedd arno pan gyraeddasant.

Yn y golau gwan gwelodd fod y lle-tân, a oedd yn daclus gyda phapur a choed yn barod i'w cynnau, yn llawn lludw.

Mewn maes mor fawr anodd yw dethol y prif ddatganiadau a dehongliadau, a mwy anodd wedyn yw dosbarthu yn daclus.

Yn y cyfarfodydd dysgais y morse code a'r semaphore, sut i wneud cylymau o bob math a thrafod cwch hwyliau, sut i godi pabell a chwythu biwgl a sut i blygu baner yr Union Jack, ei chodi i dop y polyn a'i hagor yn daclus.

Wrth imi gyrraedd trydydd llawr siop y fyddin yng nghanol y ddinas sylwais fod tua deg ar hugain o briefcases digon cyffredin yr olwg yn cael eu gosod yn daclus ar un o'r cownteri.

Neidiodd Ernest, gan ddisgyn yn daclus i'r man lle dylasai, ac yn y funud yr oedd ei gydymaith wedi gwneud yr un peth, a disgynnodd y ddau o'u cyfrwyau i helpu Harri, druan, a oedd wedi ei syfrdanu, ac yn gweld pob man yn troi o'i gwmpas.

Byddai clewtiau o hen ragiau di-siâp o'r domen yn ffitio'u lle i'r dim ac yn cloi i'w gilydd yn daclus a chadarn.

Gelwid y pentwr hwn yn wats (term morwrol yn golygu gwyliadwriaeth), pedair wats bob dydd ym mhob melin, a'r dalwr oedd yn gyfrifol am eu rhoi'n daclus yng nghefn y felin o fewn cyrraedd y bwndelwr a'r shêrwr.

Mae'r creigiau eu hunain yn debyg i'r creigiau a geir i'r gogledd o Ddyffryn Tywi i Gwm Tawe, heblaw eu bod yno yn gorwedd yn weddol daclus o ran oed, un ar ben y llall, o'r Hen Dywodfaen Goch yn y gorllewin i'r Cystradau Glo iau yn y dwyrain.

Tywysodd Lisa yr ymwelydd o gwmpas, gan symud o'r meinciau at y byrddau, o'r torwyr at y peirianwyr, o'r rhesi o esgidiau lliwgar ar eu hanner at y gwadnau yn disgwyl am sodlau, ac o'r diwedd at yr esgidiau gorffenedig yn cael eu gosod yn daclus mewn blychau gwynion.

Roedd y tir yn garedig, y terasau'n daclus ac roedd muriau cadarn yn gwarchod y trigolion.

Daw crybwyll y lasso a fi'n daclus iawn at un arall o gymeriadau cofiadwy fy mhlentyndod, Jim y Glo.

'Os ydi rhywun yn lân ac yn daclus,' aeth yn ei blaen, 'ac yn cario hances, BOB amser heb eithriad, han-ces...

Cawsant hwy ill tri fwrdd yn daclus yng nghornel y stafell arall am fod honno ychydig yn wacach.