Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dacw

dacw

Mwynheais hefyd y stori gyntaf yn y casgliad, Dacw alarch ar y llyn, lle'r oedd mam a merch mewn cyfyng-gyngor wrth benderfynu wynebu'r dyfodol.

Oes gen ti win?" "Oes, dacw fo.

"Dacw fo ylwch!" meddai rhyw gwbyn o hogyn.

dacw'r man, a dacw'r pren Yr hoeliwyd arno D'wysog nen, Yn wirion yn fy lle; Y ddraig a sigwyd gan yr Un, Can's clwyfwyd dau, congcwerodd Un, A Iesu oedd Efe.

"Oes gen ti fap a Phren mesur?" "Oes, dacw fo." Roedd map crand iawn gan Lludd yn hongian ar y pared.

'Rwan 'ta, Owain, beth am ganu "Dacw Mam yn Dwad" i Guto i basio'r amser nes inni gyrraedd y caffi?' Roedden nhw wedi canu 'Dacw Mam yn Dwad' dair gwaith a 'Mi welais Jac-y-Do' ddwywaith pan welodd Carol yr arwydd oedd yn datgan fod y gwasanaethau nesaf ymhen deunaw milltir.

Dacw hi'n nesg i.

Mae ailadrodd y gair "Dacw% yn diogelu'r pwyslais gwrthrychol ar yr hyn yw Crist ond y mae'n ei briodi'n gelfydd iawn â'r pwyslais ar ystyr y gwaith gwrthrychol i'n bywyd goddrychol ni,

"Dacw fo Enoc yn disgwyl amdano fo." "Mae o'n nerfa i gyd erbyn hyn, y creadur, 'roedd o ar biga drain drwy'r pnawn." "Oes arno'i ofn o?" "Na, nid hynny.

Rŵan, rhag i ni wastraffu dim amser - ydi'r bibell efydd yn barod!" "Ydi, dacw hi." "Reit, rho di dy glust wrth un pen ac fe siarada i y pen arall.

"Dacw gastell yn y fan acw," meddai Cadi.

"Dacw fe, draw fan acw!" Rwyt yn troi ac yn gweld yn agos i ddwsin o'r pentrefwyr yn rhuthro tuag atat.

Dacw nghariad ar y dyffryn Llygad hwch a dannedd mochyn A dau droed fel gwadn arad Fel tylluan y mae'n siarad.

Dacw'r nefoedd fawr ei hunan 'N awr yn diodde' angau loes, Dacw obaith yr holl ddaear Heddiw'n hongian ar y groes; Dacw noddfa pechaduriaid, Dacw'r Meddyg, dacw'r fan Caf fi wella'r holl archollion Dyfnion sy ar fy enaid gwan.