Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dadeni

dadeni

Y rheswm pennaf am hynny, y mae'n siŵr, yw cymhlethdod rhyfeddol y traddodiad testunol; at hynny ystyriai ysgolheigion Lladin, o gyfnod y Dadeni ymlaen, mai gweithiai clasurol a phatristig a haeddai eu sylw hwy, ac er bod i feirniadaeth destunol le blaenllaw ar raglen waith rhai o'r miniocaf eu meddwl ymhlith yr ysgolheigion hynny, bach iawn o le a roesant yn eu llafur i lenyddiath Ladin yr Oesoedd Canol.

Gyda'r Dadeni yr oedd yr unigolyn wedi ymysgwyd o'i ofn a'i ofergoelion ynghylch credoau absoliwt.

Yn ystod y Dadeni Dysg arferid mwy nag un ffordd o edrych ar hanes.

'Roedd Cymru yn Gymry frenhinol, ymerodrol o hyd, er gwaethaf dadeni Rhamantaidd a chenedlaethol diwedd y ganrif flaenorol a degawd cyntaf yr ugeinfed ganrif.

Yn ystod yr amser a dreuliodd yn Rhydychen y daeth gyntaf o dan ddylanwad y Dadeni Dysg, a dyma'r pryd y dysgodd Roeg a Hebraeg, ieithoedd a fyddai'n waelodol bwysig isso wrth geisio trosi'r Ysgrythurau.

Yn yr unfed ganrif ar bymtheg daeth y chwyldro diwylliannol yr ydym yn arfer cyfeirio ato fel y "Dadeni Dysg" i'w anterth.

Yr oedd yn fwy o ysgolhaig nag o offeiriad Cydnabyddir ef yn un o'r tri ysgolhaig pur a gynhyrchwyd gan y Dadeni Dysg yng Nghymru y cyfnod hwnnw.

Ef o'i fyfyrgell yn rheithordy Mallwyd, oedd ysgolhaig mwyaf cyfnod olaf y Dadeni Dysg yng Nghymru.

Mae'r diddordeb hwn mewn addysg yn beth a gododd o'r Dadeni Dysg.

Yn hynny o beth, meddir, mae rhamantiaeth yn fwy rhesymegol na chlasuraeth y Dadeni.' Mae'r pwyslais yma yn gogwyddo fwy i gyfeiriad rhamantiaeth nag a wnâi'r gyfrol ar Bantycelyn, ac yn wir fe dderbynnir fod egwyddor sylfaenol rhamantiaeth yn iawn, er bod angen symud ymlaen at ryw synthesis amgenach.

Yn sgîl y dadeni hwnnw daeth Dyneiddiaeth i fri.

Ynddi impiwyd brigau ysgolheigiaeth y Dadeni Dysg ar hen gyff llenyddiaeth Cymru, a ffrwythlonwyd iaith y beirdd gan awelon y Diwygiad.

Nid yw'r Dadeni Dysg na'r Chwyldro Protestanaidd ond digwyddiadau bach o'u cymharu ".

Y mae y gyfrol yn byrlymu o edmygedd o'r ysgolhaig y bu ei gyfraniad yn un mor wiw yn ystod cyfnod diweddar y dadeni Dysg.

Mewn geiriau eraill, nid rhywbeth a goleddid gan wŷr di-ddysg a chyfyng eu gorwelion ydoedd y myth Brythonaidd yng nghyfnod y Dadeni.

A chaniata/ u na wyddom nemor ddim am y cymorth a roes dylem gofio y disgrifir ef fel un o gynrychiolwyr pwysicaf y Dadeni Dysg yng Nghymru.

Dyna oedd cymwynas amhrisiadwy ysgolheigion y Dadeni, a fanteisiodd ar ddyfais y wasg argraffu.

O'm rhan fy hun, er credu ohonof ddyfod yr adeg i ramantiaeth hithau ddatblygu yn glasuraeth newydd, megis yr aeddfedodd dyneiddiaeth y Dadeni yn glasuraeth, eto ni welaf i y gellir ymwrthod ag egwyddor hanfodol rhamantiaeth.

Er enghraifft, yr oedd y dysgedigion, gwyr y Dadeni, yn falch odiaeth o'r Gymraeg fel un o'r ieithoedd clasurol; ond ar yr un pryd canmolai rhai ohonynt, megis William Salesbury, ymdrech Henry VIII i wneud y Saesneg yn iaith gyffredin rhwng y Cymry a'r Saeson.

Y peth hanfodol yn llenyddiaeth y Dadeni Dysg oedd troi ohoni oddi wrth fyd digyfnewid y pethau tragwyddol .

Iddo ef nid oedd holl ddysg y Dadeni, y toreth o opiniynau gwrthgyferbyniol, y llifeiriant o ddamcaniaethu athrawiaethol yn ddim ond rhwystrau ar ffordd dyn i gyfathrachu'n uniongyrchol â Duw.

Gwelir rhyw gymaint o ddylanwad Lladin a Groeg yng ngwaith rhai o awduron rhyddiaith y Dadeni Dysg: meddylier, er enghraifft, am ragymadrodd Gruffudd Robert i'w Ramadeg Cymraeg, lle y mae'r awdur yn amlwg yn efelychu dulliau Plato a Cicero o ysgrifennu deialog.

Erbyn y Dadeni, fodd bynnag, daeth newid.