Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

daear

daear

Gallai fod yn unrhyw un ar wyneb daear.

Ar ryw ystyr mae'r lluniau'n ein hatgoffa mai môr a mynydd a daear a grymoedd natur yw'r unig bethau cyson yn hyn o fyd.

Troesant eu golygon yn ôl i ddechreuad yr achos Astudiwyd y dogfennau a'r adroddiadau a galwyd ar fab Ioan Harries, Tregoch, ar draws y blynyddoedd ac ar draws pellteroedd daear i ddod yn ôl a sefyll, lle bu'i dad Ioan Harries yn sefyll ac adrodd yr hanes hwnnw.

Fe ddywedodd un o lenorion mawr Lloegr mai prin iawn fyddai'r beirdd ar ein daear onibai am farwolaeth.

maen nhw'n dweud bod yr eliffant yn un o'r creaduriaid mwyaf cymdeithasol ar wyneb daear.

Yn wir, gellid nabod pregethwyr yr amser hwnnw oddi wrth y 'bag bach', pe na bai dim arall i wahaniaethu rhyngddynt a gweddill meidrolion daear.

Doedd dim diben dweud na allai'r un joci ar wyneb daear ofalu bod pob ceffyl yn neidio'n berffaith bob tro ac yn enwedig hen gythraul croes a oedd wedi ei ddysgu'n wael.

Gwell oedd ganddo gydio mewn llyfr nag yng nghorn yr aradr; trin, diwyllio meddwl na thrin daear, a hau gwybodaeth na hau ceirch a gwenith.

I beth ar wyneb daear y mae angen codi liw nos?

Mae dyn 'fel twrch daear, yn byw .

Chwi gofiwch mai 'Teyrnasoedd Daear' oedd y testun a osodwyd, ac i 'Pererin' ysgrifennu ar thema hunan-laddiad - trwy hyn yn unig y gallai'r bardd, a'i gymehriaid, gyrraedd y tŵr lle profir distawrwydd a gorffwys.

Fel hyn dewiswyd Iesu yn gynta' i fod yn Ben, Ar bob peth oll a gre%id mewn daear, dwr, a nen; A thrwy awdurdod ddwyfol i'w gostwng iddo ei hun, Fel corff mawr maith amrywiol oll ynddo Ef ei Hun...

Os nad oes dŵr daear araf oherwydd nad oes modd i ddŵr dreiddio drwy'r graig gallai'r afon sychu mewn cyfnodau o sychder.

Er enghraifft, cloddiwyd trigain miliwn tunnell o lo o'i daear yn y flwyddyn cyn dechrau'r rhyfel byd cyntaf heb fod gan Gymru odid ddim i'w ddangos mewn canlyniad.

Mae'n anodd i ni yn y dyddiau hyn o deithio rhwydd ac aml i bellafoedd daear, lawn sylweddoli gwefr y trip.

Yna, roedd hi mewn byd gwahanol, byd tywyll yn llawn o goed tal a'u brigau'n gwau trwy'i gilydd, byd dirgel ci%aidd y carlwm a'r cadno, y ffwlbart a'r fronwen, byd y wiwer a'r draenog a'r twrch daear a'r holl anifeiliaid eraill na chofiai mo'u henwau.

Er mor agos at fy nghalon yw'r wlad - ac ni fynnwn er dim fyw yn unman arall - byddaf ar brydiau'n teimlo fy maich yn ysgafnhau wrth deithio tua'r dwyrain a chael rhodio daear gysurus Henffordd neu Amwythig.

'R oedd yn un o'r rhai "ymysg trueiniaid daear, sydd a'u trem/ Yn treiddio beunydd trwy barwydydd clai/ I wylio'r ser o hyd ar Fethlehem." Wrth ef a'i fath, deillion ydym oll.

Y misus, druan, ydoedd wedi myned i ffordd yr holl daear.

Nid masgot ein criw bach ni yw Iesu Grist ond yr un y mae a wnelo â holl genhedloedd daear.

Roedd Harry Hughes Williams yn baentiwr talentog a brwd o dir a daear Gogledd Cymru, ond mae ei ddiymhongarwch yn gur pen i'r hanesydd celfyddyd a fynn sôn amdano.

Ar ol yr ymdriniaeth hon o ofynion y toddiant sy'n addas i gynnal bywyd, cesglir mai dwr yw'r unig bosibilrwydd ac mai amgylcheddoedd tebyg i'r system garbon dwr y dylid eu hystyried, sef amgylcheddoedd tebyg i'n Daear ni.

Llif dŵr daear, sef dŵr yn symud drwy'r graig, yw'r ffordd arafaf i ddŵr symud - gall gymryd diwrnodau neu hyd yn oed wythnosau i gyrraedd yr afon.

Gwir bod ei daear hithau yn gyfarwydd â chael ei chreithio gan law dyn ond amcan y creithio hwnnw oedd hybu ffrwythlondeb.

Oherwydd eu bod allan ar wyneb daear ac yn ddiamddiffyn gofalodd Natur roi iddynt gynhesrwydd a golwg yn iawn am hynny.

Yno fe gâi rodio daear cenedl rydd, a honno'n genedl Geltaidd fel ei genedl ef ei hun.

Ond nid oeddent wedi cael dyfnder daear chwaith.

Dyma'r agoriad: Ni all terfysgoedd daear fyth gyffroi Distawrwydd nef...

Y mae'n iawn ymdrechu tra galler dros gynnal yr iaith Gymraeg yn iaith lafar ac yn iaith lên oblegid mai felly'n unig yn y darn daear hwn y gellir parchu'r ddynoliaeth a fagwyd arno ac y sydd eto'n ei arddel.