Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

daearyddol

daearyddol

Oherwydd eu safleoedd daearyddol gall teithio i'r gwledydd sy'n datblygu fod yn gostus, a gall byw ynddynt tra'n ffilmio a recordio'r deunydd fod yn rhyfeddol o gostus hefyd.

Darganfuwyd hefyd fod ystyriaethau gwleidyddol a diwylliannol, megis hen ffiniau gwleidyddol, yn cael eu hadlewyrchu yn llwybr yr isoglosau (y llinellau a osodir ar fap i nodi ffiniau ymestyniad daearyddol y ffurfiau dan sylw), a bod rhaniadau tafodieithol yn gallu adlewyrchu rhaniadau pell yn ôl.

Integreiddio Polisiau: I lwyddo i greu newid yn yr amgylchedd, mae angen fel arfer integreiddio gweithgareddau ar draws ffiniau strwythurol, proffesiynol a daearyddol.

Dyma paham y mae sefyllfa iaith a threftadaeth ein cenedl, er ei pherycled, ac er bod safle daearyddol Cymru mor anfanteisiol, gymaint yn gryfach na sefyllfa Iwerddon, yr Alban a Llydaw.

Berlin oedd canolbwynt y cynnwrf hwnnw yn yr Almaen, yn rhannol o ganlyniad i'w statws gwleidyddol a'i safle daearyddol rhwng dau brif bțer y dydd.

O safbwynt daearyddol nid oes lawer o ddewis rhyngddi a'r lleill.

Y nod yn fras fyddai gwneud dadansoddiad o anghenion menywod a phlant sy'n ymadael â llochesi ar sail o ran lleoliad daearyddol, nifer ac ansawdd y cartrefi fydd eu hangen.

Yr oedd disgrifiadau daearyddol yn rhan o batrwm cyfan hanes, ynghyd ag astudio enwau, hen olion, a hynafiaethau o bob math.

ac oherwydd anawsterau daearyddol ac eraill ni fedrwyd cael gymaint o gyfarfodydd ac a fyddai'n ddelfrydol.

Os canolbwyntiwn ar y wlad a ystyriai ef y bwysicaf o wledydd Ewrop, sef Ffrainc, gwelwn fod Ffrancoffiliaeth Saunders Lewis, lawn cymaint â'i Ewropeaeth, yn cyrmwys rhagfarnau daearyddol ac ideolegol.

Artistiaid o dueddfryd geidwadol yn unig a fawrygir gan Saunders Lewis, ac o'r herwydd crebachir ei weledigaeth Ewropeaidd gan ragfarnau ideolegol yn ogystal a chulni daearyddol.

Trefnwyd yr oriel barhaol ar ffurf cylch daearyddol, gan fynd â'r ymwelydd ar daith o gwmpas yr ynys o Ynys Llanddwyn a Malltraeth hyd at Foelfre a Biwmares, ac yna ar hyd Afon Menai.

Ychydig filltiroedd i'r gogledd-ddwyrain o Vilnius, medden nhw, y mae canol daearyddol Ewrop; er bod gorwelion y llygad yr un peth, mae gwybodaeth fel yna yn newid ffrâm y meddwl.

I raddau, maedosbarthiad daearyddol ein sampl yn adlewyrchu patrwm o ddosbarthu'r holiadur drwy'r papurau bro, ond hefyd mae'n adlewyrchiad o'r srdaloedd lle gwelir y dwysedd uchaf o ddarllenwyr..

Anghenion arbennig: Mae enghreifftiau o'r gwaith hwn yn cynnwys y Fforwm Cludiant, cludiant addysg, cludiant i grwpiau o fewn diffiniad daearyddol, sicrhau cyd-drefnu rhwng gwahanol ffurfiau ar deithio.