Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

daer

daer

Yng ngwaith Llwyd y mae'r mynegi ei hun yn rhyfedd: yr ymbilio hyf, y tawtolegu hir, y trosiadu a'r cyffelybu a'r personoli, yr aml ddefnydd o similiter cadens, repetitio, contrarium, expolitio, lamentatio, sermocinatio, - y mae'r oll mor syn, mor dynn, mor daer.

Dyblwyd a threblwyd yr emyn a daeth llanc ifanc ymlaen, un nad oedd erioed o'r blaen wedi gwneud dim yn gyhoeddus, a bwrw ati i ddiolch am farwolaeth y Groes ac i weddi%o'n daer am "awel o Galfaria fryn".

Gwelsom Mr Jones, Dolwar, yn croesi'r cae â phâl yn ei law, wedi bod yn chwilio am ddiferyn o ddŵr i'w ddiadell, ac yr oedd honno'n ei ddilyn gan frefu mor daer â'r hydd a glywsai'r Salmydd gynt yn brefu am yr afonydd dyfroedd.

Ymbiliais yn daer - a bygythiais beth hefyd - ond nid oedd dim yn tycio.

Yr oedd Gwen eisoes wedi yfed yn helaeth o ysbryd y Methodistiaid, ac anogodd ef yn daer i roi heibio'r meddwl am fynd ar ôl y cŵn, ond dadleuai Harri y buasai felly yn amharchu ei feistr tir a Mr Jones y Person, a hwythau wedi ei wahodd.

Ond 'roedd hi'n falch o gael siarad gyda mi, a gwelais fod ei llygaid yn crefu'n daer arnaf i'w helpu.

Fodd bynnag, mae'n hysbys ddigon i Lywydd y Blaid Genedlaethol ddadlau'n daer ac yn llwyddiannus yn erbyn aelodau ifainc a ddeisyfai weld y Blaid yn datgan cefnogaeth i'r Weriniaeth ac i'r Basgiaid, yn dilyn cyrch awyr y Natsiaid yn erbyn Gernica.

'Disgrifia'r guddfan imi, Jonathan,' meddai Mathew yn daer.

Yr oedd y frwydr hir yn dechrau troi o blaid y Cymry blaenllaw hynny a fu'n pwyso mor daer ar yr awdurdodau i gydnabod arwahanrwydd cenedlaethol y Cymry y tu fewn i gyfundrefn radio'r Deyrnas Unedig.

ei dawns daer a rewyd yn stond.

Un dydd wrth eistedd yn y car, gweddi%ais yn daer gan of yn i Dduw am fy helpu i wybod ai methu a wnaethai'r gweddi%au ar ran y gwr a fu farw.

Rwy'n ddieuog o'r cyhuddiadau ffug sydd yn fy erbyn, a galwaf yn daer ar i lwyth yr Ogoni, holl bobloedd glannau'r Niger, a'r holl leiafrifoedd a ormesir heddiw yn Nigeria i sefyll ac ymladd yn eofn ac yn heddychlon dros eu hawliau.

Yn yr ymchwil daer am eglurhad a fyddai'n gosod y troseddwyr ar wahân i weddill y boblogaeth, caiff eu hoedran ifanc ei bwysleisio'n aml iawn.

A faint o bobl sydd ar ôl sy'n gweddîo'n daer amdano?