Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

daethai

daethai

Trwy godi amheuaeth am ddyfodol yr ysgol, yr oedd y gweinyddwyr yn sicrhau fod llai o rieni'n danfon eu plant i'r ysgol, a daethai tranc yr ysgol felly'n broffwydoliaeth hunan-gyflawnol.

Am ganrif gyfan bu mil oedd o weithwyr dan yr hen drefn yn trethu eu nerth a cholli llawer o chwys, a daethai'r cyfnod hwnnw i ben.

Daethai'r Arglwydd Iesu i dderbyn fy Anwylyd a'i arwain i fywyd tragwyddol.

Gwrthod caniatâd i'r cynghorwr gobeithiol a wnaeth y Pwyllgor Gwaith; yr oedd y rhan fwyaf o'r aelodau'n pallu credu na ddeuai'r cynghorau i wybod mai oddi wrth y Blaid y daethai'r cynllun, ac felly tybient fod cystal i'r Blaid fynnu clod cyhoeddus am gyflwyno cynllun pwrpasol, er na ddeuai dim budd o'r cyflwyno.

Daethai'r wlad i wybod amdano hefyd, erbyn hyn, fel beirniad llenyddol ac yr oedd bellach ar ei ffordd i'w sefydlu ei hun fel llenor o bwys.

Daethai rhai ohonynt o waelod y plwy i drin tir y mynydd ac i fyw arno, ac aethant i'w cynefin i dreulio'u "hun hir."

Daethai eisoes o dan ddylanwadau protestannaidd.

Gan y byddai'n symud o bonc i bonc ynglyn â'i waith daethai pawb yn y chwarel i'w adnabod.

Byddent yn aml yn enwi'r eglwysi a godent ar ôl y saint y buont yn ddisgyblion iddynt Ar ôl y seintiau hyn y daeth yr enwocaf o'r seintiau Cymraeg, Dewi Cymaint oedd ei glod ef fel, erbyn dechrau'r ddeuddegfed ganrif, y daethai Tŷ Ddewi yn eglwys y cyrchai iddi bererinion o bob rhan o'r wlad, ac yr oedd dwy bererindod i Dŷ Ddewi yn cael eu cyfrif o'r un gwerth ag un i Rufain.

Ond roedd hi'n amlwg fod rhywun am ei rwystro - i ba bwrpas arall y daethai'r ddau ddyn ar ei ôl?

Daethai ef a'i modryb Alme i flasu unwaith eto swyn eu cynefin, cael cwmni Howel y brawd ieuengaf a'u tendio gan Hannah a merched eraill y Teulu.

'Roedd wedi bod yn gosod tatws yn Nhyddyn Talgoch drwy'r dydd ac wedi cael ychydig o datws hadyd i fynd adref efo hi.Daethai'n nos cyn iddi gychwyn am adreg i Growrach, ac'roedd hi'n niwl trwchus.Gan nad oedd wedi cyrraedd erbyn deg aed i chwilio amdani.

Daethai heb i'r un ohonynt glywed yr un smic.

Daethai i Sylhet yn ugain oed bedair blynedd ar ddeg ynghynt ac 'roedd wedi bod yn y gwaith yno yr holl amser ac eithrio cyfnod byr o ddeunaw mis, pan ddychwelodd i'w gartref yn Nadia.

Cred rhai mai'r mwyn plwm oedd wedi tynnu'r dieithriaid hyn i'r sir, ac y mae'n wir mai o ardaloedd mwyn Sbaen y daethai rhai o'r milwyr i Lanio.

Daethai o ganol nythaid o chwech o blant lle'r oedd pawb drosto'i hun a thros bawb arall yn un lobscows o egwyddor meddai hi.