Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dafad

dafad

Mae'r blew hefyd yn wahanol ac yn debycach i wlân dafad.

Mam hwnnw mewn côt croen dafad tu ôl i'r gwydr, yn syllu a rhythu wrth wylio'i bachgen bach gwyn hi'n nofio'n ofnus ar hyd a lled Pwll yr Ymerodraeth, a dau lamhidydd bach du'n nofio o'i amgylch ac ar 'i draws, er mwyn cadw golwg arno fe!

Dysgir yn y llyfr sut i drin pob anhwylder ar fuwch, dafad a cheffyl.

Yna dywed ei hanes yn mynd i'r farchnad gyda'r Capten i brynu bwyd a'r Capten yn bargeinio gyda'r cigydd faint i dalu am ben dafad a thalu deg ceiniog am hwnnw.

Beth bynnag, wn i ddim yn union ar ba gangen o'r goeden achau dwi'n sefyll ar hyn o bryd, os newch chi faddau i mi am gymysgu delweddau am eiliad; wn i ddim os ydw i yng nghorlan y defaid gwynion neu'r defaid duon ('da chi'n gweld, roedd hi'n anodd gosod dafad ar goeden, neu frigyn, neu mewn nyth, yn doedd?).

Rhaid oedd i'r pen dafad wneud iddynt am wythnos!

Caiff pob adyn chwarae teg yma, heb na dafad na buwch i'w bori a'i sathru a heb unrhyw chwistrelliad angheuol o chwynladdwyr.

Mae gallu ffermwr i gofio hanes anifeiliaid unigol, megis faint o wyn mae dafad wedi eu cael yn ystod hoes, yn glodfawr.

Safai Mathew yn ei ymyl ar y mat croen dafad a orchuddiai'r llawr caled wrth y gwely.

Ie, y cigydd, gan mai ef sydd yno yn torri corff dafad yn ddarnau hwylus i'w gwsmeriaid.