Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dagrau

dagrau

Byd yw hwn sy'n cymysgu dagrau un oes â gorfoledd oes arall.

fel yn y gorffennol boddodd ein tîm pêl- droed ger y lan ac yr oedd rhai o'r chwaraewyr yn eu dagrau ar y cae ar ôl i gymru golli o ddwy gôl i un yn erbyn rwmania ar y maes cenedlaethol.

Hawdd coelio hynny; hawdd hefyd darlunio'r darlithydd teimladwy wynepglawr yn eistedd o'u blaen a'i law fawr yn ceisio cuddio'r wep a oedd yn gymysg o wên a dagrau.

Yn ol un o ysgrifau Williams Parry, yr oedd WJ Gruffydd yn cael ei gyfrif yn 'ddi-Dduw.' Gwyddom hefyd fod bardd 'Ymadawiad Arthur' yn cyfeirio at fywyd yn ddiweddarach fel 'un ias ferr rhwng dwy nos faith.' Ac os clustfeiniwn ar eiriau bardd 'Yr Haf',cawn yng ngodidowgrwydd - yr awdl honno ei dagrau hefyd - sef dagrau pethau, yr ymwybod ag angau, ac a thymp a thempo amser.

Maen cynnwys dwy fersiwn o drac newydd sbon o'r enw Nosweithiau Llachar/ Dyddiau Di Galar, a dwy gân fydd yn gyfarwydd i wrandawyr cyson, Fy Nghelwydd Clai a Dim Dagrau, cafodd eu recordio au darlledu fel rhan o sesiwn Radio Cymru.

Fe gawsom ni ein magu i gredu fod dagrau'n arddangos gwendid ac i deimlo cywilydd o ymollwng yng ngþydd eraill.

Nodiodd Nain gan sychu'i thrwyn drachefn a'r dagrau'n cronni yn ei llygaid hi ac yn cychwyn rowlio i lawr ei bochau hi wedyn.

Gadael y traeth yn sydyn am fy mod yn dychmygu bod tonnau'r môr yn adleisio galargan i'r sawl sydd dan faich, ond hwyrach mai o Iwerddon y dôi'r dagrau, am fod y wlad anobeithiol honno mor agos i'r traeth yma.

Bu hefyd yn casglu rhai o ddagrau ei wraig þ 'ond dim ond pan oedd hi'n fodlon,' meddai, gan ychwanegu þ 'Awn i ddim yn agos ati fel arall, rhag ofn mai fi oedd yn gyfrifol am y dagrau.'

"Paid, cariad, 'thal dagrau ddim nawr.

Daeth adref ar ddiwedd y prynhawn a darganfod ei wraig yn ei dagrau - "Be sydd cariad?" meddai yn ddiniwed.

Dagrau chwerthin oeddan nhw, erbyn dallt, chwerthin am ben y byd y bydd o'n bwrw'i lid arno fo, chwerthin nes mae'r dagrau'n powlio yn meddwl am y tir yn mynd dan y don adeg y dilyw mawr ac adeg Cantre'r Gwaelod ac adeg Ker Is.

Wrth ddweud fy ffarwel roedd dagrau'r plant yn gwmwl o euogrwydd dros fy mhen.

Hysbysebodd yn y papur lleol am griwyr a thalu deg doler yr un i gant ohonyn nhw am wylio'r math o ffilm a elwir yn 'tear jerker' þ prociwr dagrau, os mynnwcy chi.

A'u dagrau hallt yn llyn.

Finna'r adeg honno'n ddigon gwirion i goelio dy lol di, Morys, ac yn ddigon diniwed i gredu fod dagrau'r hen Ifan 'na'n dwad o grombil ei fol.

Clywai, er gwaethaf yr eginyn o hunanhyder a oedd yn bygwth blaguro'n betrus ynddo, yr angen am rywun yn gefn iddo yn ei ddiflastod ac i herio'r dagrau o rwystredigaeth a lletchwithdod rhag mentro ymhellach na'i lygaid.

Ac fe brofodd y tu hwnt i amheuaeth nad ydi dagrau nionyddol yn ddagrau go iawn.

Wn i ddim...., na, hoffwn i ddim bod yn lle Marc ac Anita heno." Am ryw reswm, dechreuodd y dagrau lifo eto wrth iddi ddweud hynny.

Ar fy nghyfer, roedd twr o bobl ifainc a gwelwn ferch yn eu canol yn sychu dagrau.

'Wyren mynd,' meddai Guto, ymhen rhyw funud, a'r dagrau'n bygwth eto yn ei lais.

'Roeddan ni'n ffrindia' wyddost," dywedai drwy ei dagrau.

Dagrau pethau yw na fydd yr un Cymro yno i'w wynebu.

A dyna oedd dagrau pethau.

Dagrau o dristwch - ac o ddiolchgarwch.

Yna fe gododd brawd arall, ac fe lediodd emyn: 'Dewch hen a ieuanc, dewch/At lesu, mae'n llawn bryd./Rhyfedd amynedd Duw/ Ddisgwyliodd wrthym cyd.' Ac fe'i canwyd hi drosodd a throsodd a hynny gydag arddeliad mawr, a'r hen chwiorydd oedd yno yn canu dan siglo'u hunain, a'u dagrau'n rhedeg i lawr eu gruddiau.

Ac o'r diwedd, ffrydiodd y dagrau'n rhydd, heb i'r ferch wneud yr un ymdrech i'w rheoli na'u hesgusodi.

Gwnaeth glamp o ymdrech i ddod ati ei hun, sychodd ei dagrau gan obeithio nad oedd wedi sylwi, a throi'n ôl ato.

Roedd y cwbwl ar dâp - y dagrau, y gweiddi, menyw'n llewygu dan y gwres a'r emosiwn, wynebau oer a gynnau cadarn y milwyr Israelaidd, a baner y wladwriaeth Iddewig yn chwifio'n herfeiddiol ar dir y daeth yn amlwg imi nad oes ganddynt y bwriad lleia' o'i ddychwelyd i'w wir drigolion.

Aeth ambell aelod o'r gynulleidfa adref mewn dagrau, eraill mewnsyndod ond pawb yn teimlo iddynt elwa o weld perfformiad diddorol, grymus ac addysgiadol.

Yna gwelais fod y dyn yn y siaced law wedi dechrau crynu'n sydyn, roedd dagrau yn ei lygaid.

'Roedd yr hogiau yn y capel 'rŵan yn disgwyl ei weld meddyliodd, a heb rybudd o gwbl dechreuodd y dagrau lifo.

Yr oedd y dagrau yn llifo.

Ond yr hyn a ysgrifennodd y disgybl ifanc, William Williams, oedd, 'I but cakes.' 'Dagrau melys iawn' chwedl yr Williams arall hwnnw.

Mae'n bosib iawn, ond tyben nad ydi'r rheswm yn llawer symlach na hynny ac mai'r cyflyr cynnar sy'n gyfrifol þ yr hen syniad hwnnw na ddylai merched bach frathu a chicio a dyrnu ac na ddylai bechgyn bach ollwng dagrau?

Fel hyn y cymharodd Tom Parri Jones ddagrau'r llon a dagrau'r lleddf þ Dwy afon dirion deurudd þ i rai llon, Ond i'r lleddf a'r dwysbrudd Chwipiadau rhaffau ar rudd, Stori cwest ar y cystudd.

Daeth dagrau o boen i'w llygaid wrth iddi sythu a rhwbio'i phen.

Maen nhw, yr arbenigwyr, yn ceisio profi fod a wnelo dagrau, neu brinder dagrau, ag ambell salwch, yn arbennig briwiau stumog.

Llifai dagrau o'i lygaid wrth iddo sôn am ei natur radlon a hapus ac rwyf yn sicr i'r un lwmp ddod i wddf pob aelod o'r gynulleidfa wrth inni sylweddoli faint o feddwl oedd ganddo ohoni.

Mae dagrau yng nghanu hwn.

Dagrau!

dywedodd y rheolwr, terry yorath, bod dagrau yn yr ystafell newid hefyd.

Yn y drych, gwelodd ddau wyneb bach yn syllu ar i fyny a'r dagrau'n prysur sychu ar eu bochau.

Sychodd ei dagrau yn ei ffedog.

Cerddai'n araf, ei llygaid yn llawn dagrau wrth feddwl am yr holl galedi oedd wedi ei gyrru i'r fan hon a'r fath gyflwr.

Chwarddai nes yr oedd y dagrau yn rhedeg dros eu ruddiau a'i ochrau ar hollti gan chwerthin.

Sylwodd y Cyng Huws: "'Roedd darllen yr adroddiad hwnnwn'n dod a dagrau i lygaid rhywun.