Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dalaith

dalaith

Er nad erys cyfansoddiad o waith Gruffudd ei hun i un o noddwyr y dalaith, y mae'n amlwg iddo brofi o'i chroeso a'i haelioni dirfawr - dywed na fedrai neb yno roi nag.

Mae'r diwrnod yma yn wyl swyddogol yn y dalaith a'r arferiad yw mynd i un o'r capeli Cymraeg am de ac adloniant.

Ceir elfennau dylanwadol yn arbennig yn Lloegr a Ffrainc sy'n wrthwynebol i ddyrchafu'r dalaith ar draul y genedl-wladwriaeth.

Daeth Eritrea wedyn yn rhan o Ethiopia, o dan system ffederal, hyd nes i Haile Selassie ddod â'r dalaith o dan reolaeth y llywodraeth ganolog yn Addis.

Yn gynharach, gwrthododd Llys Goruchaf Florida gais gan dîm cyfreithiol Mr Bush i ddiddymu'r cyfri â llaw yn y dalaith.

phan welsant ar etholiad y `Rail-splitter o Illinois' [Abraham Lincoln], ys gwelid ef, fod tebygolrwydd y buasent hwy bellach yn colli llyw y peiriant o'u dwylo, gadawsant Washington mewn dicter a soriant - wedi moni: symudasant gyda'i gilydd i ganolbarth gwlad y cotwm; yna sefydlasant ym Montgomery, prifddinas y dalaith hon, a gosodasant i fyny lywodraeth fawr o'r eiddynt eu hunain, ac etholasant cotton planter o dalaith Mississippi yn ben arnynt - `yn engineer in chief' - i redeg y peiriant.

Ar yr adeg yma mae'n rhaid ein bod ar ein gwyliau yn y Wladfa, cyn teithio i dalaith Misiones oherwydd gwaith Dada.

Tref ramantus yw Sorrento, cartref y bardd Eidalaidd enwog, Torquato Tasso, yn llawn o hen dai nodweddiadol o'r dalaith - porth mawr gyda chyntedd y tu mewn, a muriau uchel gyda ffenestri yn y mannau mwyaf annisgwyl.

Yn y pedwardegau, sefydlwyd cymdeithas arall yn Albany, prifddinas y dalaith, rhyw saith milltir i'r dwyrain.

Nid dyma'r unig gywydd a ganwyd yn canmol y dalaith ei hun.

Cynhelid gorseddau gan ddilyn y defodau a arferid gan Iolo Morganwg yn ei orseddau cynnar ac, yn unol â'i gyfarwyddyd, yn enw Cadair neu Dalaith arbennig gan amlaf, ac o leiaf dri pherson lleol a oedd eisoes wedi'u hurddo'n Feirdd yn llywyddu'r gweithgareddau.

Mae tlodi wedi lladd pob hunan-barch ac urddas yn y dalaith hon.

Mae gan wleidyddion y dalaith gythryblus hon y ddawn ryfeddaf o brofi argyfyngau gwleidyddol o gwmpas gwyliau Cristnogol.

A chan fy mod yn ysgrifennu'r geiriau hyn pan yw'r tanciau'n rhuthro ar draws Croatia a bomiau'n disgyn ar gartrefi, ysbytyau ac eglwysi yn y dalaith honno, ni allaf lai na theimlo pa mor argyfyngus yw'r galw arnom yn Ewrob i gefnu ar ryfel a thrais fel cyfryngau i ddatrys ein problemau.

Yn y dalaith a oedd dan sylw Lingen roedd y broses o newydd ddosbarthu'r boblogaeth yn golygu ...

Wrth gwrs, mae'r ffaith bod cymdeithas Gymreig yma o gwbl yn destun rhyfeddod achos er bod gan ardaloedd fel Utica a Granville yn Nhalaith Efrog Newydd gysylltiadau Cymreig cryf nid oedd "gwladfa" Gymreig yn y brifddinas a carpet baggers oedd aelodau'r gymdeithas gyntaf - fel heddiw - pobl a ddaeth yma i weithio gyda GE neu gyda llywodraeth y dalaith.

Weithiau yn unig y cawn iddo arfer y gair 'Cyfoeth' am 'Dalaith', ond y gair a ddefnyddiai gan amlaf yn ei drafodaethau ar y drefn farddol oedd 'Cadair'.

Enwir Lewis Tomas, abad olaf Margam cyn y dadwaddoliad, mewn cywydd a ganodd Lewys morgannwg dros Lewis Gwyn o Drefesgob i ofyn gwartheg gan wŷr o'r dalaith, llawer ohonynt yn perthyn i deuluoedd blaenllaw.

Ni chymer ond cwmpas byr i grynhoi'r hyn sy'n hysbys am hanes barddoniaeth yn y ddwy dalaith hyn cyn cyfnod y to olaf o'r Gogynfeirdd ac oes Dafydd ap Gwilym.

Ceisiai honno ysgymuno'r Wyddeleg yn llwyr allan o fywyd cyhoeddus swyddogol y dalaith.

Mae Llys Goruchaf Florida yn ystyried a yw'r ail gyfri sy'n digwydd mewn sawl man yn y dalaith yn ddilys ai peidio.

Ac un o atyniadau twristiaid yn y dalaith honno ydoedd trên a deithiai i fyny bryn ar un ochr ac a ddisgynnai i lawr yr ochr arall.

o dalaith i dalaith

Myfi a gymerais fy hynt amser maith yn ôl i dalaith o'r enw Califfornia.

Ar yr un pryd yn y dalaith gyfan byddai mwyafrif y Protestaniaid yn llai nag yw ar hyn o bryd ond byddai Senedd Ulster yn sicrhau'r moddion i'r ddwyblaid gydweithio'n greadigol er y byddai mwyafrif o hyd gan y Protestaniaid.

Mae natur y canu hwn, a'r awgrym o ddefod y cyff cler yn un o neuaddau'r dalaith.