Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

daliai

daliai

Daliai un o'r bechgyn lantern fechan uwch ei ben ac yn ei golau melyn medrai pawb weld y ddau filwr yn sefyll i'w hwynebu.

'Wyddoch chi be, Sioned?' Daliai Lleucu ati.

Daliai Gwyn i dynnu rhagor o hen ragfarnau o'r het.

Daliai Jock a minnau i gadw llygad arni, a'i gweld yn dod i lawr, yn benderfynol ond ychydig yn arafach.

Ond daliai'r dreigiau i ymladd.

Ond daliai'r bêl i droi o gwmpas ei ben, fel pe bai yn ei annog i fynd yn ei flaen.

Daliai hithau ei phen yn uchel, a cheisio anwybyddu curiad cyflym ei chalon.

Daliai i'r creu ddigwydd drwy'r Gair.

Daliai ei hun yn dynn gan wasgu'i dyrnau nes bod ei hewinedd yn torri cledr ei dwylo.

Daliai i droi'n wallgof wrth i'r bachyn fynd i mewn i'w gnawd wedyn.

Ond daliai'r meddyg i ddweud, "Peidiwch â magu dim ffydd", felly yn y cefndir yr oedd yr ofn a'r pryder yn parhau.

Daliai Meic i wynebu Serosadam, y Tywysog Arian.

Daliai ef yr abadaeth rhwng c.

Daliai'r fam ymlaen i siarad am yr un rheswm ag y daliai Wiliam ei ben i lawr.

Daliai Lleucu i fytheirio.

Ond daliai'r gwirioneddau yn eu blas--neu yn eu diflastod~ Yn yr ysgrif gyntaf y ceir un o'r cyffelybiaeth mwyaf Tegladeilwng:

Daliai darlithoedd cyhoeddus yn boblogaidd a cheid cynulleidfaoedd mawrion i wrando ar bobl fel Bob Owen, Croesor, Llwyd o'r Bryn a Chynan yn mynd drwy eu pethau.

Daliai nad Penri oedd Marprelate ac mai 'ei gariad at Gymru wnaeth iddo gondemnio'r esgobion'.

Gwelent ef yn codi ei fraich dde ac yn rhoi ei law ym mhen uchaf y gilfach tra y daliai'r dorts yn ei law chwith.

Daliai i deimlo'r awel ar ei gwar wrth iddi gydgerdded gyda'r cannoedd eraill at yr eglwys i dincial gorfoleddus y clychau.

Daliai Meg ei hanadl mewn rhyfeddod at yr olygfa.

Yn wir, daliai ef fod Arthur o bosibl yn hen arwr cenhedlig i'r pobloedd Brythonig cyn iddynt fudo i Brydain, ac mai dyna paham y ceir ef wedi ei leoli ym mhob man lle y sefydlwyd cymdeithasau Brythonig yn ddiweddarach, - yn yr hen Ogledd, yng Nghymru, yng Nghernyw ac yn Llydaw.

Braidd yn gas, meddai yn dawel, ond daliai ymlaen.

Daliai'r bêl fach i arwain ei daith ond baglai o hyd yn ei frys.

Yng nghanol y tywyllwch daliai porter ei lamp i fyny a hithau'n taflu ei phelydrau allan yn gylch i niwl y bore.

Yn gyson â'r egwyddor hon, daliai Annibynwyr Llanfaches i ddefnyddio eglwys y plwyf.

Daliai'r cawr i sefyll yno gan ddal un llaw yn y llall fel blwch casgliad.

Daliai i gwyno'n enbyd.

Edrychai fel mynydd mawr, ei wallt fel brigau coed a'r un llygad yng nghanol ei dalcen fel olwyn cart; yn ei law daliai ordd anferth ac iddi flaen haearn, trwm.

Daliai'r diweddar John Arthur Price fod peth o'r ysbryd hwnnw yn yr achos cyfreithiol a ddug wardeiniaid Trefdraeth ym Môn yn 1773 yn erbyn penodi Sais uniaith yn berson y plwy.

Ni thrafferthai'r wraig ei wthio'n ôl i'w le; daliai goler ei chot ar gau yn dynn wrth ei gwddf â'i llaw dde a chariai fag siopa lledr coch yn ei llaw chwith.

Doedd Manon yn gwybod fawr am y busnes, ond daliai yn fwy gobeithiol na'i chymar: 'Dwi'n sicir y bydd 'na atab.

Rhan o'i ddyletswydd beunyddiol cyn iddo ymddeol oedd cerdded ar hyd trac y rheilffordd ar hyd y gangen a arweiniai o lein Aberystwyth i gyfeiriad Castellnewydd Emlyn pellter o ddeng milltir, i wneud yn siwr fod pob allwedd, os hynny yw'r term sy'n cyfieithu 'key', yn ei lle rhwng y cledrau ac ochr allanol y cwpanau dur a i daliai.

Ni allai gofio llawer am y gwasanaeth, ond daliai i gofio'r naws a phob manylyn am yr addurniadaau a osodwyd o gwmpas yr allor: yr holl gynnyrch wedi'i osod i ddangos llawnder a gogoniant.

Daliai'r Gnosticiaid i gwymp ddigwydd yn achos dyn, o ysbryd pur i feidroldeb materol.

Rhaid cofio fod y rhelyw o'r rhain yn blant yr oedd ef wedi eu magu er pan oeddynt yn fach; daliai i'w hanwylo a'u cusanu fel pe baent yn fach o hyd.

Daliai ddig yn erbyn y ceidwaid creulon am ei daro i lawr â'u clybiau.

Daliai hi i gael pyliau anniddig ynglŷn â'i ymddygiad pan ddarganfu lun ei wraig ac 'roedd sicrwydd di-lol Lleucu'n ei sicrhau hithau hefyd.

Daliai'r ferch i grio a dyma'r trên yn chwislo a chychwyn am Ddinbych o ganol y ffarwelio mawr.

(Os daliai'r bêl roedd hynny'n ffafriol iawn.) Y trydydd pwynt oedd y safle a chwaraeai ar y maes rygbi.