Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dallt

dallt

Dim ond dau oedd heb rywfaint o waed Cymreig - ond pob un yn dallt rywfaint o'r iaith.

Dallt?'

Dagrau chwerthin oeddan nhw, erbyn dallt, chwerthin am ben y byd y bydd o'n bwrw'i lid arno fo, chwerthin nes mae'r dagrau'n powlio yn meddwl am y tir yn mynd dan y don adeg y dilyw mawr ac adeg Cantre'r Gwaelod ac adeg Ker Is.

Ddeudist ti dy fod ti'n ei nabod hi, fod Mrs bach a chditha fel gwac a mew, yn dallt eich gilydd i'r dim, yn benna ffrindiau.

'Dwi'n methu dallt y lol a'r brolio 'sgin y merched 'ma am y washing machines a rhyw gybôl felly.

Mi fuasai Gruff ddiniwad yn troi yn i wely tasa fo'n sylweddoli hanner y petha rydw i'n gorfod eu darllen, i ddim ond dallt chwartar sgwrs yr hogan fach yna sy'n pwyso'r botyma ar wynab Mamon yn Kwiks.

"Dydi hynna ddim yn deg p'run bynnag, ychwanegodd, 'mae'r hen Watcyn a minna'n dallt ein gilydd yn bur dda.

'Mi 'dw i'n methu'ch dallt chi, Siôn Lias, yn gadael Capel Pen am yr eglwys,' meddai Madoc Jones, yr ysgolfeistr.

Dwi'n dallt pam nad ydach chi isio 'nghynnwys i yn eich tŷ, yndw'n iawn, ond pam cosbi Ifan druan a fynta heb wneud dim byd o'i le?

Ond ar lin ffrae ni cherddai ll'goden goch drostynt, oherwydd roedd Begw'n dallt bod gwyn ei byd yng nghwmni Rondol, ac fe wyddai derfyn ei therfyna.

Ond roedd Ifor yn dallt y gêm yn iawn.

A dallt y tlodi?" "Rwyt ti'n iawn, wrth gwrs.

Rwan, Ifan, a dim ond os wyt ti'n gaddo bod yn law da, tyd i mewn am hoe bach ond dwi ddim isio gweld chdi'n chwarae'n wirion, cofia, neu allan ar dy ben fyddi di, wyt ti'n dallt?

A thria dallt nad wyt yn ddim ond hanner dyn a hanner ffwl.