Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dallu

dallu

Heb rybydd o gwbl, daeth fflach o olau disglair nes bron â dallu'r tri ohonyn nhw, a theimlodd Geraint y bar haearn yn dod yn rhydd yn ei ddwylo.

Nid oedd yr oriau meithion a dreuliasant yn dilyn fflam y gobaith am well byd yn y byd hwn, wedi'u dallu i'r fath raddau na fedrent adnabod dyn da wrth ei weld.

Yn y llofft lle roeddynt hwy yn awr pwysodd Del ar y pared a rhoi ei llaw dros ei llygaid a chwyno fod yr holl wynder yn ei dallu.

"Mae o'n dod o gyfeiriad yr haul, a'n peilotiaid ni'n cael eu dallu wrth geisio chwilio amdano.

Pan fo un plaid mewn awdurdod am ddegawd a rhagor yn ddi-dor gall y gweision sifil mewn adran gymharol fychan lithro i rigol meddwl sy'n eu dallu rhag gweld rhinweddau'r gwrthddadleuon.

Roedd ei frest binc bron a'n dallu, a'i gorun du a rhyw sglein arbennig arno.

Y mae gormod o lyfrau, gormod o ddysgawdwyr, a'r ffynhonnau a'r goleuadau bellach yn gwneud dim ond chwyddo a dallu dyn.

Melltith y rhan fwyaf o eiriaduron yw y gellir wrth fynd trwyddyn nhw weld bylchau ac weithiau gall hynny ein dallu i'w rhinweddau.

Mae ganddo allu sy'n medru dallu'r gydwybod.