Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dalog

dalog

Bu pwyso mawr arnaf i'w gadael ym Mangor, ond parhâu ar fy siwrnai'n dalog a'r cyfrolau dan fy mraich a wneuthum.

Gall y Ddraig Goch wisgo'i chlocsie yn hy ac yn dalog - mae ei dawnsio gwerin ar y map - Map y Byd.

Roedd mor dalog obeithiol wrth wynebu'r dyfodol ac mor ddigyfrif o beryglon y presennol ag y gellid dymuno iddi fod.

Cerddodd yn dalog at y blaenaf o'r ceir.

Fe'i teimlai'i hun yn gymysgedd o Fadog a Cholumbus wrth gerdded y bwrdd yn dalog ar ei ben ei hun a gwau'i ffordd yn hunanymwybodol trwy rwydwaith y teithwyr eraill.

Ymhen ychydig agorwyd y drws a cherddodd dyn dieithr i mewn yn dalog.