Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dangosai

dangosai

Ar ddiwedd y flwyddyn, dangosai disgyblion yr arbrawf agweddau a oedd yn arwyddocaol fwy cadarnhaol tuag at ddysgu Ffrangeg na rhai'r grwp rheolaeth.

Iddi hi nid oedd gwahaniaeth rhwng pregethwr a phregethwr; yr oeddynt oll yn dda, a dangosai gymaint o barch i'r lleiaf ag i'r mwyaf.

Ond dangosai ei wyneb nad oedd hyn yn bodloni Silyn Lewis.

Dangosai fod lle i farddoniaeth meddwl a myfyr, a soniai am Wordsworth a Browning.

Dangosai, meddai'r gwrthwynebwyr, wir ysbryd y mudiad, sef ei hoffter o ddulliau cudd, cyfrinachol o weithredu, a'i duedd Jesuitaidd.

Dangosai'r cyfrifon fod y cwmniau'n medi elw dihafal ac yn talu llog di-ail i'w cyfranddalwyr.