Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dangosir

dangosir

Nos Sadwrn, Rhagfyr 23 ar S4C dangosir Nadolig y Paith. Rhaglen gan Teliesyn yn dangos sut y daeth aelodau gwahanol gorau gannoedd o filltiroedd oddi wrth ei gilydd yn y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia ynghyd i ganu offeren go arbennig.

Dangosir yr un diddordeb mewn darllen dwylo; somatomaneg (y gallu i ddarllen arwyddion ar y corff dynol); cardiau tarrot; a Deja vu (term Ffrengig yn golygu 'gwelwyd eisoes').

Dangosir y berthynas rhwng yr adranau ynghyd a'r berthynas efo'r Is-Bwyllgorau a'r Pwyllgor Rheoli dros y ddalen:

Yn ol yr Athro, 'Dangosir diffyg cysondeb prydyddol Elphin a gwendid ei ddychymyg yn y chwechawd uchod lle y mae'r gair "adennydd" yn y llinell olaf yr un mor amlwg yn dynodi, yn y cyd-destun, ddifodiant.' Awgrymwn i, serch hynny, fod y gair olaf 'hwy' yn bwysleisiol ac yn gyferbyniol, bod 'aden' ddifodol Cwsg ac Angau, a bod y newid o'r naill i'r llall yn eironig arwyddocaol.

Dangosir yma ddiffyg amynedd at y giamocs gwerinaidd a fyddai ac y sydd yn aml yn mynd dan yr enw 'drama' mewn festri%oedd a neuaddau bychain.

Dangosir yn y diagram dair enghraifft o alaethau, pob un yn cynnwys yr un faint o oleuni.

Dangosir cadernid cariad Enid nid yn gymaint yn ei geiriau wrth wrthod ymgais Iarll Limwris i ennill ei llaw ond yn fwy fyth yn ei ffydd yn Gereint a hithau wedi dioddef cymaint o gam ganddo, 'a dodi

Dangosir y data perthnasol yn y tabl isod.

Gan fod busnes yn weithgarwch sydd yn ymestyn dros gyfnod, mae cyfnewidiadau dros amser yn aml yn bwysicach na'r sefyllfa fel y dangosir hi yn y ffigurau ar ddyddiad arbennig.

Dangosir y gorchymyn allweddell wrth ochr y gorchymyn ar y ddewislen, felly er enghraifft gellir cadw (Save) yn syth o'r allweddell trwy deipio , ac S gyda'i gilydd.

Dangosir cyfres ddrama deledu newydd ar BBC Un yn yr haf, sydd wedi ei lleoli yng Nghaerdydd, y cyntaf mewn nifer o brojectau y mae disgwyl iddynt ddod o'r 40 project datblygu sydd ar y gweill.

Dangosir meistrolaeth y grwp wrth iddyn nhw asio yr holl arddulliau gwahanol sydd yn eu cerddoriaeth i greu campwaith sy'n gwbl unigryw.

Er enghraiffl, dangosir ar un dudalen lun o ffarmwr yn rhoddi ffisig i'w ych drwy ddefnyddio corn buwch i ddal y diod.