Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

danio

danio

Drwy weithio mewn partneriaeth ag amrediad o sefydliadau mae BBC Cymru yn uchelgeisiol yn ei gynlluniau i danio dychymyg y wlad a dod â dysgu i bob sector o'r gymuned drwy ei fenter dysgu gydol oes.

Maent yn ei agor hefo cyllell, ac yn ei ail danio, ac i fyny'r rhaff â hwy, cyn gynted ag y gallent, a dyrna glec a thwrw mawr gan y cerrig yn rhowlio i lawr wyneb y graig.

Yr oedd yn ofynnol i'r sawl oedd ar y graig fod yn o ystwyth i danio'r fuse a dringo i fyny i ddiogelwch, ac yn ddisymwth dyma'r ergydion yn dechrau mynd allan.

Yr oedd yn noson olau leuad glir o hyd ac felly, er iddo danio'r injan, nid aildaniodd oleuadau'r Land Rover, dim ond troi ei drwyn i lawr y rhiw.

Rhoddai ef y senglau i mewn, a gweithiai bartau'r senglau, y dyblau a'r pedwarau, a thynnu'r wythau allan yn olaf, heb sôn am danio'r ffwrnais ddwywaith bob twymad drwy gydol y twrn.

'Gwnaf, siwr, Mrs Williams', atebodd Elfed, gan danio'r injan fel arwydd ei bod hi'n bryd i'r sgwrs ddod i ben.

A dyna Robert Hughes Uwchlaw'r Ffynnon, a anturiodd ­ Lundain i borthmona, ond a ddaeth adref yn ddyn newydd, wedi'i danio gan yr Efengyl.

Dro arall, soniai am ddirgelwch annatod (hyd yma) disgyrchiant, neu'r llwch rhwng y galaethau sydd yn casglu ac yn troi'n 'nifylau tan', fel y galwodd hwy, yn ymgrynhoi yn ser, yn llosgi a chrebachu ac yna'n ail danio ac ymagor yn nifwl tan eilwaith.

Ar adegau eraill, does yna ddim amheuaeth fod y gwrthbleidiau wedi rhoi corcyn ym mlaen y baril wrth danio at weinidogion fel Peter Walker neu, am gyfnod, David Hunt.

Honnai hwnnw, meddai, fod y fwyell yr oedd y mab yn ei thrwsio ar y pryd wedi cyffwrdd rywsut â'r gwn a pheri i hwnnw danio.

Fe ddaeth y radd i'm rhan trwy gael gwahoddiad i weld seremoni wobrwyo yno, lle mae merched yn cael eu hyfforddi i wneud popeth o drafod kalashnikovs a hedfan awyrennau i danio taflegrau.

Rwsia yn llwyddo i danio'r dyn cyntaf, Yuri Gagarin, i'r gofod.

'Roedd e wedi ei danio a'i gynhyrfu gymaint gan yr hen ganu, a chan yr hyn oedd ganddo i'w ddweud, nes ei fod wedi anghofio'r cyfan am y glaw, a ninnau allan yn ei ganol!

O flaen y lleidr gwelodd Debbie ddrws car yn agor a chlywodd beiriant yn cael ei danio.

Cwmanai Rod yn ei ymyl ar stôl uchel yng nghefn y lab (eu cuddfan arferol!) yn cyfansoddi brawddegau brwnt yn ei lyfr Ffis a Cem gan wneud ei orau glas i danio diddordeb Guto mewn limrigau coch.

pan oedd o 'n agosau at bont trillwyn a newydd newid gêr i fynd yn araf drosti oherwydd ei chulni, petrusodd y peiriant unwaith neu ddwy ac yna gwrthododd danio o gwbl.

Mewn geiriau eraill, roedd y nod yn rhy bell a'r broses yn rhy anodd i danio dychymyg mwyafrif y disgyblion yn ein hysgolion uwchradd.

Ni fwriadai chwaith gael tân gwyllt i gyfarch ei chymdogion, pob un yn cael ei danio fel rhyw saliwt.

Sut arall oedd disgw'l i ddyn ei danio ben bora gefn Gaea?

Erbyn hyn, prin y ceir unrhyw adran o waith nad ydyw rywbryd neu'i gilydd wedi codi'r erfyn hwn, ac anelu o leiaf, beth bynnag am danio.

Cawsai ei danio gan ymweliad Sadhu Sundar Singh i gymryd y cam yma.

Cryfhaodd y gred wedi i nifer o filwyr gael eu saethu ar ôl i dri danio tair sigare/ t o'r un fatsen.