Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

danynt

danynt

Ac y mae'n fwy gwahanol fyth erbyn heddiw ynghanol yr anghenfilod o beiriannau diweddau yma sy'n medru symud yn eu nerth eu hunain a hyd yn oed heb olwynion o danynt, dim ond stribedi dur yn ymgreinio fel lindys trwy greigiau a mwd a mawn a chors.

Os byddai planhigfa o goed derw neu ffawydd neu gyfuniad o'r ddau ar dir y plas elem yno gyda phartner i ogrwn y deilbridd addas fyddai yn drwch danynt a'i storio mewn adeilad ar gyfer amser o angen.

Mae Ef yn fwy na'i roddion, mae Ef yn fwy na'i ras, Yn fwy na'i holl weithredoedd o fewn, ac o tu maes; Pob ffydd, a dawn, a phurdeb, mi lefa' am danynt hwy, Ond arno ei Hun yn wastad edrycha' i'n llawer mwy.

Ac roedd wedi gwneud hynny, gan adael ei ôl, nid yn unig ar y cerrig beddau yn y fynwent a oedd wedi gwyro i'r dde neu i'r aswy wrth i'r tir o danynt symud a setlo, ond hefyd ar waliau cedyrn y capel o briddfeini a ddaeth o dy'r ffan ar ben y gwaith, 'slawer dydd.

Yn sydyn o'u blaenau ac ymhell o danynt gwelent rimyn hir o dir wedi ei oleuo.