Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

darbwyllo

darbwyllo

Ceisiodd Ali ei orau i berswadio Mary i aros, gan fynd cyn belled â gwrthod i'r plant fynd gyda hi yn y gobaith y byddai hynny'n ei darbwyllo.

Er na ellir gorfodi neb sy'n medru'r Gymraeg i'w defnyddio, mae'n rhaid ceisio eu darbwyllo i deimlo perchnogaeth arni.

Eu tasg nhw oedd ein darbwyllo ni fod uwch-gynhadledd Genefa er enghraifft wedi bod yn un hanesyddol er mai dim ond mân gytundebau diwylliannol a gwyddonol a gafodd eu harwyddo gan y penaethiaid.

Ar yr un pryd, drwy ddarlledu lluniau o sachau bwyd a oedd yn amlwg wedi'u dwyn ac ar werth ar stondinau'r farchnad a thrwy adrodd straeon am famau'n `aberthu' eu babanod, doeddwn i ddim yn bwriadu darbwyllo'r Cymry i beidio â rhoi.

Er iddo eu rhybuddio, pallu gwrando a wnaethant, a gwelodd yntau y byddai eisiau gwyrth i'w darbwyllo i droi at Grist oddi wrth eu hen arferion.

Gallai Cela Trams redeg y lle, a thalu cyfran go dda o'r elw i'r Trysorlys: byddai hynny'n siŵr o ennill cefnogaeth y Canghellor a hawdd fyddai darbwyllo'r bobl y byddai N'Og mor gyfoethog o hyn ymlaen fel y gallai pawb wledda ar fwydydd llawer mwy blasus a maethlon na wynwyn.

Mae'n naturiol, wrth gwrs, i ambell set hynod aros yn y cof, ond mae'n llawer mwy na lleoliad cyfleus i ddweud llinellau o'i gwahanol rannau, ac i'n darbwyllo ninnau bod digwyddiadau'r ddrama'n 'go iawn'.

Rhaid darbwyllo'r rhieni glastwraidd fod argyfwng ar yr iaith Gymraeg ond anodd iawn ydyw eu perswadio heb sôn am law eu hargyhoeddi.

Ond roedd Edward Morgan wedi llwyddo i'w darbwyllo.