Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

darfod

darfod

Bydd traean o'th bobl yn marw o haint ac yn darfod o newyn o'th fewn; bydd traean yn syrthio trwy'r cleddyf o'th amgylch; a byddaf yn gwasgaru traean i'r pedwar gwynt ac yn eu dilyn â'r cleddyf.

Yma, mewn man gwag yn cynnwys fflagiau siâp hecsagon, taenwyd hen ryg Twrcaidd coch ar lawr ac ar y ryg roedd cadair olwyn, ac yn y gadair olwyn roedd gŵr oedrannus, yn amlwg yn darfod, yn ein gwylio ni'n dod gyda llygaid du y diffoddwyd yr holl dân ynddynt ers amser maith, ond a gynhwysai o hyd uniongyrchedd glo-ddu y llygaid yn y darlun a grogai uwchben y silff ben tân yn y cyntedd.

Wedi darfod y ddau dwll mae ei fêt sydd ar y top yn gollwng dau bisyn o haearn crwn iddo; mae yntau yn eu rhoi yn y tyllau, wedyn mae'r sawl sydd ar y top yn gollwng darn o bren iddo.

"Os ydi o eisiau bwyd, mae hi wedi darfod amdana i," meddai'n grynedig wrtho'i hun.

Rhieni yn eu tro yn darfod ac yn achosi diweithdra uchel iawn ei gyfartaledd.

Heddiw, nid oes reidrwydd ar neb i wlana ar ffriddoedd bro fy mebyd, ac y mae'r gorchwyl pleserus o dorri mawn yn darfod o'r tir.

Wedi darfod, paciwn y gêm i ffwrdd a dychwelaf y bwrdd crwn i'w le tan y tro nesaf.

Rhaid cofio fod gwrthrychau'r sgrîn fach, fel y "seren wib," yn digwydd ac yn darfod yn rhy gyflym i adael argraff barhaol.

Jyst cocpit-ffanbelt-y-ffrynt-lodar-wedi-darfod-a-gorfod-cael-heidro lics-newydd.' mwydrodd Ifor.

Wedi darfod tyllu, byddai'r tyllwr yn mynd â'i ebillion oedd wedi colli min erbyn hyn i'r efail i'w hogi, felly gwelwch fod angen gof yn y chwarel, a llawer yw'r helynt sydd wedi bod yn yr efail rhwng y gof a'r gweithwyr, fel y cawn sôn ymhellach ymlaen.

Os gadewir yr awr fawr yn rhy hwyr, bydd cyfnod yr 'hanner cyntaf' pan chwery'r sewin ar yr wyneb gan gymryd ambell bluen ar lein nofio (floating line) wedi darfod.

Yn ystod y dydd, fe ddaeth Owen George Jones at yr hen frawd Robert Evans, Glan y Môr, ac fe ddywedodd wrtho ei fod yn ei deimlo'i hun yn bechadur mawr, ac wedi darfod amdano ym mhob man; ni wyddai am un lle i droi ato ond at Dduw trwy weddi, ac ni allai weddio ei hun.

Yn anffodus, yr oedd y siarad wedi darfod erbyn hyn.

Yr oedd chwant cnoi yn ei ddannedd; y poer tan daflod ei enau yn wyn a phluog fel poer y gwcw; ei ben yn boen a'i gorff yn llesg ac yn llaith ac yn darfod o fodfedd i fodfedd.

Pan gaiff Cymru a'r Alban safle cenedlaethol cyflawn bydd y wladwriaeth Brydeinig yn darfod amdani.

Y chi a'ch sglyfath hwch ddeuda' i.' Fel roedd Ifan Paraffîn yn darfod blagardio rhoddodd y bus dagiad neu ddwy cyn stopio gyda jyrc.

Byddant hwy'n treulio ac yn darfod; byddi Di'n aros, yn teyrnasu o dragwyddoldeb i dragwyddoldeb.

"Gwaith dyn yn darfod, gwaith Duw yn parhau - ai dyna pam?" "Nage," atebodd Aled, yn fwy pendant ei lais, ond yr un mor ddryslyd ei edrychiad.

Mewn gair, nid mynd a darfod y mae unrhyw beth dwys yn ein hanes, a dwys yn sicr yw'r profiad lle bu.

Bywyd newydd i'r hen iaith Ar un adeg yr oedd ieuenctid Cymru yn cysylltu Cymraeg â phethau hen-ffasiwn oedd ar fin darfod.

A bod un ynnwyr yn diffygio a darfod mae tuedd i synnwyr arall gryfhau a miniogi.

Yn fwyaf sydyn, wele ni'n edrych yn ol arni, a'r holl sbloet wedi darfod eisoes.

Bydd y fath brinder o fara a dŵr fel y byddant yn brawychu o weld ei gilydd; byddant yn darfod oherwydd eu pechod.

Undod y mae trwch etholwyr Ceredigion am ei weld yn llacio ac yn darfod.