Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

darganfyddiadau

darganfyddiadau

Er enghraifft, gwnaed darganfyddiadau ym myd amaethyddiaeth sydd wedi ysgafnhau gwaith pawb.

Nid oedd dim yn y ddeddf hon i atal unrhyw un rhag symud gwrthrychau o longddrylliad hanesyddol neu achosi difrod difrifol cyn belled ag y byddai ef neu hi yn rhoi gwybod am y darganfyddiadau i'r Derbynnydd Llongddrylliadau lleol.

Darllenai lawer am y darganfyddiadau a'r damcaniaethau diweddaraf, yn arbennig ynghylch y gronynnau sylfaenol yng nghnewyllyn yr atom, am bethau fel cwarcod, newtrinod, positronau a'r holl lu rhyfeddol sydd, rai ohonynt, yn medru bod a pheidio a bod ac ail-fod i gyd ar yr un gwynt, fel petai.

Mewn arolwg diweddar a wnaed o'r pwnc cododd Martin a Flemming y cwestiwn 'A yw eu darganfyddiadau yn rhoi hawl gwirioneddol i archaeolegwyr tanfor eu galw eu hunain yn archaeolegwyr?' Er mwyn ateb y sialens hon yn effeithiol rhaid pwyso a mesur y dulliau a ddefnyddir heddiw mewn archaeoleg môr yn ôl y meini prawf a dderbynnir gan archaeolegwyr modern, a hefyd yn

Cafwyd darganfyddiadau a ddaeth â chysuron nid yn unig i wraig y tŷ, ond hefyd i fywyd yr amaethwr yn ogystal.

Does gan y gwyddonydd ddim rheolaeth ar y defnydd a wna unigolion eraill o'r darganfyddiadau a wnaeth.

Ychydig iawn o ddefnydd sydd wedi dod o'r darganfyddiadau hyn, ond yn ffodus mae gwledydd yn fodlon ariannu rhywbeth sy'n rhan o'n diwylliant.

Yn Lloegr yn y tridegau cafwyd gweithiau Arthur Eddington, Edmund Whittaker, James Jeans, Bertrand Russell ac eraill a lwyddodd i gryn fesur i gyflwyno darganfyddiadau ffisegol y dydd mewn iaith ddealladwy i ddarllenwyr difathemateg.

Lle bo angen, cewch gyfarwyddiadau ar sut i wneud yr offer - ac mae hyn yn hen draddodiad efo gwyddonwyr - nid yw darganfyddiadau gwyddonol bob amser yn dibynnu ar offer cymhleth a drudfawr.