Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

darlledu

darlledu

At bwrpas darlledu lle maen bosib dod â chydbwysedd i'r hyn â glywir fe fydd yn swnio'n hyfryd.

Maen cynnwys dwy fersiwn o drac newydd sbon o'r enw Nosweithiau Llachar/ Dyddiau Di Galar, a dwy gân fydd yn gyfarwydd i wrandawyr cyson, Fy Nghelwydd Clai a Dim Dagrau, cafodd eu recordio au darlledu fel rhan o sesiwn Radio Cymru.

Chwalwyd arddangosfa'r Awurdod Darlledu Annibynnol ar y maes.

Roedd yn teimlo bod y newidiadau o fewn y diwydiant darlledu yn golygu bod angen edrych o'r newydd ar y ffordd orau i warchod safonau.

Darlledu'r bwletin newyddion radio cyntaf.

Yng Nghyfarfod Cyffredinol 1995 pasiwyd dau gynnig pwysig yn ymwneud â darlledu yn Nghymru, sef un yn ymwneud â ddarlledu digidol a'r llall yn ymwneud â Radio Cymru.

Yn ei swydd newydd yn S4C bydd yn goruchwylio'r holl wasanaethau a ddarperir ar gyfer darlledu S4C ar analog a'r sianelau digidol daearol a lloeren sy'n cael eu darlledu drwy bencadlys S4C yn Llanisien, Caerdydd.

Am ei fod wrth ei fodd yn darlledu ac yn darlithio ar led nid ystyriodd y dreth arno'i hunan.

Ychydig iawn o amser fydd rhwng y ffilmio a darlledu'r gyfres.

Dangosodd yr aelodau fod gan y Cyngor swyddogaeth bwysig wrth ddatblygu polisi darlledu o fewn Cymru, ac mae hyn yn sicr o gael effaith arwyddocaol ar y berthynas a ddatblygir rhwng y Cyngor ac aelodau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dywedodd Catrin Brace, Pennaeth Digwyddiadau egni: "Mae'r rhychwant eang o raglenni mae S4C yn eu darlledu yn cynnig cyfle gwych i dynnu gwylwyr y sianel sydd â diddordebau penodol at deithiau a digwyddiadau arbennig yn gysylltiedig â'r rhaglenni.

Y BBC yn gwrthod darlledu'r rhaglen ddogfen Real Lives oherwydd ei bod yn cynnwys cyfweliad gyda Martin McGuinnes o Sinn Féin.

Bu protestio yng Nghymru a ffurfiwyd mudiad Cylch Dewi, y gr^wp protest cyntaf yn ymwneud â darlledu yng Nghymru.

Yn ymarferol, cyflawnir hyn drwy Gyngor Darlledu Cymru.

Y syniad o'r prism gwydr lle mae ein hadroddiadau ni o wledydd tramor yn mynd trwy ryw lens Gymreig cyn cael eu darlledu.

Pwysleisiais fod yn rhaid darlledu'r adroddiad nos Lun, a mynegais gydymdeimlad â'r swyddog am fod ganddo waith mor anodd.

Caiff dyletswyddau y Cyngor Darlledu eu rhestru yn Siartr y BBC. Yn fyr, maent yn cynnwys: sefydlu a monitror farn gyhoeddus am raglenni a gwasanaethau drwy ymchwil cynulleidfa; cynghorir BBC ar sut mae'r amcanion yn adlewyrchu buddiannau Cymru; cynorthwyor Gorfforaeth i lunio amcanion, eu monitro a helpur gwaith o ddosrannu cyllid ar gyfer rhaglenni a gwasanaethau o fewn cyllideb gyffredinol Cymru; cyflwyno barn i'r BBC os oes newid arwyddocaol yn sail adnoddur Gorfforaeth; gwneud yn siwr fod unrhyw sylwadau, cynigion a chwynion a wneir gan gynulleidfaoedd yng Nghymru yn cael eu trin yn addas; adolygu a mynegi barn am raglenni â gynhyrchir gan BBC Cymru fel rhan o'r Adolygiad Perfformiad Blynyddol; gwneud yn siwr fod anghenion talwyr y ffi drwydded yn cael eu diwallu yn gyffredinol; gwneud sylwadau ar y cyd-destun cystadleuol a gwleidyddol yng Nghymru i'r graddau y maen effeithio ar raglenni a gwasanaethau BBC Cymru.

Darlledu yn dod i Gymru ar ôl agor Gorsaf 5WA yng Nghaerdydd.

Cyhoeddwyd ugeiniau ohonynt yn y papurau newydd dros y blynyddoedd, ac mae lle i amau fod ambell stori ddi-sail wedi cael ei darlledu hefyd.

Yn y flwyddyn sy'n dod byddwn yn ceisio adeiladu gwrthwynebiad unedig i gynlluniau'r llywodraeth ym maes darlledu digidol trwy ymgyrchu a chynghreirio gyda mudiadau eraill ym maes darlledu yng Nghymru.

Bydd darlledu cyhoeddus yn parhau i chwarae ei ran wrth ddarparu gwasanaethau radio a theledu i bobl Cymru, wrth i'r sianeli digidol niferus ehangu'r dewis.

Caiff ei darlledu ym mis Hydref 2000, ar achlysur 600 mlwyddiant marwolaeth Chaucer.

Darma gyfnod yw hon, addasiad Eigra Lewis Roberts yn cael ei ffilmio gan gwmni Llifon i'w darlledu fis Chwefror nesaf.

Y mae'r grwp wedi bod yn tynnu sylw at ddiffygion cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer darlledu digidol yng Nghymru drwy lythyru â'r wasg.

Yn seremoni wobrwyo Roc a Phop Radio Cymru 2000, enillodd Geraint Jarman wobr unigryw am gyfraniad oes i'r byd cerddorol yng Nghymru, a nawr mae S4C ar fin darlledu rhaglen arbennig i nodi ei gyfraniad anhygoel.

Arwydd eu bod hwy'n ennill peth tir yw bod yr aelodau Seneddol Cymreig yn rhoi diwrnod i drafod y mater yn Nhy^'r Cyffredin a bod y Cyngor Darlledu Cymreig yn sefydlu pwyllgor i ystyried a ellid o gwbl drefnu awdurdod teledu Cymreig annibynnol.

Yn ogystal â'r darllediadau ar BBC2, Radio 3, Radio Cymru a Radio Wales bydd y sianel ddigidol BBC Knowledge yn darlledu pob un o'r rowndiau a bydd y safle www.bbc.co.uk/cardiffsinger yn darlledu'r rhaglenni yn fyw.

Prif feysydd gweithgaredd BBC Adnoddau, Cymru yn ystod y flwyddyn oedd etholiadaur Cynulliad Cenedlaethol, cyflwyno cyfleusterau darlledu yn Nhy Crughywel, agoriad Swyddogol y Cynulliad Cenedlaethol a dathliadaur mileniwm.

Mae'r Arolwg Perfformiad gydol y flwyddyn wedi dangos yn glir i'r Cyngor Darlledu bod gwneuthurwyr rhaglenni BBC Cymru, a'r rhai sy'n gyfrifol am strategaeth gyffredinol, wedi darparu cyfoeth o raglenni radio a theledu a fu'n berthnasol ac adloniadol i'r gynulleidfa sy'n gwrando ac yn gwylio.

Mi fydd y rhaglen yn cael ei darlledu nos Lun Chwefror 12 am 18:10 ac wedyn yn cael ei hail ddarlledu b'nawn Sadwrn am 12:30.

Yn ystod blynyddoedd y rhyfel pan oedd y BBC wedi symud i Fangor o Lundain a chungherddau yn cael eu darlledu o'r hen County Theatre, yno yr oedd organ fawr y BBC yn cael ei chwarae gan yr enwog Sandy McPherson.

Mae'r Cyngor wedi penodi pwyllgor i'w gynghori ar Addysg, gaiff ei adnabod fel Cyngor Darlledu Addysgol Cymru.

S4C Digidol yn darlledu bron i 80 awr o deledu digidol o Eisteddfod Genedlaethol Môn yr wythnos nesaf.

Mae BBC Cymru Adnoddau yn rhan o'r cwmni newydd ac yn darparu amrywiaeth llawn o wasanaethau cymorth darlledu i wneuthurwyr rhaglenni yng Nghymru.

Daeth darlledu i Gymru ym 1923 pan agorwyd gosraf 5WA yng Nghaerdydd.

Pan fydd y teledu yn darlledu o'r Daíl yn Iwerddon, mae hi'n gyfyng gyngor ar yr aelodau sydd am siarad Gwyddeleg.

"Deunydd" Copi o'r Gwaith wedi ei gynhyrchu ar naill ai brint taflunio positif neu ar gaset fideo o safon darlledu neu unrhyw fformat arall a gaiff ei bennu ym Mhennau'r Cytundeb hwn.

Yn ystod ei yrfa gydag HTV Cymru, cwmni darlledu annibynnol yng Nghymru, bu'n gynhyrchydd toreth o raglenni Cymraeg ar gyfer S4C yn ogystal â chynhyrchiadau Saesneg ar gyfer HTV.

Rhaid talu teyrnged i'r Cyngor Darlledu am y ffordd yr ymatebodd i sialens yr ymchwiliad i ddarlledu a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig.

Mae MasCanosa hefyd yn aelod o fyrddau Radio Marti a Telemarti, sef gwasanaethau radio a theledu sy'n darlledu i Guba o Florida, gan ddisgrifio bendithion dyfodol heb Fidel.

Dyma'r project darlledu allanol mwyaf uchelgeisiol i'w drefnu erioed, gyda phob rhaglen newyddion a materion cyfoes BBC Radio Wales yn cynhyrchu darllediadau arbennig o ddwy stiwdio symudol yng Nghanolfan Ddinesig Caerdydd.

BBC yn dechrau darlledu Monty Python's Flying Circus.

Roeddwn yn arbennig o falch o'r ffordd y chwaraeodd Cyngor Darlledu Cymru ei ran yn y trafodaethau ar y cyfleoedd newydd sydd yn awr ar gael i'r rhwydwaith ac i wasanaethau radio a theledu Cymru yn y ddwy iaith, a bydd yr aelodau'n monitro'r ffordd y portreadir perthnasedd materion newyddion amrywiol i gynulleidfaoedd mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Gyfunol yn agos iawn.

Yn ogystal â'i brofiad helaeth ym myd darlledu mae hefyd yn wr o amryfal ddiddordeb allanol.

Dyna pam y mae cael awdurdod teledu a darlledu annibynnol i Gymru yn fater byw neu farw i'r iaith.

Yn ystod ei gyfnod fel rheolwr y sefydliad bu newidiadau mawr i ddarlledu cyhoeddus yng Nghymru, a llwyddodd i sicrhau bod gwasanaethau radio a theledu ar flaen y gad o ran darlledu safonol i bobl yng Nghymru.

Rydym yn cynhyrchu deg awr o raglenni teledu bob wythnos, sy'n cael eu darlledu ar S4C.

Yr un parodrwydd i rodio llwybrau newydd a'i gwnaeth yn arloeswr dihafal ym maes dieithr darlledu yn nes ymlaen ar ei yrfa.

Dylai'r Cynulliad sicrhau ffyrdd o hybu datblygiadau penodol trwy'r iaith Gymraeg megis creu cyfleoedd i gael papur dyddiol Cymraeg, gwasanaeth darlledu teledu a radio cyflawn yn y Gymraeg ac adloniant ieuenctid yn y Gymraeg. 06.

Y BBC yn cychwyn darlledu teledu brecwast, ac ITV yn dilyn gyda TV-am.

Rhwydwaith Coleg Digidol Cymru - enghraifft wych o gydweithio rhwng sefydliadau ym meysydd addysg, technoleg a darlledu.

Fodd bynnag, mae'n achos pryder i'r Cyngor Darlledu bod cyrhaeddiad a chyfran gwrandawyr BBC Radio Wales wedi gostwng flwyddyn ar ôl blwyddyn.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod nwyddau' n cael eu hanfon cyn dyddiad darlledu'r cyfresi pethnasol.

Yng nghanol 1999 byddwn yn dechrau darlledu gwaith Cynulliad Cenedlaethol Cymru gydag ymrwymiad o barodrwydd ac adnoddau fydd yn creu'r bont fwyaf effeithiol rhwng y sefydliad newydd a'r cyhoedd yn gyffredinol.

Yn y cyfamser 'roedd darlledu sain yn cyrraedd y rhan fwyaf o gartrefi.

Yn achos Rhaglen neu Raglenni a wneir ar gyfer ysgolion neu addysg oedolion bydd talu'r Tal Gwaith a'r Tal Atodol yn rhoi'r hawl i'r Cynhyrchydd ganiatau darlledu'r Rhaglen ddwywaith cyhyd a bod yr ail ddarllediad o fewn pedair wythnos i'r cyntaf.

ITV yn dechrau darlledu mewn lliw.

Bwriad y Clwb yw hybu cydweithrediad ymhlith Cymry Cymraeg sy'n sgrifennu neu'n darlledu am chwaraeon; helpu i gyhoeddi llenyddiaeth am chwaraeon yn yr iaith Gymraeg ac anrhydeddu Cymry Cymraeg sydd ar frig eu camp.

Roedd darlledu'r ddarlith hon yn Chwefror 1962 yn her newydd i'r Cymry ond o ochr y darlithydd ei hun doedd dim ynddi a oedd yn newydd.

Yn anffodus does na ddim sylw yn cael ei roi yr wythnos hon gan ein bod ni'n darlledu yn y boreau rhwng 0820 a 0930 a peiriant syn gyfrifol am ddewis y caneuon.

Cyhoeddodd BBC Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru gytundeb darlledu newydd ar gyfer y mileniwm.

Y BBC yn darlledu ar y teledu am y tro cyntaf.

Darlledu'r rhaglen Gymraeg gyntaf ar y teledu.

Mae'r Cyngor Darlledu yn gwerthfawrogi gorchestion BBC Cymru o dan ei arweinyddiaeth ysbrydoledig yn fawr, ac yn dymuno pob llwyddiant i'r rheolwr newydd, Menna Richards, wrth i'r byd darlledu yng Nghymru baratoi i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd digidol, ac wrth wynebu'r broses o ehangu darlledu masnachol.

Bydd S4C yn darlledu uchafbwyntiau gêmau rygbi Cymru o Gwpan Rygbi'r Byd yn Gymraeg, ar ôocirc;l cytuno ar delerau darlledu gydag ITV Sport.

mae'r Cyngor Darlledu yn gwerthfawrogi gorchestion BBC Cymru o dan ei arweinyddiaeth ysbrydoledig yn fawr, ac yn dymuno pob llwyddiant i'r rheolwr newydd, Menna Richards, wrth i'r byd darlledu yng Nghymru baratoi i fanteisio i'r eithaf ar gyfleoedd digidol, ac wrth wynebur broses o ehangu darlledu masnachol.

Hyd y sylwais i, ni chafwyd unrhyw drafferthion oherwydd darlledu'r rhaglen yn fyw.

Roedd Parti Ponty, ym Mharc Ynysangharad, Pontypridd, ym mis Mehefin yn arwydd uchelgeisiol o hyn: dathliad diwrnod cyfan o'r iaith Gymraeg gyda miloedd o bobl yn ymweld â'r parc, a BBC Radio Cymru yn darlledu mwy na 14 awr o raglenni gan gynnwys grwpiau amlwg megis Eden a Gwacamoli.

Byddai hyn yn cynnwys ehangu'r ddarpariaeth Gymraeg yn y byd darlledu ac adloniant a chyhoeddi a hynny trwy gyfryngau'r iaith Gymraeg a Saesneg.

Ond 'doedd neb o ddifri yn meddwl fod llawer o ddyfodol i'r 'radio-olwg' neu'r 'radio-lygad', er i'r BBC ddechrau darlledu rhaglenni teledu yn rheolaidd ym 1936.

Caiff dyletswyddau y Cyngor Darlledu eu rhestru yn Siartr y BBC.

Gellir ei gweld ar sianel Setanta, sianel chwaraeon Celtaidd sy'n darlledu ym Mhrydain ac yn Ewrop.

Ran fynychaf, munudau hamddenol hyd yn oed yw'r rhai a dreulir o flaen y camerau o'u cymharu â berw'r ystafell newyddion ychydig funudau cyn amser darlledu.

Mae San Steffan yn cyflwyno deddfwriaeth gyson ar faterion pwysig fel cyfathrebu a darlledu i ymateb i her datblygiad.

Dai Smith, Pennaeth Darlledu Saesneg, BBC Cymru Ehangodd Going Continental driniaeth BBC Cymru o'r Uwch-gynhadledd Ewropeaidd yng Nghaerdydd i gynnwys safbwyntiau, personoliaethau a barnau gwahanol.

Yn lle torri darnau o'r tâp a'u gosod wrth ei gilydd yn y drefn derfynol - fel y byddai'n rhaid gwneud gyda ffilm sine neu dâp awdio ar gyfer darlledu radio - caiff pob dilyniant ei drosglwyddo o'r tâp gwreiddiol i'r tâp terfynol, gan ryddhau'r tâp gwreiddiol i'w ail-ddefnyddio.

Darlledu gweithgareddau'r T^y Cyffredin ar y radio am y tro cyntaf.

Yn y cyfryngau darlledu, fel ar bapurau newydd, fe dâl i'r golygyddion fod â pheth o'r elfen amheus neu anghrediniol honno sy'n nodweddu'r newyddiadurwr da.

Y BBC yn darlledu neges heddwch gyntaf yr Urdd i'r Byd.

Gwnaethpwyd ymdrech sylweddol i greu cyfleusterau penodol i gwrdd â dyletswyddau'r BBC o ran darlledu o'r Cynulliad Cenedlaethol newydd.

Erbyn iddo gynyddu digon, fe lifodd y rhwydweithiau darlledu mawr i'r wlad a phan ddangoswyd eu lluniau, am y cyntaf wrth gwrs, fe roddwyd proc reit egr i weinidogion tramor y byd.

Gan fod pob arwydd y bydd darlledu analog yn dod i ben cyn diwedd y degawd hwn, bydd angen i BBC Cymru lunio strategaeth glir a fydd yn sicrhau ei fod yn ennill ei blwyf ei hun, lle y gall barhau i gynnig gwasanaethau safonol i bobl Cymru.

Mae angen i'r BBC ddatblygu camau nesaf y broses o drosglwyddo BBC Radio Wales i FM ar fyrder, i'w wneud yn fwy cystadleuol, ac o ran radio digidol, gwna'r Cyngor bopeth posibl i gefnogi nod pendant BBC Darlledu o ddarparu BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru digidol ar yr un pryd â fersiynau digidol gwasanaethau rhwydwaith y BBC.

Y newidiadau ym mhatrwm darlledu Radio Cymru a ysgogodd yr ail gynnig yn y Cyfarfod Cyffredinol llynedd.

Cofiwch eich bod chi'n cael hanner awr ychwanegol o'r Gang bob nos erbyn hyn - o hyn allan byddwn yn darlledu rhwng 10 -12 bob nos o'r wythnos a rhwng 10.30 a 12.30 ar foreau Sadwrn.

Mae Cyngor Darlledu Cymru yn cynorthwyor Bwrdd Llywodraethwyr yn ei arolwg o waith y BBC drwy gynrychioli barn gwylwyr a gwrandawyr yng Nghymru.