Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

darllenai

darllenai

Darllenai lawer am y darganfyddiadau a'r damcaniaethau diweddaraf, yn arbennig ynghylch y gronynnau sylfaenol yng nghnewyllyn yr atom, am bethau fel cwarcod, newtrinod, positronau a'r holl lu rhyfeddol sydd, rai ohonynt, yn medru bod a pheidio a bod ac ail-fod i gyd ar yr un gwynt, fel petai.

Darllenai bennod o'r Beibl yn ei hystafell wely yn ddi-ffael bob nos, a chysgai'n dawel ar ôl hynny; ac nid wyf yn gwybod a ddarllenai hi ddim arall oddieithr ar y Saboth, pryd yr arferai gymryd y DRYSORFA i fyny, gan ei hagor yn rhywle ar ddamwain ac yn union deg dechreuai bendympio.

Ac felly, yng ngoleuni traddodiadau Cristionogol y canrifoedd y darllenai'r meddylwyr cyfoes - Karl Barth, Emil Brunner, Paul Tillich, Dietrich Bonhoeffer, Simone Weil, Ju%rgen Moltmann, Wolfhart Pannenberg, John Macquarrie, Helder Camara, Gustavo Gutierrez ac E. R. Norman.

Darllenai ef gywyddau Beirdd yr Uchelwyr, nid yn unig er mwyn darganfod safonau gramadeg, ond hefyd o bleser pur yng nglendid eu hiaith, yng nghynildeb eu cystrawennau, ym mherseinedd eu canganeddion.