Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

darlleniadau

darlleniadau

Cymerwyd rhan hefyd mewn darlleniadau a gweddiau gan y Parchedigion Geraint Edwards, Emlyn Richards, y Tad Michael hennessey a'r Major Rodney Dawson ar ran Byddin yr Iechydwriaeth.

Hyd yn oed ar ddiwedd ei oes, ac yntau erbyn hynny yn byw ym Mhenarth, ac yn briod a'i drydedd wraig, Mary Davies, merch un o'i aelodau yn King's Cross, Saesneg oedd iaith y defosiwn teuluol a doi'r darlleniadau fel arfer o gyfieithiad Moffatt.

Y diwrnod cyn yr wyl, bydd pob ysgol led-led y wlad yn cynnal cyngerdd i ddathlu; gan amlaf gyda pherfformiadau dramatig gwladgarol, darlleniadau arwyddocaol, canu ac adrodd darnau o farddoniaeth.

Trwy gyfrwng darlleniadau ac atgofion, bu Catrin Pari Huws ac Elizabeth Parry yn sôn am glychau.

Felly, er fy mod yn poeni am 'safon' iaith fel ein sylwebyddion, y tu fas i'r Cynulliad Cenedlaethol / Cyngor Sir / Cymdeithas Adeiladau / Cwmni Ffôns Symudol y mae lle Cymdeithas yr Iaith i brotestio o hyd; ac nid trwy gynnal darlleniadau cyhoeddus o Ramadeg y Gymraeg yn y gobaith y bydd rhywrai'n cael eu hadfer i ddefnyddio'r treigliad llaes yn ei holl ogoniant.

Os oeddwn wedi disgwyl rhywbeth hurt, fel miloedd o blant yn canu a dawnsio i gyfeiliant darlleniadau o'r Llyfr Gwyrdd sy'n cynnwys doethinebau Gadaffi, fe sylweddolais yn fuan mai ysgolion oedd y rhain i bregethu undod Arabaidd yn erbyn y gelyn Iddewig.