Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

daro

daro

Dere, mae'n well i ni fynd o 'ma, yn glou.' Ar y bws y noson honno y clywodd Ifan sut yr oedd Gary wedi poenydio'i ffrind hyd nes iddo daro'n ôl.

Dywedaf innau - os digwydd i'r pysgotwr daro ar y diwrnod y mae'r pysgod yn llwglyd - oer neu gynnes - yna mae diwrnod i'w gofio o'i flaen!

Daliais fy anadl rhag ofn iddi daro ym mhennau'r gath a'r gwrachod i droi Anti Meg yn gabaitshen.

Ac o achos hyn a rhesymau eraill, yr ydym mewn llawer lle wedi cadw'r ymadroddion Hebraeg, er y gallant daro braidd yn chwithig yng nghlustiau y rheini nad ydynt wedi ymarfer yn dda â hwy ac ymddigrifo hefyd yn ymadroddion persain yr Ysgrythurau Sanctaidd.

Cafodd o'i daro gan gar ar ffordd yr A458 ger Garej Drivers yn y dre.

darganfuwyd bod un o'r ffiniau tafodieithol pwysicaf yn cyd-daro â'r hen ffin rhwng llwythau Gâl a'r Etrwsgiaid.

Efallai ei fod wedi ei daro'n wael ac wedi ei gymryd i'r ysbyty, meddyliodd wrth gamu i mewn i'r ystafell.

Dringasom i fyny o'r heol sy'n arwain i Landysul yn ymyl pont y rheilffordd sy'n ei rhychwantu, gan daro'n lwcus ar un o gyn-weithwyr y rheilffordd, yn pladuro godre'r embancment.

Fe'i cysurodd ei hunan, rywsut, trwy geisio'i berswadio'i hun fod y pwnc wedi'i daro ar ysmotyn dall, ac nad oedd ar ei orau wedi cael diwrnod caled a thrafferthus yn y siop heb fawr o lwyddiant ar y gwerthu.

'Wel 'na ni te, Mr Pŵel - dyna daro'r fargen yn ddigon slic!

Cyn i'r milwr arall gael cyfle i gael ei draed dano mae yntau hefyd yn cael ei daro'n anymwybodol.

Hwn ydy'r diweddara mewn cyfres o drafferthion i daro'r atomfa.

Dywedodd ei wraig iddo gyrraedd adref wrth i'r cloc daro hanner nos.

Bu raid i Steve James adael y maes ar ôl sgorio 30 wedi i'r bêl daro ei benglîn.

Llosga draean ohono mewn tân yng nghanol y ddinas pan ddaw dyddiau'r gwarchae i ben; cymer draean a'i daro â'r cleddyf o amgylch y ddinas; gwasgara draean i'r gwynt, ac fe'i dilynaf â chleddyf.

Mae acw wydd, o oedran ansicr, wedi dwad acw o'r Fferam - Huw Huws wedi cael ei daro'n sydyn gan ffit o gariad brawdol, ac fel rhoddwr y wledd mae o'n un o'r gwahoddedigion.

Daw Mona a'r newydd yng nghanol yr olygfa heintus hon fod Eli wedi ei daro'n wael - ond addawa'r creadur wneud ei orau glas i ddal 'mlaen cyhyd ag y gall, er mwyn Tref!

Roedden nhw'n gwybod lle a sut i daro heb adael ôl gweladwy.

'Roedd Edward yn edrych yn union fel pe bai wedi ei daro gan un o glefydau marwol y dwyrain.

Goleua cledr ei law ac yn sydyn mae pelydr o olau'n dy daro ar ganol dy dalcdn.

Beth bynnag oedd y broses ar lawr y felin, gan y dalwr yr oedd y gair olaf, oblegid ar y part olaf, wedi i'r rowlwr dynnu'r wythau i'r hyd gofynnol, gafaelai'r dalwr yn y llafn a'i daro ar lawr y cefn i ennill momentwm, a'i roi'n daclus mewn pentwr o'r neilltu.

Cyn iddo gyrraedd at ei ail esgid dechreuodd y cloc daro hanner nos.

Roedd yn rhaid i mi ei dal hi neu adael iddi daro ei phen ar y llawr brithwaith.

Pan ofynnodd Francis i John pam y bu iddo dorri'r gwn dywedodd fod arno ofn i'w dad ei saethu, ond iddo gael ar ddeall wedyn, gan Mary Jane Williams, mai bwriad ei dad oedd ei daro â baril y gwn yn hytrach na'i saethu.

Er ei bod yn un gref, nid yw'r gwaith cymysgu yn cweit wedi daro deuddeg.

Credir mai dim ond nifer cyfyngedig o weithiau y gall unrhyw fat daro'r bêl.

Llwyddodd Gwlad Pwyl i daro'n ôl a dod yn gyfartal gyda pheniad gan Glowacki.

Lluchid y platiau gwynias rhwng y gweithiwr ffwrnais, y rowlwr a'r dwblwr, ac ni allai neb aros ar ganol y felin heb gael ei daro tra gweithredid y broses hon.

Oni ddylai daro mwy a mwy ohonom fel ffieiddbeth fod pobl a'u henwau'n Forgan a Megan sy'n byw mewn tai a elwir yn Nant y Grisial neu'r Gelli yn siarad Saesneg ac yn cael eu cyflyru i feddwl fel Saeson?

Cyfuniad yw o ddeialog naturiol, ymson a llafarganu, sydd yn galluogi'r awdur i dynnu sylw yn barhaus at y ffordd y mae agweddau gwahanol ar fywyd ei gymeriad yn cyd-wau a chyd-daro.

Mawr oedd y syndod a'r llawenydd a'r siarad trwy'r gymdogaeth ar yr achlysur; ond yr oedd Robin y Glep, druan, fel wedi ei daro â dychryn a mudandod; yr oedd ei holl ddaroganau wedi profi'n gelwyddog.

Bargen gafodd ei daro rhwng coeden a chreadur oesoedd yn ôl yw hon, ond brwydr yn hytrach na bargen sydd i'w weld o sbecian y tu ôl i'r llenni.

Parhaodd ei feddwl a'i gof yn iraidd hyd y diwedd, a daliodd i daro'i deipiadur bach â'i fysedd diwyd, gan lunio ambell englyn a chân, neu bwt o lythyr cynnes i'w ffrindiau.

Gall Gilles Grimandi gael ei wahardd am gyfnod hir petai UEFA yn ei gael yn euog o daro Diego Simeone yn ystod gêm Arsenal yn erbyn Lazio neithiwr.

Mae'r saeth cyntaf yn dy daro.

Yr unig opsiwn, felly, ydi rhoi'r CD yn y peiriant, eistedd yn ôl a deud dim... wel, hyd nes bydd y nodyn olaf wedi ei daro beth bynnag.

Bu Arsenal ar y blaen ddwywaith yn eu gêm yn erbyn Bayern Munich yn Highbury cyn i'r tîm o'r Bundesliga daro'n ôl a chipio pwynt gwerthfawr oddi cartre.

Bu'r un mor barod i daro cleddyf â gweinidogion Ymneilltuol, a chyd- weinidogion o fewn ei fudiad ei hun.

Bydd gweld gwraig â llygaid croes yn y dorf cyn dechrau'r gêm yn anlwcus iawn ac ni fydd y chwaraewr hwnnw yn llwyddo i daro'r bêl unwaith y diwrnod hwnnw!

'Roedd y Stiwt yn ganolfan lle y gallai ffrindiau daro i mewn am sgwrs, gem o ddraffts neu wyddbwyll; 'roedd yn rhoi cyfle i greu diddordebau ac yn lle i feithrin talent ar fwrdd draffts, gwyddbwyll a biliards.

Penderfynodd Ioan Bebb ddatgan ei farn ar ôl i Chris Stephens ei daro.

"Mae wastad yn rhyw fath o 'daro bargen' rhwng diogelwch a chyflwyno gwasanaeth.

Ceisiodd Cei Hir daro bargen ag Esyllt, gan gynnig gadael i Drystan fynd yn rhydd os câi yntau Olwg Hafddydd, yr oedd wedi ymserchu ynddi.

Yn aml roedd ffermwyr yn defnyddio ffon o'r fath a chredid na fyddai yr un anifail fymryn gwaeth o gael ei daro ganddi.

Rwy'n deall yn iawn pam y mae rhai pobl yn teimlo'n flin oherwydd i Chris Stephens ddychwelyd mor sydyn i'r cae rygbi wedi iddo daro a brifo Ioan Bebb mewn gêm rhwng Penybont-ar-Ogwr a Cross Keys.

Rywbryd yn ystod y Saboth digwyddodd daro ar y ffordd fawr â Mr Jones y Person, a ddywedodd wrtho: `Cofia di, Harri, ddod hefo ni fory i godi llwynog, a gobeithio'r nefoedd y cawn ni ddiwrnod braf.' `Trystiwch chi fi y byddaf yno,' ebe Harri.

Nid oedd ar boen bywyd i'w godi a'i ddwyn i'r ty rhag ofn i fellt ei daro.

Lloegr a sgoAodd gynta drwy Paul Manner ac wedyn llwyddodd eu chwaraewr canol cae dawnus Glen Hoddle, i daro'r postyn ddwy waith, a'r bar.

Rwy'n siŵr y medrwn ni ei weld o'n sefyll.' 'Wrth gwrs,' meddai Gareth gan daro ei ddwrn yng nghledr ei law.

Dechreuodd y corachod daro'u traed yn erbyn y ddaear wrth weld eu gwobr yn diflannu o flaen eu llygaid ond gan alw ar y lleill ac ysbarduno'i ferlyn, arweiniodd Caradog y ffordd heibio iddyn nhw.

Achwynodd arnaf, a rhoddodd fi yng ngharchar i gael fy mhrofi am ei daro.

Daliai ddig yn erbyn y ceidwaid creulon am ei daro i lawr â'u clybiau.

Rhaid i'r goeden daro yn ôl yn erbyn y llygod a'u castiau drwg.

Ar ôl i gloc yr eglwys daro, cerddodd ar ei union i Bant Glas a churodd ar y drws.

'Wedi ei daro gan gar?' gofynnodd Robat John.

Gwawriodd y gwir ar Willie; tyrchodd i boced ei drowsus a dod o hyd i chwechyn a'i daro ar gledr ei law.

Wrth i'r bêl euraid fu'n arwain Caradog daro yn ei herbyn yn ysgafn tasgodd gwreichion ohoni.

Suddodd un ddraig ei dannedd yng ngwddf y llall ond llwyddodd honno i daro'n ôl â'i chynffon.

I Yousouf Youhana (104) ac Inzaman-ul-Haq (123) yr oedd y diolch am y modd y llwyddodd Pakistan i daro'n ôl.

Ystafell fechan, bur dlawd ac anhrefnus yr olwg, oedd hi, â silffoedd llyfrau wrth un mur, ac yn y gongl ddesg uchel, lydan i daro papur newydd arni, ac yn y canol fwrdd a rhai cadeiriau wrtho.

Digwyddodd daro ar Ali y bore hwnnw ym marchnad Casnewydd pan ofynnodd Ali iddo hebrwng y cig i Heol Grafton a'i adael yn y gegin.

Mae'r misoedd Ionawr, Chwefror a dechrau Mawrth yn cyd-daro â gwyliau'r haf.

Pe byddai wedi cyffwrdd ƒ'r bechgyn byddai'n barod i neidio arno a'i daro i'r llawr, ac roedd Williams yn gwybod digon am anifeiliaid i sylweddoli hynny.

'Ia iawn,' meddai hithau gan daro cusan fach ar ei foch.

Dyma'r diweddara mewn cyfres o drafferthion i daro'r lle.

Pan ddengys lilith ichi mor hyfryd yw'r olygfa o ffenestr y llofft ac fel y mae'r domen dail yn rhoi cydbwysedd artistig iddi, peidiwch â'i alw'n rhagrithiwr melltigedig na'i daro dan glicied ei ên.

Mae'r pinnau gwallt yma yn bwysig i'r chwaraewr gan fod pob pin yn arwydd o lwyddiant wrth daro'r bêl, y bydd yn bêl dda ac yn galluogi'r chwaraewr i sgorio'n dda.