Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

darpar

darpar

Mae ganddi tua 35 o gryno ddisgiau ar y farchnad gan gynnwys CD dwbl o Symffonïau 5, 6 a 10 Shostakovich, dan arweiniad ei Chyfarwyddwr Cerddorol, Mark Wigglesworth, a Symffonïau 5 ac 8 Rubbra, dan arweiniad y Darpar Brif Arweinydd, Richard Hickox.

Yn ddiweddarach, denodd Labour of Love, oedd yn dilyn bydwragedd a darpar famau, gynulleidfaoedd anferth, a daeth ail gyfres A Welsh Herbal, a gyflwynwyd gan David Bellamy ar gyfer Element, â llu o ymholiadau am daflenni ffeithiau a gwybodaeth bellach.

Yn sicr, bu lansio'r sianel newydd yn gyfrifol am ddenu diddordeb darpar gyflwynwyr, a derbyniwyd dros 1,000 o geisiadau.

Aeth yno i Salonica ym Macedonia gyda'r uned Gymreig arbennig o'r 'Royal Army Medical Corps (RAMC).' Corfflu Meddygol oedd hwn 'ar gyfer gweinidogion a darpar-weinidogion, myfyrwyr diwinyddol ac eraill o dueddiadau heddychlon a ddymunai wasanaethu yn y Rhyfel Mawr heb orfod trafod arfau.' Ond, a dyfynnu unwaith eto o'r cofiant: 'Hyd yn oed cyn iddo gyrraedd pen y daith, yr oedd Dei Ellis yn dyheu am ddychwelyd i Gymru.

Y cam cyntaf i bob darpar feddyg yw dod i adnabod y corff dynol, a'r ffordd uniongyrchol ac effeithiol o wneud hynny yw drwy wneud hynny'n llythrennol.

Braidd yn anarferol ar achlysuron fel hyn, trefnwyd oedfa fore ar y dydd Mercher gyda D. J. Roberts (Aberteifi ar ôl hynny) yn cymryd y rhannau arweiniol ac Irfon Gwyn Jones, brawd y darpar-weinidog, yn traddodi'r Siars i'r Eglwys.

Gwir na chafodd darpar brotestwyr fawr o gyfle i ddweud dim.

Os yw am ddewis y ffordd hon i gael gafael ar fferm, peth doeth ar ran y darpar-ffermwr fydd trefnu i gael ei eni'n Sais neu'n Bwyliad, os yng Nghymru y dymuna gael ei fferm.

Ar hyn o bryd mae pecyn adnoddau yn cael ei baratoi a fydd yn gymorth i ganghennau a darpar ganghennau a chafwyd nawdd gan nifer o awdurdodau lleol ar gyfer cyhoeddi'r pecyn.

schon bist du ein Verfassungsfeind, sy'n gymysgedd o'r gwir a'r dychmygol, yn delio â'r effaith y mae'r amheuon hyn yn eu cael ar y darpar athro, Kleff.

Wedi clywed negeseuon o gefnogaeth cafwyd gorymdaith o ganol y dref at y mast ffôn lle cafwyd anerchiad gan Hywel Williams, darpar-ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yn Arfon.

Yn Cardiff Singer Masterclass: An American in Cardiff rhoddwyd cyngor gwerthfawr i bump o'r darpar sêr opera gan Joan Sutherland, Carlo Bergonzi, a Sherril Milnes, tri o gantorion goraur byd a oedd hefyd yn feirniaid yn y gystadleuaeth.

Ond ymrôdd hefyd i wella safon addysgol clerigwyr ei esgobaeth, a rhan o'r ymroi hwnnw oedd ei ymgyrch i sefydlu coleg i hyfforddi darpar offeiriaid yn Llanbedr Pont Steffan.

Daw Eli ato a'r newydd fod y darpar brynwyr ar fin ymweld a'r sinema a daw Mona draw i'r helpu i lanhau'r hen adeilad yn y gobaith y bydd gwaith ar gael iddi.

Darpar Ddirprwy Gyfarwyddwr TAC: - -

Er mwyn cyrchu at ein nodau gorgyffwrdd yn y modd mwyaf effeithiol posib, ymroddwn i weithio'n egniol tuag at greu rhwydwaith effeithiol o ddarparwyr, er lles y defnyddwyr a darpar-ddefnyddwyn.

Fel darpar ymgeisydd y Blaid ym Meirion byddwn i yn mynychu'r Pwyllgor pan allwn.

Anatomeg, fel y nodwyd eisoes, y gelwir y maes sy'n astudiaeth o ffurfiad y corff, ond Ffisioleg y gelwir y maes ynglŷn â sut mae'r corff yn gweithio ac fel sail addysgol i bob darpar feddyg mae'n ofynnol iddo ddod i adnabod gwedd a gweithgaredd y corff dynol yn llwyr.