Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

darpariaeth

darpariaeth

Mewn addysg, roedd lle i nodi gwelliannau, ond roedd y ddarpariaeth ysgolion o hyd yn ddiffygiol iawn yn yr ardal, er gwaethaf ymdrechion rhai o'r meistri haearn, a gwell darpariaeth o addoldai.

Mae darpariaeth Anghenion Arbennig cymdeithasau tai wedi newid yn fawr iawn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gyda dyfodiad darpariaethau a chanllawiau dylunio newydd Tai Cymru, a newidiadau i'r system gyllido.

(c) Ceisiadau a gweithrediadau amrywiol a ddirprwywyd i'r Prif Swyddog Cynllunio CYFLWYNWYD er gwybodaeth adroddiad y Prif Swyddog Cynllunio iddo:- (i) Ganiatau'r ceisiadau canlynol dan yr amodau a nodir ar eu cyfer yn y Gofrestr Ceisiadau:- Cais llawn - adeiladu modurdy/ gweithdy preifat Cais llawn - estyniad ochr unllawr to brig i dŷ Cais llawn - estyniad cefn deulawr to brig i dŷ Cais llawn - estyniad unllawr i fwthyn a lleoli tanc nwy Cais llawn (diwygiedig) - estyniad unllawr i dŷ yn cynnwys modurdy Cais llawn - estyniad cefn unllawr i ffermdy Cais llawn - estyniad llawr cyntaf i dŷ i greu darpariaeth ar gyfer person anabl a modurdy newydd.

A yw'r disgybl yn cael chwarae rhan gyflawn mewn penderfyniadau ynghylch darpariaeth ar gyfer ei anghenion ef neu hi?

Darpariaeth Arlein ar gael yn y dyfodol.

Y dulliau mwyaf effeithiol o ddenu oedolion i ddosbarthiadau ac anghenion yr oedolion hynny o ran darpariaeth.

Efallai fod disgybl y credir bod angen iddo gael sylw arbennig mewn un ysgol yn cael darpariaeth effeithlon mewn ysgol arall heb unrhyw drefniadau arbennig.

Nid oedd darpariaeth mor gyson yn Lloegr, Ffrainc, a Gwlad Belg, ond golygai cyflwr cymharol ddatblygedig y gwledydd hyn fod canran gweddol fawr o'r plant yn cael addysg o ryw fath, er nad oedd hyn mor wir am y taleithiau ymylol fel Cymru neu Lydaw, o bell ffordd.

Bydd cyfrifoldeb ar yr AALl (a'r Cyngor Cyllido Ysgolion wedi i'r corff hwnnw ennill diddordeb yn y gyfundrefn leol) i sicrhau lleoliadau a darpariaeth addas i blant DAA.

Darpariaeth gan Dduw ei hun oedd yr aberth er mwyn symud, 'gorchuddio' neu 'sychu ymaith', pechod (Lef.

Nid yw'n eglur o gwbl, ychwaith, sut y bydd modd ariannu darpariaeth ar gyfer plant ag anghenion arbennig oddi fewn i'r gyfundrefn addysg arbennig na'r gyfundrefn prif-ffrwd.

Defnyddiwch ein cynllun 'ymweliadau i ysgolion a cholegau' i drafod ein darpariaeth.

I'r perwyl hwnnw, mae llawer o AALl yn dal eu gafael yn ganolog mewn darpariaeth ar gyfer disgyblion â datganiadau, gan y credant mai dyma'r ffordd orau i gwrdd ag anghenion y disgyblion.

Mae darpariaeth feithrin cyfrwng Cymraeg effeithiol a hygyrch yn hanfodol ar gyfer cynnig sylfaen dda o Gymraeg i blant sy'n siarad Cymraeg ac i blant sy'n dysgu siarad Cymraeg.

Y mae'r Papur Gwyn yn cynnig tameidio'r cyfrifoldebau dros y system addysg yng Nghymru, felly, gan wneud yn anos sefydlu darpariaeth gyd-lynus o'r bôn i'r brig a fyddai'n rhoi hyder i'r disgyblion a'u rhieni fod y ddarpariaeth briodol wedi'u sicrhau ar eu cyfer.

Mae angen datblygu'r ddarpariaeth ymhellach er mwyn sicrhau fod darpariaeth ar gael ar gyfer unrhyw un yng Nghymru sy'n dymuno ennill sgiliau ieithyddol neu eu gwella.

bydd y ganolfan yn asesu'r galw, yn datblygu deunydd dysgu newydd, yn gweithio gyda darlithwyr a hyfforddwyr, yn sicrhau dulliau hyblyg o ddysgu ac yn hyrwyddo darpariaeth i gyd o fewn y fframwaith gydnabyddedig.

Mae pryder cynyddol ynghylch y nifer cynyddol o blant sydd yn cael eu gwahardd o'r ysgolion ac na fydd darpariaeth ar eu cyfer nhw.

Dylid ceisio diffinio'n gliriach natur y 'cyfle cyfartal' o safbwynt darpariaeth adnoddau, er enghraifft mewn perthynas ag adroddiadau o'r 'Educational Publishers Council' ar gyflenwad adnoddau mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.

Gwelid ffrwyth darpariaeth drylwyr yn y cydweithrediad hapus a llyfnder y perfformiad drwyddo; yn wir, roedd cydsymud sicr y grwpiau, y cydadrodd a'r llefaru croyw yn y ddwy iaith, a hunan-hyder yr actorion wrth chwarae'n gartrefol ac yn urddasol ar lwyfan eang y Neuadd yn dangos disgyblaeth ryfeddol mewn plant mor ifanc.

Dylid ystyried sut y cynllunnir gwaith; cydbwysedd y dulliau addysgu a threfniadaeth y dosbarth; ansawdd cyfraniadau'r athro; cyflymder a phriodoldeb y gwaith ar gyfer oedran a gallu'r disgyblion; y cynnydd a wneir tuag at ddarllen cyson ac ysgrifennu estynedig; darpariaeth ar gyfer drama, addysg y cyfryngau a gwybodaeth am iaith; defnyddio technoleg gwybodaeth a'r llyfrgell.

Nid bod darpariaeth llyfrau yn y Gymraeg fawr gwell.

Ni fu gwell darpariaeth deledu o unrhyw Brifwyl erioed o'r blaen.

Mae felly yn bwysig i sicrhau y gwneir darpariaeth i wrthbwyso ffactorau negyddol y sefyllfa hon, fel y gall y plant elwa cymaint â'r fam drwy fod mewn amgylchedd gefnogol.

Yn ail, mae cyflwyno rheolaeth ysgolion yn lleol (RHYLL) yn annog AALl i gael rhesymoliad eglur dros eu darpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig ac i werthuso'r ddarpariaeth honno'n rheolaidd, ac archwilio ac adolygu'n gyson y modd y rhennir adnoddau rhwng yr amrywiol fathau o ysgolion a lleoliadau.

Lle cred yr AALl bod yr anghenion cymaint fel bod rhaid iddynt hwy, yn hytrach na'r ysgol, benderfynu ar y ddarpariaeth addysgol arbennig, yna mae'n ddyletswydd arnynt i wneud datganiad ffurfiol o AAA sy'n arenwi anghenion y disgybl ac yn gwneud darpariaeth briodol ar eu cyfer.

offer a darpariaeth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd o'r safon uchaf bosib i fod ar gael yn ystod holl drafodaethau'r Cynulliad a chyfarfodydd allanol y Cynulliad.

A ydynt yn ymwneud â monitro a gwerthuso darpariaeth?

Yn yr adran hon nodir yr hyn sydd ei angen o ran darpariaeth gynhaliol bellach i gynyddu'r cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg, yn arbennig ym maes cyfieithu.

Ond ar y llaw arall gallai fod yn llaith ac yn ddrafftiog yn y gaeaf A dyna ichwi dystiolaeth fod gennyf ffydd nid ychydig yn y Wladwriaeth Les a'i darpariaeth dai, a minnau mor beryglus o agos i'm hoedran ymddeol, heb arlliw o fwthyn uncorn o dŷ haf na dim arall i droi iddo pan fydd raid troi o'r annedd steil ar ben stôl y gwelodd yr Eglwys yng Nghymru neu ddamwain hanes imi drigo ynddi nawr'.

cartrefi nyrsio, cartrefi preswyl, darpariaeth tebyg i Abbeyfield a darpariaeth arbenigol henoed dryslyd

Lle ceir diffyg darpariaeth ar gyfer themâu trawsgwricwlaidd a/ neu ddatblygiad y dimensiwn Cymreig mewn pynciau lle y gellid disgwyl iddynt fod wedi cael eu hystyried - yn arbennig y pynciau hynny lle ceir Gorchmynion ar wahân yng Nghymru - dylid gwneud datganiad i'r perwyl hwnnw.