Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

datgan

datgan

Ofnau'n cael eu datgan fod y teledu yn lladd y sinema.

Mae un cymal yn y rheolau sefydlog yma yn datgan na ddvlai yr un aelod gael ei ethol i Gadair y Cyngor am yr ail dro tra bod aelod arall heb fod yn y Gadair o gwbl.

PENDERFYNWYD datgan cefnogaeth i lythyr Mr Cynog Dafis AS

Yn ôl Murry (a theg ychwanegu yn y fan hon nad yw bob amser yn glir ai aralleirio Keats ynteu datgan ei fam ei hun y mae) yr oedd cyswllt cyfrin rhwng y meddwl barddonol a'r ymwybod crefyddol.

(b) Datgan siom wrth y Swyddfa Gymreig ynglŷn â phrinder amser i gyflwyno sylwadau ar y cynllun.

Mae Alchemy'n barod wedi datgan na fyddai ceir yn cael eu cynhyrchu ar raddfa fawr yn ffatri Longbridge os yw eu cais yn llwyddiannus.

Byddai'n rhaid datgan i'r heddlu ble fyddem yn aros, a golygai hynny osod ein cyfeillion dan amheuaeth.

'Roedd Strategaeth Canolbarth Cymru a Grŵp Adeiledd Arfordir y Cambrian wedi datgan fod y swydd yn holl bwysig er mwyn datblygu ac hyrwyddo teithio ar reilffyrdd gwledig.

PENDERFYNWYD (a) Datgan cefnogaeth i bryderon Clwb Chwaraeon Madog.

Y ffordd ymarferol i'r Cynulliad gefnogi'r iaith yw datgan ei hawl foesol i ddeddfu ar fater y Gymraeg yn hytrach nac ymddiried y mater i San Steffan.

Yr Unol Daleithiau yn datgan siom ac yn creu gwasgfa economaidd gan orfodi Prydain i dynnu eu milwyr yn ôl.

PENDERFYNWYD (i) Datgan cefnogaeth i'r bwriad i benodi Swyddog Rheilffordd Cymuned er mwyn datblygu marchnadoedd newydd a hyrwyddo marchnadoedd presennol.

Yr oedd nifer o'r tai wedi eu prynu gan y cyn denantiaid ac yr oedd rhai ohonynt wedi datgan eu gwrthwynebiad i dalu am gysylltiad i'r brif bibell.

Argymhellir model asesu gan yr ysgol a chan yr awdurdod fesul cam a chriteria ar gyfer asesu anghenion a datgan arnynt, a chanllawiau ar gyfer trefnu a chynnal adolygiadau blynyddol.

Mae'r ddeddf yn cydnabod Basgeg fel priod iaith Gwlad y Basg, yn rhoi statws swyddogol i'r iaith ynghyd â Sbaeneg ac yn datgan nad oes modd gwahaniaethu ar sail iaith.

Mae mabwysiadu polisi sy'n datgan mai Cymraeg yw cyfrwng addysg adran y plant bach yn hollol anhepgorol os yw Cymraeg y Cymry i'w chadw'n loyw.

'Rwan 'ta, Owain, beth am ganu "Dacw Mam yn Dwad" i Guto i basio'r amser nes inni gyrraedd y caffi?' Roedden nhw wedi canu 'Dacw Mam yn Dwad' dair gwaith a 'Mi welais Jac-y-Do' ddwywaith pan welodd Carol yr arwydd oedd yn datgan fod y gwasanaethau nesaf ymhen deunaw milltir.

Mae sawl un amlwg wedi datgan eu cefnogaeth i'r ymgyrch.

Rhoddwyd y penderfyniad a ganlyn i'r Gynhadledd ac fe'i derbyniwyd: "Fod y Gynhadledd hon yn datgan ei barn yn ffafr Deiseb o blaid hunan-lywodraeth seneddol i Gymru%.

O'r dauddegau cynnar ymlaen bu Saunders Lewis yn datgan ei gred ym mhwysigrwydd creiddiol y Gymraeg i fodolaeth bywyd gwâr yng Nghymru.

Edrycher ar y penderfyniad pasiffistaidd yn gyntaf, penderfyniad yn datgan fod y Blaid yn ymwrthod â dulliau milwrol ar gyfer ennill Ymreolaeth, a hefyd yn rhan o bolisi'r Gymru Rydd.

O leiaf, prin y gwelir rhywun yn methu felly ac yn mynnu datgan ei fethiant ar gyhoedd.

Roedd y slogannau (mewn paent oren ffliresynt) yn datgan ILDIWCH I'R GYMRAEG. Bydd y ddau yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd yn y dyfodol agos. ILDIWCH I'R GYMRAEG

Ar ôl datgan mai rhyddid a hunanlywodraeth i Gymru oedd nod y Blaid, rhaid oedd mynegi pa fath neu pa ffurf ar hunanlywodraeth a fynnem a'i ddiffinio'n fanylach.

Dyma blaid geidwadol a'i gwreiddiau yng nghefn gwlad gorllewin Canada, sydd wedi datgan gwrthwynebiad i bolisi dywieithog y wlad, ac am gyfyngu ar rai mathau o fewnfudiad.

Wedi'i glywed yn datgan ...nid y ffordd i ennill brwydrau egwyddorion yw lluchio arwerthwyr a cherrig a thywyrch.

yn datgan ei barn i'r cyw cog hwn oedd yn mynd i nythu yn ei hardal ac ymyrryd a'i pharadwys!yn groenlan, a hardd ei dalcen, a'r gwallt crychfelyn yn pluo pant ei wegil fel shafins coed yn cyrflio ar foncyff cam.

(ii) Datgan siom na chafodd yr aelodau perthnasol wahoddiad i'r cyfarfod a gofyn iddynt sicrhau bod cynrychiolaeth o'r Cyngor hwn yn cael eu gwahodd i gyfarfodydd cyffelyb i'r dyfodol.

Ar hyd y lle i gyd gwelsom faneri - llawer ohonynt yn datgan yr achlysur arbennig - Majove Dni - Y cyntaf o Fai, sef diwrnod pwysig yng nghalendr y comiwnyddion.

PENDERFYNWYD datgan gwrthwynebiad wrth y Swyddfa Gymreig ynglŷn â'r codiad yn y ffioedd.

Dros y blynyddoedd mae Senedd Ewrop wedi pasio sawl mesur yn datgan bod rhaid trin pob iaith swyddogol yn gyfartal er mwyn sicrhau cyfartaledd ymhlith yr aelodau.

Yr un modd yn awr, mae Cymdeithas yr Iaith yn datgan fod amgylchiadau cyfoes yn milwra'n erbyn barhad o'r drefn bresennol o ysgolion gwledig ac, oni weithredir yn wahanol, y gallai llawer iawn ohonynt gau gyda chanlyniadau trychinebus i'r cymuedau y maent yn eu gwasanaethu.

Digon am y tro ydi datgan yn weddol hyderus, os byw ac iach, y bydd y cerrig hyn yn goffadwriaeth i rai o'n ty ni, am sbel go lew beth bynnag .

Os dywedwch, "Yr wyf yn credu yn Nuw'r Creawdwr", yr ydych yn datgan eich ffydd.

Ac yn hytrach na beirniadu Cymdeithas yr Iaith yn agored, roedd yn haws datgan rhyw bethau ysgubol fel hyn gan gymryd arnynt eu bod yn cymryd agwedd bositif.

Dwi wedi datgan fy mwriad i roi'r gorau iddi yng Nghyfarfod Cyffredinol y Gwanwyn nesa.

Bu dau gynnig brys: un yn datgan pryder y Gymdeithas ynglyn â phapur gwyrdd y Llywodraeth ar ddarlledu digidol, sy'n fygythiad gwirioneddol i S4C; a'r ail yn condemio'r BBC am eu newidiadau diweddar i Radio Cymru sydd wedi troi'r orsaf yn wasanaeth o raglenni Saesneg wedi eu cyfieithu.

Fodd bynnag, mae'n hysbys ddigon i Lywydd y Blaid Genedlaethol ddadlau'n daer ac yn llwyddiannus yn erbyn aelodau ifainc a ddeisyfai weld y Blaid yn datgan cefnogaeth i'r Weriniaeth ac i'r Basgiaid, yn dilyn cyrch awyr y Natsiaid yn erbyn Gernica.

Roedd sawl un, wrth gerdded heibio, wedi datgan yn ddistaw bach ei ryfeddod nad âi'r swp gwlân yn ddim llai o un pen y diwrnod i'r llall, er gwaethaf dyfalbarhad yr hen wraig.

(ii) Llythyr Clwb Chwaraeon Madog yn datgan pryder y byddai llinell y ffordd osgoi fwriadedig yn amharu ar eu clwb-dy.

Wrth son am 'led-glasuraeth' y ddeunawfed ganrif mae Saunders Lewis yn datgan yn feirniadol: Nid oedd ei threfn hi, ei synnwyr da a'i chytgordiad, yn effaith meistrolaeth eang ar gynnwrf profiadau, ond yn hytrach yn gynnyrch crebachu profiad a rhannau pwysig o gyflawnder bywyd.

(ii) Datgan y disgwylid i'r person a benodid i'r swydd fod yn medru siarad Cymraeg.

(ii) Anfon llythyr at berchennog y safle yn datgan siom ynglŷn â'r hyn a oedd yn digwydd ar y tir.

Gan fod cerddi'r beirdd proffesiynol yn cael eu datgan i gyfeiliant telyn neu grwth (mewn dull y collasom ni yn llwyr ei gyfrinach), fe ffurfiai'r beirdd ynghyd â'r telynorion a'r crythorion un dosbarth o wŷr wrth gerdd, a thebyg fod y cyfarwyddiaid - y gwŷr a adroddai'r hen chwedlau - hwythau'n perthyn i'r dosbarth hwn tra parhaent.

Sioc gweld y peth yn digwydd, y ffeithiau'n cael eu datgan yn oer, glir, mor blaen â mwyafrif seneddol.

'Roedd rhai o lywyddion y dydd, fel J. E. Caerwyn Williams, wedi datgan ar goedd eu bod yn cefnogi bwriad Gwynfor Evans i ymprydio, ac 'roedd hynny wedi ennyn gwrthwynebiad y rhai a gredai na ddylai'r 'Steddfod weithredu fel San Steffan y Cymry.

Yr hyn sy'n radical amdanynt ydy ein bod ni'n datgan mai yn lleol y dylid rheoli ac nad yw cael pencadlysoedd - yn Llundain na Chaerdydd - yn ateb yr anghenion.

Yn gynnar yn y flwyddyn newydd anfonwyd llythyr i bob Awdurdod Unedol yng Nghymru yn datgan disgwyliadau'r Gymdeithas o'u polisïau iaith.

Mae'n rhaid ei fod o'n wirion bost os oedd o'n credu y byddai o'n datgan ble'r oedd cuddfan ei gyfeillion.

'Roedd adroddiad y Cyngor i'r cwmni yswiriant yn datgan fod y Cyngor wedi ymateb i gŵyn ynglŷn â'r drws drwy osod drws newydd o fewn pythefnos.

"Dewch nawr, Sera," meddai a'i lais yn datgan mor ddiamyd yr oedd, ond â thinc o ddigrifwch ynghudd ynddo hefyd, "Ddaw dim daioni o ymddwyn fel yna."

PENDERFYNWYD datgan gwrthwynebiad i'r bwriad.

Yna'n sydyn mae'n derbyn llythyr oddi wrth yr awdurdod addysg yn datgan nad ydynt yn sicr ei fod yn addas ar gyfer swydd fel athro.

"...deddfwriaeth fydd yn rhoi hawliau newydd i rieni plant ag anghenion arbennig, gan gynnwys trefn tribiwnlysoedd a gwelliannau i'r drefn asesu a datgan."

Ac os dywedwch, "Nid wyf yn credu yn Nuw%, yr ydych yn datgan eich ffydd.

Mae pawb wrthi yn datgan ei faniffesto yn barod i hawlio ei le neu ei lle yn y Gymru newydd.

Datgan ei ffydd yn yr awen, y wir broses greadigol y mae Alun Llywelyn- Williams.

Nid gwyddonwyr yn unig sy'n datgan syniadau fel hyn.

Ym 1994 roedd y Gymdeithas yn datgan Na i'r Quangos, ac ym 1995 yn datgan Rhyddid i Gymru Mewn Addysg, a'n bwriad erbyn Eisteddfod Genedlaethol 1996 fydd datgan Rhyddid i Gymru ym mhob maes.

Fe ddaethon nhw i nôl fi allan, a mynnu 'mod i'n arwyddo ffurflenni yn datgan nad oedden nhw wedi fy nghamdrin a 'ngorfodi i wneud unrhyw beth yn erbyn fy ewyllys.

Mae'r ddadl na ellir gwneud y Gymraeg yn swyddogol yng Nghymru am nad oes dogfen yn datgan fod Saesneg yn swyddogol yn non sequitur. 04.

Mae llawer yn datgan slogan megis 'Heddwch i'n plant' 'Doethineb heddiw, heddwch yfory'.

Yn wyneb hyn oll, a'r gwasgar a fu ar y gweithwyr ym Maulvi Bazaar o'i achos, gofidiwn yn ddirfawr nad yw Mr Jones yn ymddangos yn teimlo fod unrhyw radd o gyfrifoldeb arno ef am yr hyn a ddigwyddodd, nac yn datgan unrhyw ofid am ei ymddygiadau a'r anghysur a achosodd i eraill; a rhaid i ni ychwanegu ein bod yn rhyfeddu at dôn a chynnwys ei lythyrau diweddaf yn roddi adroddiad mor galonnog a brwdfrydig am y gwaith ar yr orsaf.' Haerid fod Pengwern wedi dweud ei fod 'yn teimlo ei fod yn gwneud i fyny'r hyn sy'n ôl o ddioddefiadau Crist' bryd hyn.

Caerwyn Williams, wedi datgan ar goedd eu bod yn cefnogi bwriad Gwynfor Evans i ymprydio, ac 'roedd hynny wedi ennyn gwrthwynebiad y rhai a gredai na ddylai'r 'Steddfod weithredu fel San Steffan y Cymry.

Nid bod hynny'n syndod chwaith canys pobol yn 'nabod ein gilydd ydym ni a chanmol a datgan gwerthfawrogiad yn beth mor anodd, ac olrhain acha' ac edliw teulu yn beth mor hawdd.

Bydd y neges ar y faner yn gofyn i bobl ffonio Oftel er mwyn pwyso am wasanaeth Cymraeg gan y cwmnïau ffôn symudol, a hefyd yn datgan yr angen am ddeddf iaith newydd.

Dylid datgan ar yr agenda bob tro y bydd yn bosibl defnyddio'r naill iaith neu'r llall yn y cyfarfod ac y bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael.

'Roedd Testament Newydd Tyndale yn dal yn waharddedig yn Lloegr, ond mae wynebddalen Beibl Coverdale a Beibl Mathew yn datgan eu bod wedi eu trwyddedu gan y brenin (Harri Vlll).