Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

datganiad

datganiad

Ni syflai Ali ddim oddi wrth y datganiad hwn.

Lluniwyd 'Datganiad Egwyddorion' er mwyn ysgogi trafodaeth a symud ymlaen tuag at greu Cyngor Cymraeg ei gyfrwng yn Sir Gâr.

Fe honnodd mai "datganiad clyfar" ond disylwedd oedd cyhoeddiad diweddar y llywodraeth ynglŷn â diogelwch.

Syniad arall pwysig a ddaeth o Comisiwn Warnock oedd bod rhai plant i'w amddiffyn oddi fewn i'r sustem drwy datganiad o addysg arbennig (DAA), sef dogfen fyddai'n diffinio ac adnabod anghenion addysgol plentyn.

'R oedd datganiad o gefnogaeth gan Gymdeithas yr laith yn crynhoi ein teimladau ni hefyd.

Ond i ddechrau, dylid dweud fod y datganiad diwinyddol sy'n dechrau'r ewyllys yn mynegi ei safiad Protestannaidd.

Anghofiwn y sylw roddwyd i'r datganiad 'mae'r frwydr drosodd' oherwydd celu datblygiad llawer mwy brawychus y mae hynny.

Yn aml yr hyn a geir yw datganiad, digon angenrheidiol, fod yr economi yn rhannu yn naturiol yn dair rhan, ac os cydnabyddwn fod byd tu draw i'r dwr, pedair - yr enwog C + I + G + (X - M).

Yn hanes perthynas yr eglwysi â'r iaith yn y bedwareddd ganrif ar bymtheg y mae'r datganiad hwn yn eithriadol bwysig.

Plaid Cymru oedd y cyntaf i wneud datganiad cyhoeddus o blaid trefnu Ymgyrch am Senedd i Gymru, er bod Undeb Cymru Fydd dan arweiniad TI Ellis, Syr Ifan ab Owen Edwards, Moses Griffith, Dafydd Jenkins, Gwynfor Evans ac eraill yn cefnogi'r syniad.

Tipyn mwy pendant ac eglur na'r Cyfamod Sgotaidd, a llawer mwy anodd i'w dderbyn na datganiad penagored "gwnaf fy ngorau .

Datganiad, nid cyfarchiad.

Y peth sy'n taro'r darllenydd heddiw am y datganiad hwn yw ei amwysedd.

Yn eironig iawn, mae datganiad Mary Harney wedi ennill brwydr iddo, er nad, o bosib, y rhyfel.

A yw datganiad polisi'r ysgol ar y cwricwlwm yn cynnwys yr holl gyfeiriadau angenrheidiol ar gyfer y rhai ag AAA?

Gweler Datganiad Byd-Eang Hawliau Ieithyddol, Barcelona 1996.

Gwyddai hefyd y byddai ei fam - fel rhyw fath o ymddiheuriad dros beidio â' i amddiffyn pan gosbid ef - yn gwthio chwecheiniog, neu hyd yn oed swllt, yn llechwraidd i'w law, ac roedd hynny'n ei blesio'n iawn ac yn tanseilio datganiad f'ewythr, "Wel, os na halwn ni ef bant i'r ysgol, rhaid ei gadw fe'n brin o arian a chadw disgyblaeth iawn arno." Pan ddechreuodd Dic fynd i Ysgol Ramadeg Derwen, i'r Dosbarth Cyntaf, roedd yn cael mwy o arian poced mewn wythnos nag a gawn i am fis pan oeddwn yn y Chweched Dosbarth.

Yr ydym yn croesawu datganiad BT fel cam ymlaen ond mae'n gwbl anerbyniol fod disgwyl i Gymry Cymraeg sillafu'r neges a'i chyfieithu i'r Saesneg.

Nid oes gan y Deyrnas Gyfunol gyfansoddiad ysgrifenedig a'r traddodiad hwnnw o gymryd pethau'n ganiataol oni phrofir yn wahanol sydd i gyfrif am nad oes datganiad ffurfiol o statws swyddogol y Saesneg fel sydd ar gyfer ieithoedd eraill mewn gwladwriaethau sydd â chyfansoddiad ysgrifenedig.

Dyma'r datganiad: "Y mae heddiw ddeffroad ym mywyd Cymru ac awydd cryf am gyfle i hwnnw ei fynegi ei hun.

Hawdd y gallai arddel datganiad hysbys y dramodydd Lladin, Terentius, "Homo sum: humani nil a me alienum puto% - "Dyn wyf: nid ystyriaf ddim dynol yn ddieithr imi%.

ar derfyn y cyfarfod cefnogodd y gynulleidfa'r datganiad hwn : gan gredu bod rhyfel yn anghyson ag ysbryd cristnogaeth ac yn dinistrio lles gorau dynoliaeth mae'r cyfarfod hwn yn awyddus i ddatgan ei gefnogaeth i'r ymdrechion a wneir ar hyn o bryd gan y gymdeithas heddwch i ledaenu syniadau cywir am y drwg a wneir gan ryfel...

a) nad oes angen datganiad cyffredinol o'r fath ar y Saesneg fel sydd angen ar y Gymraeg am y rhesymau uchod.

Y drwg oedd nad oedd nemor ddim cyhoeddusrwydd i wir ystyr y datganiad hwnnw, ystyr a oedd yn rhan o weledigaeth lawer ehangach.

Nod ac amcan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wrth gyhoeddi'r datganiad hwn yw gosod ein safbwynt yn glir ar egwyddorion sylfaenol ein prif ymgyrch, sef Deddf Iaith Newydd i'r Ganrif Newydd.

Gwynn Jones y gadair genedlaethol ym Mangor â'i awdl enwog "Ymadawiad Arthur", ac yn yr un flwyddyn ymddangosodd erthygl gan John Morris-Jones yn Y Traethodydd, sef datganiad o gyffes ffydd lenyddol yr adfywiad.

Yn sgîl y ddogfen, anfonwyd llythyr/datganiad at nifer helaeth o bapurau newydd lleol a chenedlaethol.

datganiad o sut y disgwylir i'r cyfrif edrych ar ôl digwyddiadau a gynlluniwyd.

Mae'r datganiad hwn dipyn yn fwy athronyddol na chynnwys y cylchgrawn.

Yn ôl datganiad y clwb ddoe, roedd Redknapp wedi ymddiswyddo am ei fod eisiau newid ar ôl bron saith mlynedd yn rheolwr y clwb.

Eto, nid mater o seineg yn unig oedd troi at y gair 'cŵn', a daw hynny i'r amlwg yn y datganiad: 'A chyn belled â bod yr ystyr yn gefn i'r odl, ni welaf fi reswm yn y byd pam na allaf odli cŵn a sŵn'.

Mewn datganiad i'r wasg gan y Swyddfa Gymreig cafwyd ar ddeall bellach bod yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru wedi rhoi sel ei fendith ar y cynlluniau ynglyn a ffordd osgoi Llanbedrog a roddwyd gerbron yn yr arddangosfa yn ol ym mis Chwefror.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn croesawu datganiad heddiw gan Ann Beynon, Rheolwraig Cenedlaethol BT yng Nghymru ynglñn a negeseuon Pagers BT.

Ar ôl y datganiad ifanc, hyderus yna dipyn o ddisgyniad yw cyfraniad cyntaf y rhifyn cyntaf, sef telyneg gan Geraint Bowen nad yw'n ddim ond adlewyrchiad o delynegaeth John Morris-Jones:

Wrth i'r arweinwyr ffarwelio â'i gilydd mae eu swyddogion yn rhuthro allan gyda chopi o'r datganiad terfynol - ychydig baragraffau fel arfer y bu cryn chwysu drostyn nhw er mwyn sicrhau fod pob gair, yn llythrennol felly, yn ei le ac yn dderbyniol i'r Dwyrain a'r Gorllewin.

c) cydnabod statws swyddogol yr iaith os ydyw datganiad Yr Arglwydd Roberts o Gonwy (pan oedd yn Weinidog Gwladol), Ty'r Cyffredin 15 Gorffennaf 1993 yn ddilys, a gadael i bobl Cymru fod yn ymwybodol o statws yr iaith.

Ond, cadarnhaodd datganiad arall o enau'r Ysgrifennydd Cartref fod rhaid i'r Llywodraeth amddiffyn bywyd, eiddo'r cwmniau rheilffyrdd, a'r rhwydwaith er dosbarthu bwyd.

Erbyn hyn hefyd 'roedd Waldo wedi clywed mai cwbl gyfeiliornus oedd y datganiad a roddodd Mr S iddo am y pwyllgor: 'roeddent hwy wedi pasio i gadw Waldo yng Nghas-mael yn sefydlog ac nid yn unig tan y Tribiwnlys fel y dywedasai Mr S.

Nid yw chwaith yn unigryw i Gymru; dyma yw'r egwyddor sylfaenol y tu ôl i ddeddfwriaeth ieithyddol yng Ngwlad y Basg a Chatalonia yn ogystal â Datganiad Byd Eang Hawliau Ieithyddol (Barcelona 1996) a gyflwynwyd i UNESCO.

gall natur y dasg neu hyd yn oed ofynion y datganiad ei hun amrywio.

Y cwbl wnaeth o gadarnhau mewn datganiad - oedd yn fawr o ddatganiad mewn gwirionedd - oedd fod trafodaethau'n cael eu cynnal ynglyn â gwerthu'r clwb.

Fel y dywedodd y cyfarwyddwyr mewn datganiad wedyn:

Llunio datganiad ac adroddiad blynyddol, yn amlinellu nod ac amcanion yr Adain a'r hyn a gyflawnwyd ganddi, ac yn cynnwys dadansoddiad o wariant.

Ers y cyfarfod, rydym wedi adrodd yn ôl i'r rhai a arwyddodd y datganiad, gan ofyn iddyn nhw bwyso ymhellach ar y Cynulliad drwy ysgrifennu at Ms Butler fel unigolion.

Mae datganiad y Swyddfa Gymreig i'w groesawu, ond mae'r dystiolaeth isod yn awgrymu bod cryn ffordd eto i fynd cyn cyrraedd y nod o safbwynt y ddarpariaeth mewn nifer o bynciau.

Darllenwch ein datganiad polisi newydd, Deddf Iaith Newydd i'r Ganrif Newydd.

Anfonwyd datganiad tebyg at Mr S gan Fedyddwyr y cylch; ac anfonodd Home Guard Llandysilio i ddweud y byddent hwythau'n ymddiswyddo oni chedwid Waldo yn ei swydd.

Bydd Datganiad o Angen Arbennig (DAA) yn aml yn nodi bod angen mewnbwn sylweddol, addysgol oddi wrth therapydd llafar, cynorthwydd dosbarth a staff para-addysgol tebyg.

Lle cred yr AALl bod yr anghenion cymaint fel bod rhaid iddynt hwy, yn hytrach na'r ysgol, benderfynu ar y ddarpariaeth addysgol arbennig, yna mae'n ddyletswydd arnynt i wneud datganiad ffurfiol o AAA sy'n arenwi anghenion y disgybl ac yn gwneud darpariaeth briodol ar eu cyfer.

Cynhyrchwyd y datganiad hwn aac amgaeir ef fel adroddiad ar wahan i'r aelodau ei ystyried.

Gwneir datganiad o'r fath ar ôl asesiad gan dîm aml-ddisgyblaeth, ac mae'n rhiad i'r tîm hwnnw gynnwys rhywun sy'n gallu rhoi cyngor seicolegol, addysgol a meddygol ac mae'n rhaid iddo roi ystyriaeth i farn rhieni.

Iaith ysgrythur sydd mewn llawer datganiad ganddo, er enghraifft: "Y Duw-Greawdwr, y Tad tragwyddol a Thad ein Harglwydd Iesu Grist yw'r Duw y mae'n rhaid i ni ei addoli.

Un datganiad ysgytwol a wnaed gan filwr ifanc o Lerpwl oedd yr hoffai ochri gyda'r Cwrdiaid i roi `cweir' i fyddin Irac yn yr un modd ag yr hoffai ochri gyda'r `Protestaniaid' yng Ngogledd Iwerddon i roi cweir i'r `Pabyddion'.

Mae lle i feirniadu ar eiriad y datganiad yna, wrth gwrs; ond mae'r safbwynt y mae'n ceisio i fynegi yn hollol iach - a sosialaidd.

Roedd yr unigolion hyn (dros 250 o enwau i gyd, wedi eu casglu dros gyfnod o ryw dair wythnos), yn cytuno â'r datganiad hwn: GALWN AR Y CYNULLIAD CENEDLAETHOL I LUNIO STRATEGAETH GADARNHAOL I DDATBLYGU YSGOLON GWLEDIG.

Mewn geiriau eraill, yr oedd yn cytuno â datganiad diweddarach Morgan Llwyd, "Y sawl sydd yng Nghrist, y mae yn y wir eglwys hefyd".

barn y gweithgor oedd fod canllawiau asesu yn fwy priodol na'r pennawd cynllun marcio, gan fod asesu datganiad yn wahanol i gynllun marcio traddodiadol.

Weles i mo'n chwaraewyr ni erioed mor sharp ar ddiwedd tymor.' --Nid datganiad y bydde'r blaenwyr yn ceisio neu'n ymdrechu gwneud, ond datganiad y bydden nhw yn dal eu sgrym.

Lle ceir diffyg darpariaeth ar gyfer themâu trawsgwricwlaidd a/ neu ddatblygiad y dimensiwn Cymreig mewn pynciau lle y gellid disgwyl iddynt fod wedi cael eu hystyried - yn arbennig y pynciau hynny lle ceir Gorchmynion ar wahân yng Nghymru - dylid gwneud datganiad i'r perwyl hwnnw.