Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

dathlu

dathlu

Ac fe ddaeth y dydd pan godwyd baneri ar ben pob glofa, uwch y ddrifft hon, a'r pwll acw, ac fe dynnwyd lluniau'r glowyr buddugoliaethus, gwynder eu gwenau yn hollti'r du%wch a orchuddiai'u hwynebau, yn dathlu'r dydd pan ddaeth y cyfan oll yn eiddo i blant yr addewid.

Ddydd Sadwrn diwetha' fe ddaeth criw o artistiaid proffesiynol ac aelodau o'r cyhoedd i'r Prom yn Aberystwyth i ferfio talpiau o sebon - un o weithgareddau dathlu dengmlwyddiant Cymdeithas Gymraeg y Celfyddydau Gweledol, Gweled.

Os mai gloddesta a gwario ydi'ch Nadolig chi, does 'na, a fydd 'na byth ronyn o wirionedd yn yr haeriad bod natur yn gallu dathlu hefyd.

MERCHED Y WAWR YN DATHLU: Mewn cyfarfod ym Mhenuel, dan gadeiryddiaeth miss Menai Williams fe ddathlwyd chwarter canrif sefydlu mudiad cenedlaethol Merched y Wawr.

Ni allai ddod dros ysblander y dathlu.

Yr wythnos hon maen nhw'n dathlu canmlwyddiant dyfodiad y Daeargi Cymreig yn yr Unol daleithiau.

Os oedd Graham Henry yn diawlio, roedd Thierry Henry yn dathlu.

Yno fe'i cawn yn ei ffurf Roegaidd, Alelwia Aeth y mawl Iddewig bellach yn rhan o'r mawl Cristnogol, oherwydd dathlu buddugoliaeth yr Oen mae'r alelwia yn Llyfr y Datguddiad.

TABERNACL Llongyfarchiadau Llongyfarchwn Geraint Evans, mab Mr a Mrs John Evans ar ei lwyddiant yn arholiad TGAU a dymunwn yn dda iddo i'r dyfodol Estynnwn hefyd ein llongyfarchiadau a'n dymuniadau gorau i dri phar a fu'n dathlu yn ddiweddar gerrig milltir pwysig yn eu bywydau priodasol.

Cafodd Abertawe y fuddugoliaeth gyffyrddus yr oedd pawb yn ei ddisgwyl yn Cross Keys neithiwr, buddugoliaeth all olygu y byddan nhw'n dathlu ennill Pencampwriaeth Cynghrair Rygbi Cymru a'r Alban ddydd Sadwrn.

Bydd Caerdydd yn dathlu'u dyrchafiad nhw i'r Ail Adran ym Mansfield.

Ond er bod y briodas yr ochor arall i Fôr Iwerydd, doedd pobol Y Mwmbwls ddim am gael eu anghofio chwaith ac mi fuon nhw hefyd yn dathlu priodas un o'u merched enwaoca.

Casglodd ysgub frigog wedi ei chynnull yn dwt, cwbl nodweddiadol o'r awdur." DATHLU PENBLWYDD MEWN YSBYTY: Ie, yn naw deg oed, a'i fwynhau.

Un noswaith cytunodd y merched i ganu a dawnsio i ddiddanu dynion y ddwy garfan, ac El Hadad yn eu plith, er mwyn dathlu cytundeb ynglŷn â thâl am ddŵr y ffynnon ac am waith y gobeithient ei gael o ddwylo'r gof.

Felly, anodd iawn yw dathlu gwyl nawddsant o wlad sydd yn ddiarth i'r rhan fwyaf.

Nos Sadwrn a bore Sul fen llethwyd unwaith eto gan yr olygfa drist o Gymru yn dathlu methu ag ennill gêm bêl-droed arall.

Ddeng mlynedd ar hugain ar ôl Arwisgo Tywysog Cymru a'r dathlu a'r protestiadau a oedd yn nodweddiadol o'r digwyddiad, bu cyfres o raglenni diddorol yn dadansoddi sefyllfa'r frenhiniaeth heddiw.

Pwrpas 'Polska' oedd dathlu cyfoeth diwylliannol gwlad Pþyl ar draws y canrifoedd, a hithau'n dri-chwarter canrif ers ei hailsefydlu fel gwlad annibynnol ar ôl y Rhyfel Mawr.

Doedd pnawn Sadwrn ar y Maes Cenedlaethol ond yn brawf pellach o gyn iseled yw pêl-droed yn ein gwlad a dathlu bod yn gyfartal yn halen ar y briw.

Yr Athro WJ Gruffydd oedd hwnnw: yntau wedi dod allan yn Bleidiwr amlwg yn sgil ei wrthwynebiad i'r Ysgol Fomio, ac wedi'i gynhyrfu cymaint gan y prawf yn Llundain nes cyhoeddi y byddai Cymru mwyach yn cyfrif pob Sais yn elyn; galwodd ar Gymru oll i foicotio coroni'r brenin Siôr Vl, ond nid oedd hyd yn oed fro enedigol Gruffydd ei hun yn aeddfed i ymwrthod a the parti'r dathlu pan ddaeth yr adeg.

Bu Mr a Mrs John Evans, Cheltenham Rd, a Mr a Mrs Robert Stephens, De Londres Cl, yn dathlu eu Priodas Arian, tra bu Mr a Mrs John Stone, Grassholme Way, yn dathlu eu Priodas Rhuddem.

'Mae yna un neu ddau gyda tamed bach o ben tost yma y bore yma ar ôl bod yn dathlu.

Yr achlysur fyddai dathlu ei flwyddyn gyntaf fel arlywydd, a doedd dim amser i asesu'n iawn a oedd Menem yn wirioneddol werth ei bortreadu.

Felly mi ddyliwn fod yn dathlu gyda'r newydd fod golchi llestri yn gallu peryglu eich iechyd.

DYDDIAU GÐYL A DATHLU Gol.

Ac er bod John Williams yn rhwygo ymaith ei fasg rhagrithiol yn y cyfarfod dathlu ar ddiwedd y nofel, nid edifarhau ei fod wedi bradychu'r achos a wna, nid ymddiheruo i'r gwrth-ddegymwyr eraill ei fod wedi tynnu gwarth ar yr egwyddorion y buont hwy'n brwydro'n ddiffuant drostynt, ond ymdrybaeddu mewn hunan-gyffes sy'n arddangosfa lafoeriog o'i ostyngeiddrwydd a'i onestrwydd!

Feddylies i erioed y byddwn yn dathlu fy mhen-blwydd yn 23 oed yn China.

Eglurodd Cyng Helen Gwyn, cyn-Faer Caernarfon, ei bod wedi gwrthod y gwahoddiad am nad yw'n cytuno â dathlu'r Arwisgo.

Mae'n dathlu campau'r gwyddonwyr ymhob maes, hyd yn oed yr ymdrech gyntaf i greu bywyd dynol mewn testiwb.

O orfod hanes dathlu'r Nadolig a geir gan bob cymdeithas bron y tro yma.

Er mwyn dathlu'r cof, roedd yr Arlywydd Vytautas Lansbergis, cerddor a droes yn wleidydd, wedi trefnu cyngerdd swyddogol yn yr Opera, y palas celfyddydol moethus a godwyd, medden nhw, am fod Brezhnev unwaith wedi'i addo yn ei feddwdod.

Dro arall y canfu+m i'r rhyfeddod prin yn ffurf oenig annhymig oedd achlysur ymweliad cerbydaid ohonom â Dolwar Fach, ym mlwyddyn dathlu daucanmlwyddiant geni Ann Griffiths, llynedd blwyddyn y gwres diddiwedd.

I gydfynd â'r dathlu, bydd llawysgrifau a llyfrau printiedig yn cynnwys gweithiau Chaucer yn cael eu harddangos yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Roedd wedi gweld tameidiau o ffilmiau o bryd i'w gilydd, yn y sinema ac ar y teledu, yn dangos yr Americanwyr yn dathlu, ond nid oedd dim a welodd yn cymharu â'r sylwedd.

Dathlu Gwyl Dewi yng Ngwlad y Chwys...

Disgwylir tua chant o bobl yno i ymuno yn y dathlu ac i fwynhau'r swper mawreddog.

Mae y Gorkys yn ôl yn y stiwdio yn gweithio ar eu halbym hir nesa ar gyfer y flwyddyn 2001 pan fyddan nhw'n dathlu deng mlynedd eu bodolaeth.

Fodd bynnag mae pethau'n newid ac erbyn hyn mae llawer o bobl yn rhy brysur i drefnu "ty agored" onibai mai'r Sadwrn yw dydd y dathlu.

Cynhaliwyd seremonïau dathlu diwedd yr Ail Ryfel Byd hanner canrif ynghynt.

Os bu marwolaeth yn y teulu nid ydych yn dathlu na chynnal ty agored y flwyddyn honno.

Beth felly am beidio â dathlu o gwbl?

Mae ei chwaer-raglen Post Prynhawn, fel yr orsaf, yn dathlu ei 21ain blwyddyn.

Bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dathlu Dydd Owain Glyndŵr eleni drwy drefnu Rali dros Ddeddf Iaith y tu allan i'r Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd am 11 o'r gloch, bore Dydd Sadwrn Medi 16eg.

Cofir am Bryn yn dathlu ei fuddugoliaeth yng nghanol y dici bows a'r gwydrau gwin, ei grys ar agor a pheint ewynnog yn ei law.

Nid oedd haul y Tegla 'enwadol' yn machlud wrth iddo ymadael o'r Gadair ymhen y flwyddyn chwaith, oherwydd yn yr un Gymanfa fe'i dewiswyd--gan fod y flwyddyn ganlynol yn flwyddyn dathlu deucanmlwyddiant tro%edigaeth John Wesley-i siarad ar y pwnc hwnnw yng Nghymanfa'r flwyddyn ddilynol ym Mae Colwyn.

Dwi wedi dathlu sawl Nadolig ym Methlehem ar hyd y blynyddoedd - cysgu allan ar Sgwâr y Preseb ac yn y blaen - heb wybod ei bod hi yno.'

"Mae pob cenedl arall wedi bod yn dathlu eu gwyliau mewn ffordd arbennig bob blwyddyn ac yr oedd yn hen bryd i'r Cymry wneud yr un fath," eglurodd Julian Phillips o Dreorci sy'n gadeirydd y Clwb.

Adnabyddir tymor yr hydref yma fel tymor y "iorton" sef dathlu. Dyma pryd mae'r bobl yn dathlu eu henwau eu hunain yn ogystal â dathlu enw'r nawddsant.

Yr adeg o'r flwyddyn, pan ymddengys fel petai'r afon yn troi'n ôl ar ei hub, dyma achlysur yr þyl enwog, La Fete des Eaux, (Gþyl y Dyfroedd), pan fydd pawb mewn hwyliau da'n dathlu'r cynhaeaf a'r cyflawnder o bysgod.

Un arall sydd ddim yn mynd yw Cyng Ioan C Thomas, a dywedodd nad oes unryw gyfarfod wedi cael ei gynnal ynglŷn a'r mater heblaw trafodaeth yn y cyngor pan benderfynwyd na fyddai'r cyngor yn dathlu'r Arwisgo.

Go drapia na wnes ymholiadau manwl wrth y boi bach 'na mewn cyfnas oren oedd yn llafarganu ac yn ysgwyd clychau ynghanol y stryd fawr ddoe, neu ofyn i'r cwpwl ifanc yna geisiodd werthu cylchgrawn wrth y drws a oedd modd prynu cit dathlu'r Nadolig Amgen trwy'r post?

Dywedodd Dafydd Morgan Lewis Swyddog Ymgyrchoedd y Gymdeithas: 'Mae'n siwr y bydd nifer o fudiadau yn dymuno dathlu chwe chan mlwyddiant gwrthryfel Glyndŵr eleni.

Wedi i fand y dathlu ddistewi, diflannodd Menem i mewn i'r Casa Rosada i gyfarch yr holl lysgenhadon tramor yn y wlad.

'Tafarn yn llawn Gwyddelod ac alcs yn dathlu nos Wenar arall a ninna'n dadla ar gownt teledu o bob dim.

Yna symudir ymlaen i dy arall lle mae rhywun yn dathlu.

Daliodd Delme y cwpan yn uchel iawn ar Barc yr Arfau y prynhawn hwnnw o Ebrill a'r cwpan ar ei ffordd 'nôl i'r Strade ym mlwyddyn y dathlu.

Tybed faint o Gymry fydd yn dathlu'r þyl eleni wrth anfon cardiau di-enw at eu cariadon?

Mae Penybont yn dathlu y byddan nhw - o drwch blewyn - yn chwarae yng Nghwpan Heineken Ewrop y tymor nesa.

Taith Baner y Dathlu: Penderfynwyd y byddai'r is-bwyllgor gweithgareddau yn trefnu'r daith.

Mae'r Americaniaid yn dathlu canmlwyddiant dyfodiad y Daeargi Cymreig i'w gwlad yr wythnos hon.

Curig Davies oedd yn fwyaf cyfrifol am grynhoi defnyddiau'r llyfrynnau dathlu a'u gweld trwy'r wasg.

Hi hefyd a gyflwynodd a diolch i Mr a Mrs Dewi Jones an eu rhan hyfryd yn y dathlu.

Bu BBC Radio Wales hefyd yn dathlu digwyddiadau sy'n effeithio ar y byd i gyd.

Ochr yn ochr â'r lluniau o bobl yn mwynhau a dathlu, mae eraill sy'n dystion prudd i'r dinist a'r lladd sy'n rhan o fywyd yng Ngogledd Iwerddon ers chwarter canrif.

Mae hwn yn ddiwrnod mawr nid yn unig i'r person sy'n dathlu ond i'w deulu i gyd.

A hwythau'n dathlu eu pumed penblwydd, DEREC BROWN fu'n eu holi sut mae llwyddo heb Trebor Edwards a Hogia'r Wyddfa.

Fodd bynnag, dathlu gwyl ein nawddsant oedd yn flaenaf ym meddyliau criw a ddaeth ynghyd y tu allan i senedd-dy'r wlad am wyth o'r gloch ar fore Mawrth 1 - gryn ddeng awr o'n blaenau ni yng Nghymru.

Penderfyniad dewr felly oedd ceisio dathlu'r pen-blwydd gydag awr o raglen yn cael ei ddarlledu'n fyw.

Cyfrol yn dathlu hanner can mlynedd o ddiddanu gan Syr Harry Secombe a fu farw yr wythnos hon.

A'r dydd hwnnw oedd dydd swyddogol dathlu Jiwbili Arian yr Elisabeth a gynrychiolid gan yr 'E'.

Yn yr hen ddyddiau roedd dathlu mawr ar y Nadolig yng Nghymru.

'Rwy'n teimlo 'mod i yng nghanol ffrindia'." Un siaradus oedd Deilwen Puw, yn llawn brwdfrydedd ac yn barod i hoffi popeth ynglŷn â'r pasiant, y dathlu a'r ardal yn gyfan.

Roedd wedi gobeithio y byddai'r bechgyn hyna yn gallu dod adref i'r dathlu, ond gan mai newydd ddechrau yr oedd y tymor coleg roedd hynny'n amhosib.

Ar drothwyr Nadolig, cafwyd dathlu ar strydoedd Strasbourg.

Gan ddechrau ar Noswyl Nadolig byddai'r dathlu yn parhau am o leia' dair wythnos gan nad oedd yna lawer o waith i'w wneud ar y ffermydd yn ystod troad y flwyddyn, ac roedd pawb yn gallu canolbwyntio ar gael hwyl a sbri.

Roedd pobol yn dathlu ar y strydoedd fore Mercher ar ôl noson ddigwsg - wrth iddyn nhw weld 22 mlynedd o reolaeth byddin Israel yn dod i ben.

Roedd Dawnswyr Nantgarw newydd ennill y wobr gynta' ac yng nghanol miri'r dathlu fe ddaeth un o ferched tîm Illa de Vermadon o Bimisalen, Mallorca ataf i'n llongyfarch.

Yr Unol Daleithiau yn dathlu 200 mlynedd o annibyniaeth.

Daeth dathlu Dydd Dwynwen yn beth eithaf poblogaidd ymhlith y Cymry ifainc bellach, ond digon prin yw'r defnyddiau ar gyfer trafod cefndir yr þyl yn y dosbarth.

Ddeng mlynedd ar hugain ar ôl Arwisgo Tywysog Cymru ar dathlu ar protestiadau a oedd yn nodweddiadol o'r digwyddiad, bu cyfres o raglenni diddorol yn dadansoddi sefyllfar frenhiniaeth heddiw.

Yr ydym yn dathlu'r ffaith fod yr hyn oedd yn hen ffatri Corona wedi ei drawsnewid yn ganolfan newydd, state of the art i'r cyfryngau a thalent newydd y byd cerddorol gan Emyr Afan ai gwmni, Avanti.